Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Nododd trafodaethau cynnar gyda Llywodraeth y DU y bydd ei Deddf Syndrom Down yn rhoi'r un lefel o gymorth ac amddiffyniad i bobl â syndrom Down yn Lloegr sydd eisoes yn cael eu mwynhau gan bobl yng Nghymru.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwyf bob amser wedi dadlau—ac rwyf wedi mynd i drafferthion o'r herwydd o bryd i'w gilydd—os bydd pobl o unrhyw ran gyfansoddol o'r Deyrnas Unedig yn pleidleisio dros refferendwm ar eu dyfodol, yna dylid caniatáu iddyn nhw gynnal y refferendwm hwnnw. Rwy'n credu y byddai hynny'n wir yng Nghymru hefyd. Os bydd plaid sy'n sefyll dros hynny mewn etholiad yn ennill mwyafrif o...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, nid wyf yn gweld diben ail-ymgyfreitha'r mater hwn yn barhaus o flaen y Senedd. Roedd o flaen pobl Cymru flwyddyn yn ôl, ac ni allai fod wedi bod o'u blaenau mewn termau mwy plaen. Sefais wrth ochr arweinydd Plaid Cymru mewn dadleuon pryd y ceisiodd berswadio pobl mai annibyniaeth—gan dorri'n rhydd o'r Deyrnas Unedig—oedd y ffordd orau o sicrhau dyfodol Cymru. Fe wnes i...
Mark Drakeford: Yn gyntaf oll, Llywydd, gadewch i mi ddweud hyn, mae Llywodraeth y DU yn amharchus iawn, iawn—amharchus iawn tuag at ddatganoli, amharchus tuag at y Senedd hon—wrth iddi, ddoe, smyglo allan, mewn memorandwm esboniadol, nid hyd yn oed yn y datganiad a wnaethon nhw, eu bwriad i geisio diddymu darnau o ddeddfwriaeth a basiwyd drwy'r ddeddfwrfa hon. Dim gair ymlaen llaw, dim llythyr i ddweud...
Mark Drakeford: Wel, rwy'n credu fy mod eisoes wedi ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau yna, Llywydd. Rwyf wedi esbonio i arweinydd yr wrthblaid y byddwn, cyn gynted ag y gallwn sicrhau cydbwysedd rhwng all-lif o'r canolfannau croeso, yn gallu eu hailagor i groesawu mwy o bobl yma i Gymru. Rwyf wedi amlinellu iddo lle, o dan amgylchiadau heriol iawn, y deuir o hyd i dai mwy parhaol ar gyfer pobl sydd wedi dod o...
Mark Drakeford: Wrth gwrs, mae methiant yn y system, a daw yn sgil degawd o fethiant i fuddsoddi yn y materion hyn gan eich Llywodraeth chi—pobl a'u cefnogodd dros y cyfnod hwnnw. Ond mae'r syniad bod stoc fawr a hygyrch o dai yn aros i gael eu defnyddio—nid felly y mae, a dyna pam mai'r cynigion gan deuluoedd fydd asgwrn cefn y ffordd y gallwn symud pobl y tu hwnt i'r ganolfan groeso ac ymlaen i'r cam...
Mark Drakeford: Llywydd, wrth gwrs rydym eisiau i bobl symud ymlaen o'r canolfannau croeso cyn gynted ag y bydd yn ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Bydd amrywiaeth o gyrchfannau ar gyfer pobl sy'n gadael y canolfannau hynny. Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf ohonyn nhw yn mynd at y teuluoedd hynny sydd wedi cynnig gofalu mor hael am rywun sy'n dianc rhag erchyllterau Wcráin, ond mae llwybrau eraill yn cael eu...
Mark Drakeford: Diolch i Andrew Davies am y cwestiwn yna, Llywydd, ac mae'n iawn iddo dynnu sylw at erchyllterau parhaus digwyddiadau yn Wcráin. Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod atal ein platfform uwch-noddwr dros dro oherwydd ei lwyddiant eithriadol. Rydym wedi cael llawer mwy o bobl yn manteisio ar y cynnig posibl i ddod i Gymru, ac rydym eisoes wedi cael llawer mwy o bobl yn cyrraedd Cymru na'r 1,000 a...
Mark Drakeford: Diolch i Joel James am y cwestiynau yna. Mae'r adolygiad manylach o'r Mesur teithio gan ddysgwyr yn digwydd ar hyn o bryd, yn yr ystyr bod y cynllunio manwl ar gyfer yr adolygiad yn cael ei gynnal dros yr wythnosau nesaf, ac rydym wedi cytuno â'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol y bydd y gwaith gyda nhw ar yr adolygiad hwnnw yn dilyn yn nhymor yr hydref. Bydd elfen yn yr adolygiad hwnnw'n...
