Mark Drakeford: Wel, a gaf i ddechrau trwy gytuno gyda’r Aelod am bwysigrwydd yr awdurdodau lleol yn y maes yma? Mae yna lot o bethau y mae’r awdurdodau lleol yn eu gwneud sy’n berthnasol i’r iaith Gymraeg a’r ‘ambition’ sydd gennym ni i dyfu’r nifer y bobl yng Nghymru sy’n gallu siarad Cymraeg am y dyfodol. It’s not for me, as local government Minister, to set targets that are in the...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae awdurdodau lleol yn ddemocrataidd atebol am eu perfformiad eu hunain yn erbyn blaenoriaethau sy’n adlewyrchu amgylchiadau lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi nhw drwy gyllid, cyngor a deddfwriaeth.
Mark Drakeford: Rwy’n clywed yr hyn sydd gan yr Aelod i’w ddweud; byddaf yn gwneud yn siŵr fod y Prif Weinidog yn cael gwybod am ei farn, gan mai’r Prif Weinidog sy’n gyfrifol am wahodd pobl i fod yn aelodau o’r panel. Bydd yn llawn o bobl sydd ag arbenigedd go iawn a safbwyntiau cadarn eu hunain. Eu harbenigedd sy’n rhoi lle iddynt ar y panel yn hytrach nag unrhyw safbwyntiau blaenorol ynglŷn...
Mark Drakeford: Diolch i Andrew Davies am y cwestiwn hwnnw. Rwy’n aelod o is-bwyllgor y Cabinet, ond mae’n cael ei gadeirio gan y Prif Weinidog. Bydd y Prif Weinidog yn mynychu cyfarfod cyntaf y panel cynghori, ond byddaf yn ei gadeirio ar ôl hynny, felly fy nghyfrifoldeb i fydd gwneud yn siŵr fod y cyngor y mae’r panel yn ei roi yn cael ei gyfleu’n uniongyrchol i is-bwyllgor y Cabinet. Yn y modd y...
Mark Drakeford: Wrth gwrs, bydd agenda’n cael ei chreu ar gyfer cyfarfod cyntaf y panel cynghori hwnnw, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig dweud mai diben y panel cynghori yw rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyngor i’r panel.
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae’r Prif Weinidog wedi sefydlu grŵp cynghori Ewropeaidd, a fydd yn dod ag arbenigedd ynghyd o’r gymdeithas ddinesig a’r gymdeithas wleidyddol yng Nghymru. Bydd yn rhoi cyngor ar yr effeithiau eang yn sgil ymadawiad Cymru â’r Undeb Ewropeaidd a’r ffordd orau o fynd i’r afael â hwy.
Mark Drakeford: Fel rwy’n siŵr y bydd yr Aelod yn gwybod, ein huchelgais oedd lleihau, a hyd y bo modd, dileu’r defnydd o safleoedd tirlenwi, ac ni welaf unrhyw atyniad o gwbl mewn gwrthdroi ein safbwynt ar y mater hwnnw.
Mark Drakeford: Rwy’n falch o glywed yr Aelod yn cydnabod y gwaith ardderchog a wnaeth yr UE yn y maes hwn yn arwain rhai o’r gwelliannau amgylcheddol a welsom ar draws y Deyrnas Unedig. Yr Undeb Ewropeaidd oedd yn gyfrifol am lusgo’r Deyrnas Unedig i gyflawni rhai o’r camau gweithredu hynny sydd wedi gwneud cymaint i wella ein hamgylchedd lleol. Heb yr Undeb Ewropeaidd—mae’n gwneud pwynt pwysig,...
Mark Drakeford: Lywydd, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gael ein perthynas ag awdurdodau lleol yn iawn. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi blaenoriaethau ac uchelgeisiau allweddol y disgwyliwn i awdurdodau lleol weithio tuag atynt a’u cyflawni. Wedyn, mater i’r awdurdodau lleol eu hunain, a etholwyd yn ddemocrataidd ac sydd â chyfrifoldebau democrataidd eu hunain, yw gwneud y penderfyniadau y maent...
Mark Drakeford: Lywydd, mae’r fformiwla ariannu yn cael ei adolygu bob blwyddyn. Mae grŵp o bobl sy’n arbenigo yn y maes, gan gynnwys cynrychiolaeth o lywodraeth leol, yn edrych ar y fformiwla bob blwyddyn. Maent yn edrych ar ei holl gydrannau: demograffeg, daearyddiaeth, economi a ffactorau cymdeithasol a phob blwyddyn, maent yn cyflwyno cynigion, ac mae llywodraethau, yn fy mhrofiad i, yn derbyn y...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, nid wyf yn credu y bydd yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe yn peri syndod i lawer a fu’n dilyn y trafodaethau sydd wedi bod yn datblygu dros y misoedd diwethaf ynglŷn â dyfodol llywodraeth leol yma yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar i’r Aelod am ei pharodrwydd i gymryd rhan yn y trafodaethau hynny. Ymwelais â phob un o’r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru dros...
