Bethan Sayed: Diolch. Fe fyddwch yn deall fod gennyf ddiddordeb yn y maes penodol hwn, fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, o ystyried y byddwn yn cyflawni mwy o waith fel pwyllgor dros y pum mlynedd nesaf ar edrych ar dirlun y cyfryngau yng Nghymru a chadw a datblygu newyddiadurwyr, a’r gwaith sy’n ymwneud â newyddiadurwyr yma yng Nghymru. Dywedwyd wrthym, pan agorwyd y wasg...
Bethan Sayed: Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf gwrthodwyd caniatâd i mi fel Aelod Cynulliad i gynnal cyfarfod cyhoeddus yn ysgol newydd Bae Baglan ym Mhort Talbot gan y pennaeth ar y funud olaf, wrth i mi geisio trafod problemau parcio lleol a mynediad at gyfleusterau cymunedol yn yr ysgol. Y rheswm a roddwyd oedd ei fod yn gyfarfod gwleidyddol, ond nid oedd yn gyfarfod gwleidyddol gan fod...
Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drafodaethau y mae wedi’u cael â Trinity Mirror ynghylch y cynnig i gau gwaith argraffu’r cwmni yng Nghaerdydd, gan golli 33 o swyddi ar y safle? EAQ(5)0085(EI)
Bethan Sayed: Brif Weinidog, ymddengys y bu rhywfaint o ddryswch ar y pryd—pan drafodwyd hyn gennym o'r blaen, yn y Cynulliad blaenorol—ynghylch pa un a oedd y pwerau gennych chi ai peidio. Ac rwy’n deall eich bod wedi gallu rhoi cyngor i Aelodau Cynulliad Llafur ar y meinciau cefn yn awgrymu nad oedd, mewn gwirionedd, yn gyfreithlon i chi wneud hynny, rhywbeth na rannwyd gyda’r gweddill ohonom ni...
Bethan Sayed: Diolch am y manylion yna. Rwy’n codi hyn yn awr oherwydd bod gweithwyr dur pryderus wedi dod ataf yn ddiweddar iawn, a dweud bod y cwmni, fel yr ydych chi wedi’i ddweud, yn y broses o gyflogi staff ym Mhort Talbot—er eu bod wedi dyfynnu 200 i 250 i mi. Felly, byddai'n dda pe gallem gael dadansoddiad o hynny. Rydych yn gwybod eu bod yn amlwg wedi datgan y byddai toriadau o 750 o...
Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau staffio yn safle Tata ym Mhort Talbot? EAQ(5)0075(EI)
Bethan Sayed: Diolch am yr ateb. Daethoch at y pwyllgor cydraddoldeb, a gofynnais rai cwestiynau ynglŷn â hyn i chi, a hoffwn gael rhagor o wybodaeth am gyllideb y rhaglen, faint o staff y mae’n eu cyflogi yn benodol drwy gyllideb eich adran, a faint o bobl y mae wedi eu helpu ers dechrau’r rhaglen. Oherwydd dywedir ar y wefan fod llawer o’r arian hwn yn dod o gyllid Ewropeaidd, a hoffwn ddeall,...
Bethan Sayed: O, mae’n ddrwg gennyf, ni allaf roi’r gorau i chwerthin.
Bethan Sayed: Diolch, a byddaf yn amlwg yn awyddus i olrhain cynnydd ar y mater penodol hwnnw. Fy nhrydydd cwestiwn a’r cwestiwn olaf yw hwn: yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi cyfarfod â’ch swyddogion yr wythnos diwethaf mewn perthynas â chynhwysiant ariannol. Dengys adroddiad y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yr wythnos hon na all dwy ran o dair o bobl 16 i 17 mlwydd oed ddarllen slip talu,...
Bethan Sayed: Diolch am hynny. Nododd achos llys diweddar ynglŷn â’r ddeddfwriaeth mai naw swyddog gorfodi yn unig a gyflogir gan Rhentu Doeth Cymru. A wnewch chi ymrwymo i gyhoeddi manylion ar unwaith ynglŷn â sut y byddwch yn gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd, ac a fyddech yn cytuno y dylid rhoi adnoddau ychwanegol i Rhentu Doeth orfodi’r gyfraith, gan sicrhau ei fod yn canolbwyntio ar...
