Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r Cadeirydd ac aelodau'r pwyllgor am adolygu'r cynigion a geir yn yr ymgynghoriad ar raglen ddiwygiedig i ddileu TB. Rwyf wedi ymateb yn ffurfiol i adroddiad y pwyllgor a drafodir gennym yma heddiw, a chefais fy nghalonogi wrth weld bod yr argymhellion yn cyd-fynd yn fras â'n cynigion. Amlinellais fy mwriad i adnewyddu ein rhaglen i ddileu TB fis Tachwedd...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydych chi'n codi pwynt pwysig iawn am ffoaduriaid sydd nawr yma yng Nghymru o Wcráin. Gwn i y bu’r Gweinidog mewn cyfarfod ar y mater hwn y bore yma. Byddaf i'n sicr yn gofyn iddi, os oes unrhyw wybodaeth ddiweddaraf i roi i'r Aelodau amdano dros doriad yr haf, ei bod hi'n gwneud datganiad ysgrifenedig. O ran eich cwestiwn penodol ynghylch banciau bwyd, gwn i fod fy manc bwyd fy...
Lesley Griffiths: Diolch. Gwn i fod y Gyweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cael trafodaethau penodol ynghylch lefelau T gyda Llywodraeth y DU, ond rwy'n credu ei bod yn deg dweud nad yw Llywodraeth y DU wedi bod yn rhyw lawer o help yn y maes hwn. Gwnaethoch chi sôn am y sector logisteg. Gallwch chi drosi hynny i nifer o sectorau gwahanol eraill sy'n cael trafferth wirioneddol gyda maint y prinder sgiliau,...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu bod Jenny Rathbone yn codi pwynt pwysig iawn. Fel y dywedwch chi, nid yw hyn yn rhywbeth sydd wedi cael sylw eang iawn yn y cyfryngau. Mae'r llifogydd ym Mangladesh yn peri pryder mawr, ac mae ein meddyliau gyda'r genedl, ac, fel y dywedwch chi, gyda'r gymuned Bangladeshaidd yma yng Nghymru, rhaid ei bod yn poeni'n fawr am ffrindiau a theulu y mae'r digwyddiad hinsawdd...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog gofal cymdeithasol yn ymwybodol o'r pryder ynghylch hyn, ac mae'n amlwg bod cost tanwydd yn rhywbeth, fel y dywedwch, lle mae'r ysgogiadau gan Lywodraeth y DU. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn parhau i gael trafodaethau gydag awdurdodau lleol, ond hefyd gyda chymheiriaid Llywodraeth y DU.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'n sicr yn dda clywed am fenter o'r fath gan Abertawe gyda'r RNLI, ac rwy'n credu ei bod yn gyfle da iawn i atgoffa pobl o bwysigrwydd diogelwch dŵr, yn enwedig mewn tywydd poeth. Yn anffodus, rydym ni'n gweld gormod o lawer o ddamweiniau a marwolaethau yr adeg hon o'r flwyddyn. Felly, mae'n sicr yn werth tynnu sylw ato yn y Siambr heddiw, rwy'n credu, ac mae'n bwysig ein bod ni'n...
Lesley Griffiths: Diolch. O ran eich cwestiwn ynghylch clymog, gwn i fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi taflen wybodaeth gyda'r wybodaeth ddiweddaraf yn ddiweddar, yn benodol ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol, gyda chyngor ar weithredu ar dir y maen nhw'n ei reoli lle mae clymog Japan. Felly, yr ydym ni'n ymwybodol iawn o'r problemau y mae'n eu hachosi, a'r problemau y mae'n eu hachosi ledled Cymru. Ac...
Lesley Griffiths: Diolch. Yn sicr, nid wyf i'n anghytuno â'ch sylwadau ynghylch yr anhrefn yr ydym ni'n ei weld yn San Steffan. Yn amlwg, mae wedi bod yn Llywodraeth wedi'i pharlysu'n fawr, ac mae'n parhau felly. Ond yr wyf i eisiau'ch sicrhau, fel Gweinidogion—ac yn amlwg, y Prif Weinidog yn uniongyrchol â Phrif Weinidog y DU—ein bod ni'n parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU, i sicrhau bod materion...
