Russell George: —a'r potensial i chwyldroi'r sectorau gweithgynhyrchu, trafnidiaeth a gofal iechyd, mae edrych ymlaen mawr at hynny. Ond mae 5G yn annhebygol o ymestyn signal rhwydweithiau symudol, gan ei fod yn ymwneud mwy â chynyddu capasiti'r rhwydwaith nag ymestyn ei gyrhaeddiad. Ac nid yw'r dechnoleg ar gyfer 5G yn elwa'n uniongyrchol o'r newid yn y rheolau datblygu a ganiateir, gan fod...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Mae'r adroddiad sydd ger ein bron heddiw yn edrych ar y cynnydd a wnaed ar gynllun gweithredu ffonau symudol Llywodraeth Cymru, ac mae'n dilyn ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2017 i'r seilwaith digidol yng Nghymru, pan argymhellwyd gennym y dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiadau pendant i gydweithio â...
Russell George: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae'r grŵp defnyddwyr Which? wedi tynnu sylw'n ddiweddar at fater mynediad at arian parod ledled Cymru ac wedi nodi bod Cymru wedi colli 3 y cant o'i rhwydwaith peiriannau codi arian parod am ddim rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd y llynedd. Ac wrth inni newid tuag at fod yn gymdeithas fwyfwy digidol, teimlaf fod pobl yn fy etholaeth wledig yn cael...
Russell George: Diolch ichi, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n falch eich bod chi ac Alun Cairns yn gweithio gyda'ch gilydd ar hyn, ac rwy'n falch eich bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau lleol am bethau yn ogystal. Ond buaswn yn ddiolchgar pe gallech hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau, efallai drwy ddatganiadau, oherwydd mae gan bawb ohonom ddiddordeb yn hyn. Rwy'n falch fod yr adroddiad...
Russell George: Diolch i chi am eich ateb, Ddirprwy Weinidog, ac nid wyf yn anghytuno â dim a ddywedasoch. Rwyf am geisio nodi beth oedd eich asesiadau cychwynnol o'r argymhellion hynny ac efallai y gallech ymdrin â hynny. O ddarllen yr adroddiad fy hun, nodais fod yr argymhellion allweddol yn amlinellu'r angen am weithredu dros y pedwar mis nesaf. Nawr, camau i'r fargen ddinesig eu cyflawni yw'r rhain,...
Russell George: Diolch, Lywydd. Y mis diwethaf, comisiynwyd Actica Consulting gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y cyd i gynnal adolygiad cyflym dan arweiniad annibynnol o drefniadau ar gyfer darparu bargen ddinesig bae Abertawe, gwerth £1.3 biliwn. Rwy'n troi fy mhen yn awr at y Dirprwy Weinidog gan y gallaf weld mai dyna'r ffordd y mae'r drafodaeth yn mynd. Gwnaeth yr adroddiad saith argymhelliad...
Russell George: 6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff trosglwyddo i gymdeithas ddigidol ar drigolion yn y canolbarth? OAQ53598
Russell George: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth amaethyddol ar ôl Brexit?
Russell George: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Rwy'n ymwybodol o’r embargo oriau brig ar symudiadau llwythi annormal, sy’n cynnwys cario carafanau, ar bob ffordd, bron, yn ardal heddlu Manceinion Fwyaf. O 1 Ebrill ymlaen, fe fydd cerbydau yn cael eu stopio, ac ni fyddan nhw’n cael parhau ar eu taith yn ystod oriau brig, fel yr wyf i ar ddeall. Fe fydd hyn yn effeithio ar...
Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Ar hyn o bryd, mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i isafswm o 10 awr yr wythnos o addysg cyfnod sylfaen am ddim yn yr ysgol neu mewn meithrinfa a ariennir yn y tymor ar ôl eu trydydd pen-blwydd. Yn Lloegr, mae gan bob plentyn hawl i 15 awr yr wythnos. Oherwydd natur wledig llawer o ganolbarth Cymru, nid yw dwy awr yn hyd addas o amser, o ran teithio, i bobl...
Russell George: Rwy'n enwebu Mark Isherwood.
Russell George: 10. Sut y mae adran y Gweinidog yn cyfrannu at y thema allweddol 'uchelgeisiol ac yn dysgu', fel sydd wedi'i nodi yn 'Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol'? OAQ53547
Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg y cyfnod sylfaen?
Russell George: Drefnydd, credaf fod ardaloedd gwella busnes yn ffordd dda o sicrhau bod busnesau a chynghorau cymuned lleol yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae'n fodel da, yn fy marn i, ac mae'r Drenewydd yn mynd drwy'r broses honno ar hyn o bryd. Ai’r bwriad yw y bydd unrhyw elw ariannol o gynnig posibl yn cael ei sianelu drwy gynghorau tref a chymuned fel y gallant weithio ar ran eu cymunedau i ddylanwadu...
Russell George: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y gyllideb ar gyfer gweithredu'r mesurau a gynhwysir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
Russell George: Cytunwyd bargen ddinesig prifddinas Caerdydd gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a 10 o awdurdodau lleol yn ôl ym mis Mawrth 2016, ac rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno bod hon yn enghraifft dda o Lywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu prosiectau seilwaith mawr. Yn y blynyddoedd i ddod, bydd Llywodraeth y DU yn darparu cannoedd o filiynau o bunnoedd o gyllid i...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ardrethi busnes yn y sector gwyliau?
Russell George: Nid ef fydd yn gwneud, ond rhywun arall; Aelod arall fydd yn gwneud hynny.
Russell George: Rwy'n edrych ymlaen at y sylwadau i gloi dyna i gyd. [Torri ar draws.] Mae gan John Griffiths ddwy funud yn ei sylwadau i gloi. Dyna rwy'n edrych ymlaen ato. [Chwerthin.]
Russell George: Hoffwn eilio cynnig Huw Irranca-Davies, sydd wedi'i gyd-gyflwyno ar sail drawsbleidiol mewn ymdrech i annog Llywodraeth Cymru i ddiweddaru ei huchelgais ar gyfer teithio llesol drwy strategaeth teithio llesol gynhwysfawr. Ac ni chredaf y bydd unrhyw anghytundeb yn y Siambr hon ynglŷn â manteision teithio llesol. Maent yn niferus, gan gynnwys y cyfraniad y gall ei wneud tuag at drechu...