John Griffiths: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, o fewn cyd-destun gadael yr UE?
John Griffiths: Diolch am hynna, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch yn iawn, mae'r cyswllt rheilffordd teithwyr Casnewydd i Lynebwy yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i bobl leol, a cheir llawer o rwystredigaeth a diffyg amynedd nad yw wedi ei sefydlu eto. A allwch chi, Brif Weinidog, roi sicrwydd pellach heddiw bod y cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth i...
John Griffiths: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ(5)0461(FM)
John Griffiths: Rwy’n credu ei bod yn dda ein bod yn trafod ac yn dadlau ynglŷn ag addysg bellach yn y Cynulliad heddiw ac yn myfyrio ar ei chyfraniad i addysg a sgiliau yng Nghymru, gan y credaf ei fod yn gyfraniad trawiadol iawn, yn un a ddylai gael ei gydnabod, a dylem drafod sut y gallwn ei gryfhau a’i symud ymlaen. Un agwedd ar addysg bellach, wrth gwrs, yw’r cyfle i gael ail gyfle mewn addysg, a...
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n gobeithio y buasech yn cytuno â mi fod Casnewydd wedi gweld defnydd buddiol o Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ar gyfer adfywio canol y ddinas, gan greu adeiladau preswyl a defnydd yn lle manwerthu i bob pwrpas. Beth bynnag a ddaw yn y dyfodol o ran Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid neu gynllun tebyg, a wnewch chi barhau i weithio’n agos gyda Chyngor Dinas...
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid yn ystyried bod problem gudd yng Nghymru o ran mwncïod a phrimatiaid eraill. Credant fod oddeutu 120 yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes yng Nghymru, a bod rhai ohonynt o leiaf yn dioddef yn ddiangen o ganlyniad i ddiffyg gofal a’r ffaith nad ydynt yn addas i gael eu cadw fel anifeiliaid domestig. Mewn...
John Griffiths: Brif Weinidog, bob bore Sadwrn am 9 a.m. ledled Cymru, mae miloedd o bobl yn cymryd rhan mewn parkruns. Fe’u harweinir gan wirfoddolwyr, maen nhw'n cael eu hamseru a gall pobl fonitro eu cynnydd wrth iddyn nhw, gobeithio, wella eu hamseroedd dros y misoedd ac, yn wir, y blynyddoedd. Yng Nghasnewydd, ychwanegwyd at parkrun presennol Tŷ Tredegar yn ddiweddar gyda parkrun trefol canol y...
John Griffiths: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran sicrhau bod pobl Cymru yn gwneud mwy o ymarfer corff? OAQ(5)0420(FM)
John Griffiths: Rwy’n croesawu’r cyfle hwn i gyfrannu at yr achos dros gydnabod y sgandal gwaed halogedig a’i ganlyniadau parhaus er mwyn cefnogi’r ymgyrch am gyfiawnder gan deuluoedd yr effeithiwyd arnynt a Hemoffilia Cymru a’r angen am atebion llawn ynglŷn â sut y caniatawyd i’r drasiedi ddigwydd. Ddirprwy Lywydd, roedd gŵr un o fy etholwyr, Lynn Ashcroft, sef Bill Dumbelton, yn dioddef o...
John Griffiths: A gaf i sôn yn gyntaf, fel y mae llawer wedi ei wneud, am lygredd aer o ran allyriadau o gerbydau, a pheiriannau diesel yn arbennig, sydd, fel y gwyddom, yn niweidiol iawn i iechyd pobl. Rwyf wedi crybwyll o'r blaen yn y Siambr fy mod i wedi cwrdd â Calor, fel sefydliad, a siaradodd am newid o diesel i nwy Calor, yn enwedig efallai ar gyfer fflydoedd tacsi, ond gellid cymhwyso hyn yn fwy...
John Griffiths: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Yng Nghasnewydd, Weinidog, fel y gwyddoch rwy’n credu, mae gennym grŵp Ffit ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n dwyn ynghyd yr holl sectorau hynny a grybwyllwyd gennych i geisio cael poblogaeth leol sy’n gwneud mwy o ymarfer corff. Ai dyna’r math o fenter y gallai’r bondiau lles eu cefnogi maes o law?
