Joyce Watson: Dyna drueni.
Joyce Watson: Diolch ichi am gymryd yr ymyriad, ond hoffwn nodi eich bod yn gwybod yn iawn nad Llywodraeth Cymru sy'n gosod y fformiwla hon, ond ei bod hi'n fformiwla y cytunwyd arni gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn cywiro'r camargraff hwnnw cyn inni fynd ymhellach.
Joyce Watson: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Joyce Watson: O'r gorau. Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Ond mae 90 y cant o'r pysgodfeydd yng Nghymru yn bysgota potiau ac fel pob math arall o offer pysgota, gall potiau pysgota gael eu colli yn y môr a gallant barhau i ddal rhywogaethau targed a rhywogaethau nad ydynt yn rhai targed heb unrhyw obaith o gael eu hadfer, rhywbeth a elwir yn bysgota anfwriadol. Ar hyn o bryd gwneir y rhan fwyaf o botiau...
Joyce Watson: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am faint o iawndal ariannol sydd wedi'i roi i bysgotwyr Cymru dros y pum mlynedd diwethaf o dan gronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop ar gyfer potiau pysgota newydd? OAQ53661
Joyce Watson: Trefnydd, a gawn ni amser i drafod rhaglen Llwybrau Diogel i Ysgolion ar Gefnffyrdd y Llywodraeth a sut mae awdurdodau cynllunio yn gweithredu'r canllawiau? Ddoe, cwrddais i â rhieni y tu allan i gatiau Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd. Mae hon yn ysgol newydd sbon sydd ychydig oddi ar yr A40 ar Ffordd Llwyn Helyg sy'n arwain i’r ystad ddiwydiannol, ac mae terfyn cyflymder o 40 mya yno. Bydd...
Joyce Watson: Cynhaliwyd adolygiad diweddar gan y Pwyllgor Annibynnol ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus a ganfu fod gwleidyddion benywaidd yn dargedau anghymesur bygythiadau ar-lein. Yn 2017, cynhaliwyd astudiaeth gan Amnest Rhyngwladol a ganfu fod gwleidyddion a newyddiadurwyr benywaidd ledled y DU ac America yn cael eu cam-drin bob 30 eiliad ar Twitter. O dan y rheoliadau presennol, nid yw'n drosedd...
Joyce Watson: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â cham-drin menywod mewn bywyd cyhoeddus ar-lein? OAQ53660
Joyce Watson: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau gwastraffu dŵr mewn cartrefi yng Nghymru?
Joyce Watson: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Joyce Watson: Onid yw'n bwysig tawelu meddwl y gymuned ar y cam hwn a'ch bod yn cadarnhau, Weinidog, nad oes unrhyw gynlluniau wrth inni siarad i newid na chael gwared ar y gwasanaethau mamolaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd yn ysbyty Llwynhelyg. Oherwydd, yn amlwg, mae'r si hon allan yno. Nid wyf yn gwybod sut na pham y mae hi allan yno, ond mae angen inni roi diwedd arni yn go gyflym, oherwydd fe fydd yn...
Joyce Watson: Rwy'n cytuno'n llwyr. A'r mater arall yr hoffwn ei godi, unwaith eto, ac fe'i codais ddoe, yw bod unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i waith yn 65 oed a hŷn—ac rydym yn sôn am bobl yn gorfod gweithio y tu hwnt i 65 oed—yn ôl ffigurau Prime Cymru, maent yn fwy tebygol o farw cyn iddynt gael swydd nag y maent o gael swydd. Ac mae angen inni fod yn ymwybodol hefyd— oherwydd bydd yn...
Joyce Watson: Gwnaf.
Joyce Watson: Rwyf am ddatgan buddiant yn hyn o beth, ac rwyf hefyd am roi gwybod i Darren Millar, sydd wedi cyflwyno'r gwelliant hwn, ei fod yn gyfan gwbl anghywir, oherwydd gwn na chefais i lythyr. Peidiwch â dweud wrthyf fy mod wedi cael llythyr a heb ei ddarllen: ni chefais lythyr, ac ni allwn ei ddarllen, ac mae hynny yr un fath i'r bobl i fyny yno. Cawsom y rhybuddion cychwynnol pan ddywedodd y...
Joyce Watson: Roedd hyn yn ddiddorol iawn, mater cysylltedd yn yr oes fodern, a daeth rhai pethau'n amlwg ac rwyf am ganolbwyntio arnynt. Un ohonynt oedd yr elfen rhannu mastiau, lle nad oes rhaid ichi ddal ati, dro ar ôl tro, i osod mastiau gwahanol i gael yr un canlyniad os rhennir un mast gan gwmnïau. Dywedodd y Gweinidog wrthym yn y trafodaethau a gawsom ei bod wedi cael trafodaethau gyda phobl yn y...
Joyce Watson: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond rwy'n gofidio fwyaf am y gweithlu a'u teuluoedd, a'r rheini sydd ar eu colled drwy'r gadwyn gyflenwi gyfan. Mae'n rhaid ei fod yn gyfnod gofidus iawn iddynt. Hefyd, mae angen sicrhau bod unrhyw brentisiaid sydd wedi cael eu dal yn hyn i gyd yn cael eu cefnogi, ac mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu wedi nodi eu bod yn barod i helpu, ac maent...
Joyce Watson: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith cwymp y cwmni adeiladu Dawnus, sydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? 288
Joyce Watson: Mae'n rhaid inni wynebu'r ffeithiau yma heddiw. Un peth oedd dweud y byddem ni'n hepgor y wleidyddiaeth yn hyn, ond peth arall yw hepgor y wleidyddiaeth o benderfyniad gwleidyddol sydd wedi cael ei wneud, sef gwasanaethu system gyfan sy'n gweld pobl mewn tlodi, mewn tlodi mawr, y bobl hynny na all weld eu ffordd trwy yfory, drennydd a thradwy—pobl sy'n troi i fyny yn ein cymorthfeydd neu...
Joyce Watson: Galwaf ar Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Joyce Watson: Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.