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr iawn. Ddydd Iau diwethaf, roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol yn is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer y gogledd, y gwnes i ei gadeirio, ac yr oedd cynrychiolwyr—y cadeirydd a'r prif weithredwr—o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bresennol. Roedd mewn gwirionedd yn bwnc y gwnaethom ni ei drafod, ac yn sicr, cafodd ei godi gyda'r Gweinidog gan...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r cynnig i gytuno ar Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 wedi'i dynnu'n ôl o'r agenda heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Lesley Griffiths: Diolch. Hoffwn ateb y pwynt olaf. Soniais yn fy ateb i James Evans ein bod yn sefydlu rhai gweithgorau arbenigol, a bydd ffermwyr ifanc a newydd-ddyfodiaid yn weithgor arbenigol arall, gan y credaf eich bod yn llygad eich lle, mae'n hanfodol fod y cynllun yn gweithio ar gyfer ffermwyr cenedlaethau'r dyfodol hefyd. Dyma’r tro cyntaf inni gael polisïau a phrotocolau a chynlluniau amaethyddol...
Lesley Griffiths: Credaf fod ffermwyr tenant wedi chwarae rhan enfawr yn sicrhau ein bod yn cyrraedd y sefyllfa rydym ynddi yn awr, ac efallai eich bod yn ymwybodol y byddaf yn cynnull gweithgorau arbenigol i’n helpu i edrych ar sut y mae'r cynllun wedi'i gydgynllunio cyn yr ymgynghoriad terfynol. A thenantiaethau oedd y gweithgor cyntaf yr oeddem am ei sefydlu, gan y credaf fod ganddynt bryderon perthnasol...
Lesley Griffiths: Diolch. A chredaf ichi groesawu'n fras yr amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy a gyhoeddwyd gennym heddiw, ac rwy'n sicr wedi fy nghalonogi'n fawr gan ymateb llawer o'n rhanddeiliaid, ein hundebau ffermio ac unigolion. Ac fel y dywedwch, credaf ein bod yn sicr wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd mewn pedair blynedd, os edrychwch yn ôl at yr ymgynghoriad cyntaf, yn ôl yn 2018, ar 'Brexit...
Lesley Griffiths: Roeddwn yn falch o gyhoeddi ein cynigion ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy heddiw. Mae'r cynllun wedi'i gynllunio i gefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn cytgord â'r amgylchedd. Edrychaf ymlaen at glywed barn ffermwyr a rhanddeiliaid ar y cynigion yn ail gam ein gwaith cydgynllunio.
Lesley Griffiths: Wel, bydd datganiad ysgrifenedig. Byddwch chi'n ymwybodol bod Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn digwydd yn ystod wythnos gyntaf y toriad. Felly, bydd datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ystod toriad yr haf. Yn amlwg, nid oes modd cael datganiad llafar.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwyf innau hefyd eisiau estyn fy nghydymdeimlad i'r rhai sy'n caru ac sy'n gweld eisiau Logan. Ni fydd amser ar gyfer datganiad brys yn y ffordd yr ydych chi'n gofyn amdano, ond gallaf i eich sicrhau bod mesurau ar waith i sicrhau bod dysgu o ddigwyddiadau fel hyn yn llywio'r gwaith o wella arferion diogelu yng Nghymru yn barhaus. Mae'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, yn amlwg, mae Plaid Cymru wedi dewis defnyddio'i hamser yfory ar gyfer y ddadl yr ydych chi wedi'i hamlinellu. Rwyf i a'r Llywydd wedi clywed eich cais. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y gallwn ni ei drafod yn y Pwyllgor Busnes yn y lle cyntaf.
Lesley Griffiths: Na, ni fydd datganiad ynghylch y stadiwm, fel yr ydych chi wedi'i amlinellu. Fel y dywedwch chi, rhoddodd Llywodraeth Cymru £25 miliwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel rhan o'r Porth. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ddeiseb a gafodd ei chyflwyno i 10 Downing Street ddoe. Dyma ail ymgais i geisio cael rhywfaint o arian gan Lywodraeth y DU. Rwy'n credu'n gryf y dylem ni gael stadiwm i fyny yn y...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, mae mannau parcio i bobl anabl yn cael eu creu gan yr awdurdod priffyrdd, sef yr awdurdod lleol, yn amlwg, drwy orchymyn rheoleiddio traffig. Ac mae angen i awdurdodau lleol ystyried eu cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth cydraddoldeb yn ogystal ag ar gyfer priffyrdd. Nid oes cyllid penodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer darparu mannau parcio i bobl anabl; mae angen i awdurdodau...
Lesley Griffiths: Diolch. A byddwn i'n sicr yn hapus iawn i fynegi undod â chydweithwyr sydd yn y Siambr heddiw. A byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r pwysau y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi ar Lywodraeth y DU, a bydd hynny'n parhau.