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, tybed a fyddech yn cytuno bod ymdrechion i ennyn diddordeb disgyblion yn gwella’n fawr os yw rhieni a’r gymuned ehangach yn ymwneud yn agos â’u hysgolion lleol, ac os felly, a wnewch chi weithio i ddyfeisio mecanwaith neu system y gallwn ei defnyddio i fod yn hyderus y bydd ysgolion o ansawdd da sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn cael eu darparu gyda chysondeb...
John Griffiths: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith o drefnu a chyflenwi gwasanaethau llywodraeth leol yn rhanbarthol?
John Griffiths: Diolch i Gareth Bennet am y pwyntiau hynny. Rwy’n meddwl y bydd yn rhan werthfawr o waith y pwyllgor i fynd allan i ymgysylltu â phobl yng Nghymru i gael gwell syniad o’r hyn y maent yn ei feddwl am hawliau dynol yng Nghymru a sut y mae’n effeithio ar eu bywyd bob dydd, fel y mae’r Aelod wedi awgrymu. Wrth gwrs, yma, yn y Cynulliad, gwyddom fod datganoli wedi mabwysiadu agwedd sy’n...
John Griffiths: Diolch i Mark Isherwood am y pwyntiau hynny. Yr hyn rydym yn ei wneud heddiw, wrth gwrs, yw lansio ein hymchwiliad a gwahodd tystiolaeth. Rwy’n siŵr y bydd llu o fudiadau yn crybwyll llawer o faterion ac rwy’n siŵr y bydd llawer ohonynt ar y sail y mae Mark Isherwood wedi’i nodi heddiw oherwydd, yn amlwg, mae’r materion hyn yn berthnasol iawn i hawliau dynol yma yng Nghymru. Felly,...
John Griffiths: Diolch yn fawr iawn i Sian Gwenllian am y pwyntiau hynny, a chytunaf yn gryf y bydd cydraddoldeb rhywiol yn hollol ganolog i waith y pwyllgor a bod llawer o’r amddiffyniadau pwysig yn dod o’r Undeb Ewropeaidd. Ac yn amlwg, bydd Brexit, a’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig, yn berthnasol iawn i waith y pwyllgor a’r broses o ystyried nid yn unig sut y gallwn ddiogelu hawliau...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o roi gwybod i’r Aelodau heddiw fod y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lansio galwad am dystiolaeth ar gyfer ein hymchwiliad sydd i ddod ar hawliau dynol yng Nghymru. Dros yr haf, buom yn ymgynghori â rhanddeiliaid ynglŷn â beth y teimlent y dylai ein blaenoriaethau strategol fod. Roedd nifer o sefydliadau, gan gynnwys...
John Griffiths: O ran yr ymdrech allgymorth, Ysgrifennydd y Cabinet, gwn ei bod yn bwysig mynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu teuluoedd Sipsiwn/Teithwyr yn eu cyfanrwydd, gan gynnwys gwell cyrhaeddiad addysgol a lefelau presenoldeb gwell yn yr ysgol. Gwn fod yr ymdrech honno’n golygu gwaith yn y gymuned yn ogystal ag yn yr ysgol, ac ymagwedd y teulu cyfan. O ran ymagwedd y teulu cyfan ac...
John Griffiths: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym wedi cael newyddion da yn ddiweddar mewn perthynas ag ansawdd llwybr arfordir Cymru a’r manteision y mae’n eu cynnig i Gymru. Rhagwelwyd o’r cychwyn y buasai llwybr yr arfordir yn cael ei gysylltu ag ardaloedd trefol drwy lwybrau cylchol. Tybed a allech chi ddweud wrth y Cynulliad pa gynnydd a wnaed o ran y...
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, rydych wedi crybwyll allyriadau traffig ffordd ac mae’n amlwg eu bod yn chwarae rhan arwyddocaol iawn o ran llygredd aer a’r effaith ar iechyd pobl. Mae allyriadau diesel yn arbennig o arwyddocaol. A fyddech yn cytuno â mi fod—? Y gobaith yw y byddwn yn symud at gerbydau trydan cyn gynted ag y bo modd, ond cyn i ni wneud hynny, mae camau ymarferol eraill y...