Alun Davies: O ran bwrw ymlaen â'r ddadl hon, nid wyf i mewn gwirionedd yn diystyru'r cyllid fel a awgrymodd yr Aelod dros Sir Fynwy mewn cyfraniad cynharach, ond yr hyn sy'n peri pryder mawr i mi yw nad oes gennym unrhyw weledigaeth nac uchelgais amlwg ar gyfer y gronfa hon. Flynyddoedd ar ôl ei chyhoeddi, nid ydym ni'n gwybod beth yw amcanion y gronfa, heblaw am ambell frawddeg yn etholiad 2017 y...
Alun Davies: Mae'n amlwg i mi a'r hyn rwy'n ei ddeall o'r sefyllfa rydym ynddi heddiw yw bod ein gwleidyddiaeth wedi'i thagu'n llwyr, ac nid oes unrhyw arwydd y caiff hyn ei ddatrys. Mae'n annhebygol o newid o ganlyniad i'r ymgyrch etholiadol o fewn y Blaid Geidwadol. Mae'n annhebygol y caiff ei ddatrys drwy etholiad cyffredinol. Ni chredaf y dylem adael heb gytundeb. Byddai honno'n weithred eithriadol o...
Alun Davies: Credaf fod hwn yn gwestiwn cwbl sylfaenol sy'n ein hwynebu fel gwlad ac fel cenedl ar hyn o bryd. Am ba resymau bynnag, a heb ddymuno mynd i mewn i'r ymgyrch ddiwethaf yn rhy ddwfn y prynhawn yma, mae'n amlwg nad yw'r hyn sydd wedi digwydd ers hynny wedi adlewyrchu'r hyn a addawyd cyn y bleidlais honno. Yr un peth a fyddai'n uno llawer ohonom ar bob ochr i'r Siambr yn fy marn i yw bod y tair...
Alun Davies: Fel eraill, roeddwn yn ddiolchgar i chi, Weinidog, am eich datganiad y bore yma ac yn ddiolchgar am rai o'r manylion a oedd ynddo—rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi'i ddweud yn fawr. A gaf fi ddweud bod gan rai pobl yn fy etholaeth fy hun bryderon ynghylch amserlenni a phryderon ynglŷn â'r amser y bydd hyn yn ei gymryd? Mae gennyf ddiddordeb mawr yn y cylch gorchwyl rydych wedi'i osod ar...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Credaf fod pob un ohonom yn cydnabod y gwaith caled a wneir gan barafeddygon i sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi, a'u bod yn ddiogel. Gwyddom hefyd fod rhai galwadau'n cael eu gohirio, yn enwedig galwadau oren a gwyrdd, a gwyddom hefyd fod rhai materion sylweddol sy'n atal y gwasanaeth ambiwlans rhag gweithredu'n effeithlon. Rwy'n meddwl yn...
Alun Davies: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau ambiwlansys ym Mlaenau Gwent? OAQ53952
Alun Davies: Gaf fi hefyd groesawu y datganiad rydym ni wedi'i glywed y prynhawn yma? Dwi'n credu bod yna groeso wedi bod efallai ym mhob un rhan o'r Siambr, ond yn bendant ar y meinciau yma mae yna groeso gwresog i hynny. Rydym ni'n falch hefyd gyda'r tôn rydych chi wedi bod yn ei ddefnyddio y prynhawn yma, Weinidog. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn arwain ar hyn, a ddim jest yn ymateb i beth rydym...
Alun Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Fel Aelodau eraill y prynhawn yma, Prif Weinidog, hoffwn groesawu eich datganiad heddiw a chroesawu'r penderfyniad. Credaf fod llawer ohonom ni wedi bod yn bryderus iawn am y cynigion o lwybr du ers blynyddoedd lawer, am nifer o resymau gwahanol. Roedd a wnelo fy mhryderon fy hun nid yn unig â'r effeithiau amgylcheddol, a fyddai wedi bod yn eithaf erchyll ar draws...
Alun Davies: A gaf i ddechrau drwy ddweud cymaint yr wyf i'n croesawu'r datganiad y prynhawn yma a chyhoeddiad y glasbrintiau hyn? Fe ddylwn i ddweud hefyd fy mod i'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei geiriau caredig yn ei datganiad. Mae methiant y system cyfiawnder troseddol i roi ystyriaeth briodol i'r setliad datganoledig a rhoi sylw priodol iddo bron iawn yn warthus. Ffaith drist yw mai rhai o'r...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Cwnsler Cyffredinol, am eich ateb i'r cwestiwn gwreiddiol. Mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod yn gweld creu awdurdodaeth i Gymru er mwyn gallu sefydlu setliad cydlynol a sefydlog yn y wlad hon. Byddwch wedi gweld adroddiad pwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin ar faterion Cymreig, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, a hefyd gyhoeddiadau'n ddiweddar gan Lywodraeth y Deyrnas...