Mark Drakeford: Diolch am y cwestiwn. Mae’r ffordd rwy’n bwriadu mynd ati i ddatblygu’r dreth gyngor yn rhannu’n ddau gyfnod gwahanol. Rwy’n credu bod rhai camau gweithredu uniongyrchol y gallwn eu cymryd i wella gweithrediad y cynllun sydd gennym ar hyn o bryd ac i’w wneud yn decach i unigolion. Ond rwyf am i ni feddwl yn ehangach na hynny. Rwy’n credu bod yna nifer o ffyrdd y gellid diwygio...
Mark Drakeford: Wel, bydd yn rhaid i’r Aelod aros nes 30 Medi, fel pawb arall, i weld beth fydd ailbrisiad ardrethi annomestig Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ei ddweud mewn gwirionedd yn hytrach na’r hyn y mae pobl yn dyfalu y gallai ei ddweud. Bydd yr Aelodau yma yn ymwybodol nad cynyddu swm yr arian sy’n cael ei gymryd gan fusnesau mewn unrhyw fodd y mae ailbrisio yn ei wneud, ond sicrhau yn hytrach...
Mark Drakeford: Lywydd, yr hyn a gyhoeddais yw hyn: byddwn yn ymestyn y cynllun. Pe bai’r Aelod yn gwybod fod ganddo fil o £100 i’w dalu y flwyddyn nesaf a fy mod i’n cyflwyno cynllun sy’n dweud wrtho na fyddai angen iddo dalu’r £100 hwnnw wedi’r cyfan, rwy’n credu y byddai’n ei ystyried yn doriad yn y rhwymedigaeth y byddai’n rhaid iddo ei chyflawni fel arall, a dyna’n union rydym...
Mark Drakeford: Mae’n sicr yn doriad treth, Lywydd. Roedd y cynllun presennol i fod i ddod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon. Pe na bai wedi cael ei ymestyn, ni fyddai gwerth £98 miliwn o ostyngiad yn y dreth ar gael i fusnesau bach. Buasent wedi bod yn talu’r dreth honno. Ni fyddant yn talu’r dreth honno yn awr. Mae’r dreth y buasent wedi gorfod ei thalu, pe na baem wedi gwneud y cyhoeddiad...
Mark Drakeford: Wel, rwy’n credu bod nifer o atebion i’r cwestiwn hwnnw, Lywydd. Yn gyntaf oll, mae mwy nag un ffordd y gallwn fynd i’r afael â’r bwlch ariannu. Mae hon yn un, ond mae yna ffyrdd eraill, ac rydym yn rhoi camau eraill ar waith yn y maes. Ac yn ail, yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae’n rhaid i ni weithredu o fewn yr hyn sydd ar gael i ni. Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol yn y banc...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fe fydd yn ymwybodol fod trafodaethau’n parhau gyda Tata ei hun, yn cynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Dros y dyddiau diwethaf yn unig, rwy’n gweld bod y Gweinidog wedi gofyn am unrhyw geisiadau pellach y dymunir eu cyflwyno am ryddhad ardrethi busnes yn yr ardal fenter a grëwyd yn etholaeth yr Aelod. Gallaf ddweud hyn wrtho: wrth...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am hynny. Rwy’n siŵr y bydd yn gyfarwydd â safbwynt yr hanesydd Rhufeinig, Tacitus, fod gan fuddugoliaeth lawer o dadau—mae methiant yn amddifad, ond mae gan fuddugoliaeth lawer o dadau. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith wedi gwneud cyhoeddiad mewn perthynas â’r banc buddsoddi. Caiff ei gefnogi gan gyllid y byddaf yn ei ryddhau drwy...
Mark Drakeford: Lywydd, mae’n bwysig fy mod yn gwneud fy safbwynt yn glir. Rwyf o blaid yr hawl i awdurdodau lleol a phoblogaethau lleol ddewis eu strwythur gwleidyddol eu hunain. Mae hynny’n golygu bod y dewis ar gael i’r awdurdodau a’r poblogaethau hynny lle maent yn dewis cefnogi maer lleol. Lle nad ydynt yn dewis cefnogi hynny, i ateb cwestiwn yr Aelod, nid oes gennyf unrhyw gynlluniau o gwbl...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mewn ymateb i’r dirywiad economaidd, mae ein ffocws ar dwf a swyddi, gan gynnwys cefnogi’r sector busnes, wedi bod yn sail i ddyraniadau’r gyllideb i’r portffolio economi a’r seilwaith dros y cyfnod hwn.