Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i roi croeso cynnes iawn i’r datganiad cyllideb hwn heddiw, a gyflwynir yn erbyn cefndir o amgylchiadau economaidd heriol iawn, iawn? Rwy'n falch iawn o weld cymaint o ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu yn cael eu hariannu yn y datganiad. Rwy’n croesawu yn arbennig yr arian ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Fel y gwyddoch, Weinidog, nid ydym wedi...
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi anghenion dysgu ychwanegol Llywodraeth Cymru?
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog, ac rwy’n ymwybodol fod Cymru’n arwain y ffordd yn y maes hwn a bod eich rhagflaenydd wedi comisiynu adroddiad gan yr Athro Stephen Harris i geisio mynd i’r afael â rhai o’r materion hyn. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â pha fath o ystyriaethau rydych yn edrych arnynt, gyda golwg ar wella iechyd a diogelwch anifeiliaid o’r fath?
Lynne Neagle: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn perthynas ag arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, gan gynnwys anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol? OAQ(5)0052(ERA)
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad? Os caf ddechrau gyda CAMHS, rwy’n croesawu'n fawr iawn y buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi’i roi i CAMHS, ac rwy'n falch iawn ein bod yn dechrau gweld rhywfaint o gynnydd, ond, fel y gwyddoch eich hun, mae rhestrau aros yn parhau i fod yn annerbyniol o uchel. Roedd yn rhywbeth y tynnodd y comisiynydd...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Weinidog? A allaf ddweud o’r dechrau fy mod am dalu teyrnged i'r aelodau staff sy'n gweithredu Cymunedau yn Gyntaf yn fy etholaeth a thalu teyrnged hefyd i gyngor Torfaen am y ffordd y maent wedi arwain y prosiect, a dweud yn bendant ei fod, yn Nhorfaen, yn cyflawni canlyniadau gwirioneddol ym meysydd cyflogadwyedd, cynhwysiant ariannol, cynhwysiant...
Lynne Neagle: Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn gwybod manylion yr hyn a ddigwyddodd ar y ward hon, ond fel y gwyddoch, rwy’n hyrwyddwr hirsefydlog i’r angen i ymestyn Deddf Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys wardiau iechyd meddwl oedolion. Rwyf wedi gwneud y pwynt o’r blaen yn y Siambr mai cleifion ar y wardiau hynny yn ôl pob tebyg yw’r bobl fwyaf di-lais a welwn yn y GIG. Pan...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gyfarfod â mi ar sawl achlysur ers eich penodiad i drafod y ganolfan gofal arbenigol a chritigol a gynlluniwyd ar gyfer Cwmbrân. Fodd bynnag, erys y ffaith fod yr achos busnes ar gyfer yr ysbyty wedi bod gyda Llywodraeth Cymru ers blwyddyn yn awr, a chi bellach yw’r pedwerydd Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am wneud penderfyniad ar yr hyn sy’n...
Lynne Neagle: 5. Beth y mae’r Gweinidog yn ei wneud i ddarparu gwasanaethau iechyd o safon uchel yn Nhorfaen? OAQ(5)0049(HWS)
Lynne Neagle: Rwyf eisiau gofyn am ddatganiad ar fater y cyfeiriwyd ato eisoes y prynhawn yma—penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol yn gyrff sector cyhoeddus. Gallai'r penderfyniad gael goblygiadau difrifol iawn ar adeiladu tai yng Nghymru, ond rwy'n pryderu hefyd y gall unrhyw gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru hynny, arwain at...
Lynne Neagle: A allaf ddiolch heddiw i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad a hefyd ychwanegu fy niolch i Syr Ian a'i dîm am ei adroddiad? Rwy'n edrych ymlaen at eu gweld yn dod i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y deuddegfed er mwyn i ni ei drafod yn fanwl. Credaf fod llawer iawn i'w groesawu yn yr adroddiad hwn. Yn arbennig, rwy’n croesawu’r ffaith ei fod yn amlwg wedi ystyried barn...
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol?
Lynne Neagle: Mae Plaid Annibyniaeth y DU yn enwog am eu halergedd i ffeithiau a barn arbenigol. Felly, gadewch i ni roi ychydig o ffeithiau i UKIP am ysgolion gramadeg. Yn gyntaf, nid yw ysgolion gramadeg yn hyrwyddo symudedd cymdeithasol. Nid oeddent yn gwneud hynny yn y 1950au ac nid ydynt yn gwneud hynny yn awr. Mae’r Athrofa Addysg wedi dangos bod rhaniad cymdeithasol, wedi’i fesur yn ôl...
Lynne Neagle: Weinidog, er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru i ddiogelu llywodraeth leol yng Nghymru rhag effaith y toriadau yng nghyllideb Llywodraeth y DU, mae Torfaen, fel pob awdurdod lleol yng Nghymru, yn gorfod gweithio’n galed iawn mewn amgylchiadau ariannol heriol iawn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn lleol. A wnewch chi, felly, ymuno â mi i longyfarch cyngor Torfaen ar eu...
Lynne Neagle: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllideb i'r portffolio Cymunedau a Phlant?
Lynne Neagle: Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol, Weinidog, o ba mor bryderus yw Cymorth i Fenywod Cymru ynglŷn â’r newidiadau i’r penderfyniad i gapio lwfans tai lleol. A wnewch chi roi sylwadau ar y camau hynny, ac a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ailddatgan eich cefnogaeth i’r gwaith ardderchog y mae llochesi Cymorth i Fenywod yn ei wneud ledled Cymru? O gofio bod y newidiadau yn mynd i...
Lynne Neagle: 10. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar Gymru? OAQ(5)0030(CC)
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, ac rwy’n siŵr fod Aelodau eraill yn y Siambr hon, fel finnau, yn falch iawn o groesawu datrysiad yr anghydfod hirhoedlog, ac rwy’n ddiolchgar iawn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ymdrechion i ddod â’r anghydfod hwn i ben. Hoffwn hefyd roi teyrnged i holl weithwyr yr amgueddfa a fu’n dal eu tir ar fater tegwch i’r rhai ar y cyflogau isaf, yn enwedig y staff...
Lynne Neagle: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fel y nodwyd gennych, mae gweithgynhyrchu yn parhau i fod yn sector hanfodol yn economi Cymru, yn enwedig yn y Cymoedd. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru, mae’r sector yn parhau i grebachu o ran ei bwysigrwydd o’i gymharu â sectorau eraill yn yr economi. O ystyried yr heriau newydd difrifol iawn a fydd yn wynebu gweithgynhyrchu o...
Lynne Neagle: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithgynhyrchu? OAQ(5)0029(EI)