Alun Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am brosiect Parc Rhanbarthol y Cymoedd?
Alun Davies: Diolch am adael i fi siarad am funud. Dwi wedi cael cyfle i edrych ar yr adroddiad dŷch chi wedi'i ysgrifennu. Dwi'n meddwl ei fod yn adroddiad arbennig o dda, ac mae'n dangos y math o uchelgais sydd ei angen arnom ni. Mi fyddaf i'n eich cefnogi chi y prynhawn yma pan mae'n dod i'r bleidlais. Ydych chi'n cytuno gyda fi taw beth sydd angen nawr yw strategaeth, amserlenni ac arian i sicrhau...
Alun Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, buaswn yn cynghori'n garedig iawn na ddylai'r Llywodraeth amddiffyn y ddeddfwriaeth heb ystyried y beirniadaethau a wneir ohoni. Natur deddfwriaeth yw y dylid ei hadolygu, ac mae'r Llywodraeth yn y gorffennol, yn sicr yn fy nyddiau i, wedi derbyn adolygiadau o ddeddfwriaeth. Mae craffu ar ôl deddfu wedi bod yn rhan gadarnhaol o'r broses...
Alun Davies: Yn ychwanegol at y datganiad hwnnw, datganiad rwy'n ei werthfawrogi, Lywydd, hoffwn ofyn ichi hefyd ystyried y materion hyn o dan Reol Sefydlog 1.4, lle rhoddir lefel o ddisgresiwn ichi. Mae Aelodau ar bob ochr i'r Siambr hon yn pryderu'n arw fod digwyddiadau heddiw yn tanseilio ein democratiaeth. Ni wnaeth y mentrwyr hyn sefyll etholiad o dan unrhyw label plaid y maent yn ei ddefnyddio...
Alun Davies: Mae'n dda clywed bod y Gweinidog wedi ymweld â Blaenau Gwent ac yn mynd i'r afael â'r gwaith y mae tasglu'r Cymoedd wedi'i nodi yn eu hamcanion. Fe fydd yn ymwybodol o'n sgyrsiau mai un o'r siomedigaethau a gefais fel Gweinidog yn y maes hwn oedd na lwyddasom i gwblhau'r gwaith ar gynllun economaidd strategol ar gyfer Blaenau'r Cymoedd. Fe fydd yn gwybod bod Sefydliad Bevan ac eraill wedi...
Alun Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Tasglu'r Cymoedd fel y mae'n effeithio ar Flaenau Gwent? OAQ53792
Alun Davies: Fel eraill, ac eithrio, efallai, llefarydd y Ceidwadwyr, rwyf eisiau croesawu cyhoeddi'r cynllun hwn, ac mae llawer i'w groesawu ynddo. Rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n codi arswyd ar Darren Millar yw maint yr uchelgais ynghyd â'r weledigaeth o sector gofal iechyd sylfaenol sy'n gydlynol ac sy'n trin ystod o gyflyrau ac afiechydon ar y lefel fwyaf lleol. Dyma sydd yn rhaid i ni allu ei...
Alun Davies: A gaf fi ddweud cymaint yr wyf yn cytuno â'r sylw yr ydych chi newydd ei wneud yma? Rwy'n credu ein bod i gyd yn sylwi nad yw'r blaid honno'n cael ei chynrychioli yn y Siambr hon yn ystod y ddadl bwysig hon.
Alun Davies: Prif Weinidog, fel y dywedasoch yn gywir ddigon, ni phleidleisiodd pobl Blaenau Gwent o blaid llai o wasanaethau, ni wnaethon nhw bleidleisio o blaid llai o swyddi, ni wnaethon nhw bleidleisio i fod yn dlotach, ni wnaethon nhw bleidleisio i weld gostyngiad i wariant ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol. Pleidleisiodd pobl Blaenau Gwent yn erbyn cyni cyllidol, fe wnaethon nhw bleidleisio yn erbyn...
Alun Davies: Weinidog, yn eich ymateb i'r adroddiad, disgrifiasoch Gymru fel cenedl Ewropeaidd. Nawr, am y rhan fwyaf o'n hanes diweddar, byddai hyn wedi bod yn ddisgrifiad dadleuol o'n gwlad, ac mae'n sicr yn dal i fod yn ddisgrifiad gwleidyddol iawn o'n gwlad. Ar un adeg—mae'n mynd â ni'n ôl, wrth gwrs, at ddyddiau Owain Glyndŵr a'r modd y ceisiai gael llysgenhadon y babaeth a mannau eraill i...