Mike Hedges: A gaf i bwysleisio eto bwysigrwydd adeiladu tai cyngor er mwyn ymdrin â'r argyfwng tai sy'n wynebu Cymru? A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i longyfarch Abertawe bod pobl bellach yn byw yn eu cartrefi cyngor newydd a hefyd y rhai sy'n cael eu hadeiladu? Ond beth arall a all Llywodraeth Cymru ei wneud i oresgyn yr hyn sy'n atal cynghorau rhag adeiladu nifer fawr o anheddau cyngor, sef yr...
Mike Hedges: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar dai cyngor? OAQ53589
Mike Hedges: Yn fwy diweddar, galwodd Nia Griffith, yr Aelod Seneddol dros Lanelli, mewn dadl ohirio am gofrestru gwladol gorfodol, ond gwrthodwyd hynny gan Weinidogion Llywodraeth y DU, a ddywedodd y byddai cofrestru'n costio £75 miliwn i'r diwydiant. Ym mis Tachwedd 2013, cafodd y mater ei drafod yn y Senedd. Cyflwynwyd y mater gan Keith Davies, y cyn-Aelod dros Lanelli, mewn un o'r dadleuon byr hyn....
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yn y ddadl hon i Jack Sargeant a Joyce Watson. Ddydd Llun nesaf, gallaf gofrestru fel adeiladwr. Ddydd Mawrth, gallaf gofrestru fel person trin gwallt. Ddydd Mercher, gallaf ddechrau busnes gwaith coed. Ddydd Iau, gallaf ddechrau busnes therapi harddwch. Ddydd Gwener, gallaf geisio gwaith fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Ddydd Gwener, bydd holl...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i chi am yr ymateb hwnnw? Credaf fod gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yn wariant ataliol mewn gwirionedd am ei fod yn atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty yn y pen draw, ac mae hynny'n gallu digwydd os yw'r gofal cymdeithasol o ansawdd gwael neu os nad oes gofal cymdeithasol o gwbl. Beth yw bwriad Llywodraeth Cymru o ran darparu gofal cymdeithasol naill ai'n uniongyrchol...
Mike Hedges: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru? OAQ53541
Mike Hedges: Rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth. Dim ond methu deall yr wyf i pam nad yw pawb arall yn credu ym mhwysigrwydd coedwigoedd, oherwydd fy mod i'n credu mewn gwirionedd eu bod un o'r pethau pwysicaf sydd gennym ni. Nid wyf yn credu y gallwch chi mewn gwirionedd gael gormod o goed, ac mae hi wastad yn ofid imi pan welaf nifer o goed yn cael eu torri. Yn etholaeth Rebecca Evans, mae cochwydd...
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effeithiolrwydd y cynllun cymorth i brynu?
Mike Hedges: Diolch. Y cyfan sydd ei angen mewn gwirionedd yw i'r Llywodraeth ddiddymu rhyddhad ardrethi ar dai i fusnesau bach.
Mike Hedges: Mae tai yn her fawr sy'n wynebu Prydain gyfan, gan gynnwys Cymru. Gellir rhannu'r cyfnod ar ôl y rhyfel yn ddau gyfnod o ran adeiladu tai. Yn gyntaf, y cyfnod o 1945 i 1980—yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelsom dwf enfawr yn nifer yr ystadau o dai cyngor ac adeiladu nifer fawr o ystadau newydd mewn ardaloedd trefol. Hefyd, gwelsom dwf perchen-feddiannaeth a dechrau adeiladu ystadau preifat...
Mike Hedges: Yn gyntaf, a gaf fi groesawu'r ddadl hon? Dyma'r ail ddadl i ni ei chael ar dai ers y Nadolig. A gaf fi ddweud pa mor falch wyf fi o ddechrau sôn am dai? Oherwydd credaf ei fod yn un o'r pethau pwysicaf. Ar ôl bwyd a diod, y peth pwysig nesaf i fywydau pobl yw tai. Felly, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig inni ddechrau siarad am hyn. Gobeithio y bydd y ddadl nesaf yn ymwneud â...
Mike Hedges: Oeddwn, diolch. Hyd yn oed os yw'r cytundeb 106 yn dda iawn ar y dechrau, yr hyn a welwch yn aml, neu bron bob amser, yw'r datblygwr yn dod yn ôl a dweud, 'Nid wyf yn mynd i wneud digon o arian gyda'r cytundeb 106 hwn—a gawn ei newid? A gawn ni leihau nifer y tai fforddiadwy ac a gawn ni beidio ag adeiladu'r pethau hyn, oherwydd ni allwn ei fforddio, oherwydd mae'n debyg y bydd ein helw i...
Mike Hedges: A gaf fi gytuno â phopeth a ddywedodd Dai Lloyd a David Rees? Hoffwn ychwanegu hefyd, wrth gwrs, fod y Gweilch yn safle 75 ar y rhestr o'r cwmnïau mwyaf yn rhanbarth SA. Mae'r Scarlets yn safle 84 ar y rhestr o'r cwmnïau mwyaf yn rhanbarth SA. Rydym yn sôn am gyflogwyr mawr. Mae llawer o fy etholwyr wedi bod yn poeni, ers i hyn gael ei drafod, na fydd ganddynt swydd. A buaswn yn awgrymu...
Mike Hedges: Pa gynnydd sy'n cael ei wneud er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfarfal?
Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa arloesi-i-arbed?
Mike Hedges: Mae gennyf nifer o sylwadau i'w gwneud ar yr ail gyllideb atodol. Mae bob amser yn anfantais dilyn Llyr Gruffydd a Nick Ramsay, sydd yn gwasanaethu ar yr un Pwyllgor â mi, gan fod llawer o'r pethau yr oeddwn i am eu dweud eisoes wedi eu dweud, a dwi ddim yn credu bod pobl eisiau eu clywed am yr eilwaith. Hoffwn ymateb i rywbeth ddywedodd Adam Price am fentrau bach a chanolig—rhywbeth yr...
Mike Hedges: Diolch, Lywydd. Rwyf yn siarad ar ran y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, Yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Ystyriodd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Lles Anifeiliaid (anifeiliaid sy'n gweithio) yn ein cyfarfod ar 13 Chwefror. Canolbwynt ein hystyriaethau oedd amcanion polisi y Bil fel y'u nodir yn y Memorandwm. Ni chawsom unrhyw reswm dros wrthwynebu i'r Cynulliad gytuno ar...
Mike Hedges: A gaf i ddychwelyd at y colli swyddi yn Virgin Media yn Abertawe? Ym mis Ionawr, fe ddywedoch chi: Gadawodd y garfan gyntaf o'r staff hynny ym mis Tachwedd, ac mae dau gam eto yn yr arfaeth ar gyfer eleni. Mae tîm cymorth Virgin Media y tu allan i'r gweithle yn gyfrifol am ddarparu cyfle i staff gwrdd ar y safle â phartneriaid allweddol ein tasglu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru,...
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o losgi fel rhan o reoli gwastraff?
Mike Hedges: O, mae'n ddrwg gennyf; nid oeddwn yn siŵr a oeddech wedi gorffen. Er bod tai cydweithredol yn darparu cyfran sylweddol o anheddau mewn llefydd mor amrywiol ag Efrog Newydd, Vancouver a'r gwledydd Llychlyn, nid yw'n darparu llawer o dai yng Nghymru. A wnaiff y Gweinidog sefydlu tasglu neu gymryd camau i nodi beth sydd angen ei wneud i gynyddu tai cydweithredol yn sylweddol yng Nghymru? Credaf...