Bethan Sayed: Diolch. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn canolbwyntio ar Rhentu Doeth Cymru a’r cyhoeddusrwydd parhaus wrth i’r cyfnod cofrestru ddod i ben. Rydym wedi gweld un hwb olaf o gyhoeddusrwydd, a allai achosi problemau gyda’r prosesau gweinyddol wrth ymdrin â llwyth mawr o geisiadau, gan gynnwys y rhai sy’n dewis cwblhau’r hyfforddiant ar-lein. A fydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn erbyn...
Bethan Sayed: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cymunedau am Waith? OAQ(5)0068(CC)
Bethan Sayed: Brif Weinidog, rwy’n meddwl y byddai'n ddoniol pe na byddai mor ddifrifol bod UKIP yn rhuthro i groesawu’r darpar Arlywydd i Gymru heb drafod y ffaith fod yr ymgeisydd hwn, y darpar Arlywydd, wedi bod yn arddel casineb at wragedd, rhywiaeth a homoffobia i weddill y byd, ac fe ddylem ni fod yn bryderus dros ben am hyn. Tybed, yn yr holl ddadl o amgylch Brexit, yr Unol Daleithiau a'r...
Bethan Sayed: Diolch yn fawr. Wrth gwrs, rydw i’n falch o fod yn rhan o’r ddadl yma heddiw, ac, wrth gwrs, ni fyddwn i ddim yn gallu anghytuno â’r ffaith bod angen i ni drin teuluoedd a chyn-filwyr gyda pharch. Yn wir, byddwn i’n disgwyl i unrhyw un sydd yn byw mewn cymdeithas waraidd—er efallai nad yw rhai o’r bobl yn America yn cytuno eu bod nhw’n byw mewn cymdeithas waraidd ar ôl...
Bethan Sayed: Rwy'n meddwl bod y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet yn un cadarnhaol ac fel y byddaf yn dweud yfory yn ystod dadl y Ceidwadwyr, mae Plaid Cymru yn gefnogol i'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda chyn-filwyr, ar yr amod eu bod yn cael eu mesur yn gywir a bod y canlyniadau yn dryloyw i bawb eu gweld. Ond mae problem gynyddol o gwmpas Sul y Cofio, ac mae fy nghwestiynau...
Bethan Sayed: Roeddwn i eisiau cyfrannu’n fyr, er mwyn ceisio dadansoddi rhywfaint o'r hyn sydd wedi’i ddweud heddiw. Byddwch yn gwybod, fel Cadeirydd y pwyllgor diwylliant, fy mod i wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth gan bobl. Codwyd cwestiwn gennych am gynnwys rhai o'r llythyrau hynny. Hoffwn i ddweud, efallai, eu bod wedi eu hysgrifennu fel y maent oherwydd bod yna, yn fy marn i, ryw lefel o...
Bethan Sayed: Roeddwn i’n meddwl tybed a gawn ni ddatganiad yn amser y Llywodraeth ar ymateb eich Llywodraeth i’r ffaith na fydd Theresa May yn cwrdd ag arweinwyr Tata yn India pan fydd yn ymweld yno. Dywedodd nad oedd yn bosibl iddi drefnu cyfarfod, ac rwy’n bryderus iawn am hyn, o ystyried y ffaith bod y gweithrediadau yn y DU yn hynod bwysig i'n heconomi, fel y gŵyr pob un ohonom yn y Siambr...
Bethan Sayed: Rwyf am ganolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, ond yn gyntaf roeddwn am grybwyll rhywbeth a ddywedodd Simon Thomas ynglŷn â’r ffermydd gwynt a chau’r pyllau yn Aberdâr. Dylai fod yn ymwybodol, fodd bynnag, fod cloddio glo brig yn dal i ddigwydd yng Nglofa’r Tŵr, ac mae hynny’n rhywbeth yr hoffwn droi cefn arno yma yng Nghymru, a dyna pam y credaf fod canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy...
Bethan Sayed: Rwy’n awyddus i wybod sut rydych chi’n dylanwadu ar y gyllideb, fel Aelod Cynulliad Llafur ar y meinciau cefn, os ydych mor flin ynglŷn â sut y mae Plaid Cymru yn dylanwadu ar y gyllideb?
Bethan Sayed: Yn amlwg, mae’r cod anghenion addysgol arbennig fel y mae ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yn rhan o’r cod trefniadaeth ysgolion. Wrth ei ddarllen, roedd yn amlwg i mi ei fod yn dweud y dylid ateb anghenion plant, y dylid ceisio barn plant a’i hystyried a bod rôl rhieni yn hanfodol. Os awn â chi’n ôl at y ddadl a gawsom ar y Bil awtistiaeth yr wythnos diwethaf, pan gyfarfûm â...