Mark Drakeford: Wel, diolch i Heledd Fychan am y pwyntiau pwysig yna. Fel dywedodd hi, rydym ni'n gallu gweld y costau byw yn cynyddu bron bob wythnos. Wythnos diwethaf, roedd yr ONS wedi cyhoeddi'r ffigurau misol sydd gyda nhw yn dangos bod costau byw wedi mynd lan 9.1 y cant ym mis Mai, ond bod costau trafnidiaeth wedi codi, yn yr un ffigurau, 13.8 y cant. So, gallwn ni weld, wrth gwrs, yr effaith mae...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr i Heledd Fychan. Llywydd, mae disgyblion cynradd sy'n byw ymhellach na 2 filltir o'r ysgol a disgyblion uwchradd dan 16 oed sy'n byw ymhellach na 3 milltir o'r ysgol yn cael trafnidiaeth i'r ysgol am ddim. Cafodd adolygiad o'r Mesur teithio gan ddysgwyr ei gyhoeddi ar 31 Mawrth, a bydd adolygiad manylach yn dilyn yn awr.
Mark Drakeford: Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth Jane Dodds yn un pwysig, Llywydd. Mae hyn yn gyfrifoldeb i'r holl weision cyhoeddus sy'n dod i gysylltiad â phlant sy'n dangos tystiolaeth bod profiad o drais domestig wedi effeithio arnyn nhw eu hunain. O ran yr amcanion y cyfeiriais atyn nhw yn y strategaeth genedlaethol, mae'r pumed o'r chwe amcan yn canolbwyntio ar anghenion hyfforddi'r gweithlu, er mwyn...
Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Jane Dodds. Wrth gwrs, dwi'n cytuno â phopeth roedd hi'n dweud am y gwaith y mae pobl yn ei wneud yn y rheng flaen, yn enwedig pobl sy'n gweithio ym maes anodd a heriol gofal plant.
Mark Drakeford: Llywydd, fel Llywodraeth, rydym wedi gweithio'n agos gyda'r comisiynydd dioddefwyr, Vera Baird QC. Rwy'n credu ei bod wedi gwneud gwaith effeithiol iawn. Mae hi wedi dangos diddordeb gwirioneddol yn yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Ac rwy'n credu bod y system honno wedi ein gwasanaethu'n dda hyd yma. Wrth gwrs, rydym bob amser yn agored i syniadau am ffyrdd o wella'r system, ond rwy'n credu...
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig, ac mae'n iawn iddo ddweud bod y strategaeth newydd yn ceisio adeiladu ar y cynnydd sydd eisoes wedi'i wneud; ni fyddai'n bosibl adeiladu ar gynnydd pe na bai cynnydd eisoes wedi digwydd yn ystod y pum mlynedd cyntaf. Cyfeiriais yn fy ateb i Joyce Watson at chwe amcan y strategaeth genedlaethol bum mlynedd newydd. Mae'r trydydd...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n llongyfarch Joyce Watson ar ei defnydd o'r cyfleuster y mae'r Comisiwn yn ei ddarparu er mwyn i Aelodau allu cynnal ymchwil i faterion o arwyddocâd lleol ac, yn ei hachos hi, o arwyddocâd cenedlaethol. Mae gen i gopi o'r adroddiad, felly, wrth gwrs, rwy'n awyddus iawn iddo gael ei ddarllen yn eang. Bydd yn sicr yn cael ei drafod gan gyd-Weinidogion yn y Cabinet. Mae'n...
Mark Drakeford: Llywydd, diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae ein strategaeth genedlaethol bum mlynedd, a gyhoeddwyd fis diwethaf, yn nodi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a mathau eraill o drais. Nod ei chwe amcan yw sicrhau cefnogaeth gynhwysfawr i ddioddefwyr, lle bynnag y maen nhw'n byw yng Nghymru.
Mark Drakeford: Diolch yn fawr, Llywydd. Wythnos diwethaf, yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, ymatebais i gwestiynau ar y streiciau rheilffyrdd. Yn dilyn hynny, rhoddodd Network Rail fanylion pellach ar ei weithredoedd yn ystod y streic. Cadarnhaodd nad oedd unrhyw staff wedi eu hadleoli o Gymru. Ysgrifennais at arweinydd yr wrthblaid ar 24 Mehefin yn esbonio hynny. Wedi hynny, gyda chytundeb Network Rail,...
Mark Drakeford: We are helping to keep money in people’s pockets through initiatives such as our Council Tax Reduction Scheme and our recently announced Fuel Voucher Scheme. We are also helping people access the financial support they are entitled to through our Claim What’s Yours campaign and the Single Advice Fund.
Mark Drakeford: Welsh Government takes women’s safety very seriously. Through Impact Assessments, we evaluated potential effects of our LGBTQ+ Action Plan on women’s rights and safety.