Mark Isherwood: Mae'n debyg i dderbyn cyngor ar chwarae pocer gan gamblwr sydd wedi colli ei arian i gyd. Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn codi bwganod am y trafodaethau masnach sydd i ddod gyda'r UE. Fodd bynnag, mae Cymru'n elwa o berthyn i farchnad sengl ac undeb tollau'r DU, lle mae'r rhan fwyaf o economi Cymru'n cael ei masnachu. Fel y dywedodd cyn-lysgennad y DU yn yr Almaen a'r Unol...
Mark Isherwood: Fe gymeraf un ymyriad, gwnaf.
Mark Isherwood: Mewn unrhyw drafodaethau, mae'r ddwy ochr yn dechrau gyda rhestrau hir o ddymuniadau, ond rhaid i gytundeb ddod allan ar y diwedd ac mae honno'n llinell goch i Lywodraeth y DU. Maent yn codi bwganod ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU, pan oedd ein maniffesto Ceidwadol yn y DU yn datgan yn glir y bydd Cymru'n cael o leiaf yr un lefel o gymorth ariannol ag a gaiff ar hyn o bryd gan yr UE....
Mark Isherwood: Ar 23 Mehefin 2016, pleidleisiodd y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, pleidleisiodd Cymru i adael, ac fe wnaeth hynny eto yn etholiadau Ewrop y llynedd. Yn etholiad cyffredinol y DU fis diwethaf, pleidleisiodd pobl gogledd Cymru o blaid cyflawni Brexit. Ac eto, mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, wedi gwrthod dilyn cyfarwyddyd y bobl ar hyn a nifer gynyddol o...
Mark Isherwood: Iawn. Os caf symud ymlaen at gyngor penodol, mae bron i ddau ddegawd bellach ers i reolwr archwilio mewnol Sir y Fflint lwyddo yn ei achos yn erbyn y cyngor, ac roedd gwrthod mynediad at ddogfennau a methiant i ymateb i ohebiaeth yn nodwedd ganolog o'i gwynion. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cawsom y sgandal cynnal a chadw tai, lle nodwyd problemau tebyg gan PricewaterhouseCoopers ac...
Mark Isherwood: Wel, fel y dywedais—nid wyf am fynd ar drywydd cyni—dywedasant 'hyd yn oed gyda'r setliad cadarnhaol eleni'—felly maent yn cydnabod hynny, ac mae llofnodion trawsbleidiol ar y llythyr hwn—er mwyn ymateb i'r pwysau ar wasanaethau blaenoriaethol a arweinir gan y galw fel gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant, maent yn dweud y byddant yn wynebu toriadau heb gyllid...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Ar 10 Ionawr, anfonwyd llythyr atoch gan, neu wedi'i arwyddo gan, arweinwyr pob un o chwe chyngor sir gogledd Cymru ynghylch y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2020-21. Ac roedd yn dweud, 'Hyd yn oed gyda setliad cadarnhaol eleni, byddwn i gyd yn edrych ar leihau rhai gwasanaethau a chynnydd uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor. Yng ngoleuni'r heriau parhaus, rydym yn dymuno...
Mark Isherwood: Mae swyddfeydd post yn dal i fod yn ganolog i'n cymunedau, yn enwedig lle mae'r gangen olaf o fanc wedi cau. Yn ystod blynyddoedd rhaglen Llywodraeth y DU i gau swyddfeydd post rhwng 2007 a 2009, dywedwyd wrthym dro ar ôl tro yma—a hynny'n gwbl briodol—fod yn rhaid i swyddfeydd post fod yn gynaliadwy a bod hynny'n cynnwys datblygu gwasanaethau ariannol. Fis Hydref diwethaf, cyhoeddwyd...
Mark Isherwood: Diolch. Fel y gwyddoch, roeddem yn edrych ymlaen at gyhoeddi ymgynghoriad y strategaeth tlodi tanwydd y mis hwn, a'r cynllun terfynol y mis nesaf. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl dystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad i dlodi tanwydd, gan alw, dyfynnaf, 'am ddull mwy cyfannol', gan ddweud mai eiddo yn rhai...
Mark Isherwood: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru? OAQ54981
Mark Isherwood: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch gweithrediadau Swyddfa'r Post yng Nghymru? OAQ54982
Mark Isherwood: Rydych chi'n dechrau eich datganiad gyda'r cyhoeddiad, y cawsom ni, wrth gwrs, ein hysbysu'n gyhoeddus amdano ymlaen llaw drwy'r cyfryngau, am becyn pellach o gefnogaeth i ganol trefi gwerth bron i £90 miliwn yn rhan o'ch agenda trawsnewid trefi. Beth yw'r amserlen y mae'r £90 miliwn hwnnw yn berthnasol iddi? Ai blwyddyn yw hi, neu ai'r bwriad yw parhau â hi yn y tymor Senedd nesaf? Ar ôl...
Mark Isherwood: Wel, rydych chi'n gorffen, fel rydych chi newydd orffen, drwy ddweud: Drwy nodi'r dyddiau hyn o gofio, gallwn sicrhau nad aiff y troseddau erchyll hyn yn erbyn dynoliaeth byth yn angof a symudwn y byd i sefyllfa lle nad yw'n cael ei ailadrodd byth eto. Ac rwy'n ategu'ch teimladau'n llwyr, gant y cant yn hynny o beth. Yn anffodus, ni fydd nodi'r dyddiau cofio ar ei ben ei hun yn sicrhau...
Mark Isherwood: Roeddwn i'n mynd i alw am ddatganiad yn diweddaru'r sefyllfa ym mwrdd Betsi Cadwaladr; sylwaf fod Darren Millar, fy nghyd-Aelod, wedi gwneud hynny eisoes. Fe wnaethoch chi ddweud y bydd y Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad ar 25 Chwefror. A allaf i ofyn ichi ei wahodd i sicrhau bod hynny'n ymdrin â'r adroddiad y cyfeiriodd Darren Millar ato, ar yr adolygiad o therapïau seicolegol yn y...
Mark Isherwood: Diolch i'r pwyllgor am gyflawni'r adroddiad hwn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn saith o'i 11 o argymhellion, rwy'n annog y pwyllgor i fonitro'r camau gweithredu a argymhellir gan Lywodraeth Cymru lle mae ond wedi derbyn argymhellion mewn egwyddor. Mae adran 136 o'r Ddeddf iechyd meddwl wedi'i chynllunio i ganiatáu i swyddogion yr heddlu symud rhywun o fan cyhoeddus er eu diogelwch...
Mark Isherwood: Iawn. Un ystyriaeth allweddol o'r canlyniadau, felly, yw datblygu fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gofal profedigaeth. Mae hyn yn fater o frys ac mae'n rhaid iddo gynnwys cymorth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, a chael ei gydgynhyrchu gan bobl sydd â phrofiad o hynny. Diolch.
Mark Isherwood: Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, rwy'n croesawu'r ddadl hon. Deallwn fod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, yn ôl Samariaid Cymru, gyda’r gyfradd hunanladdiad ymysg dynion bron dair gwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer menywod. Mae Samariaid Cymru yn nodi’r ffigur y cyfeiriodd Lynne Neagle ato, fod pob achos o...
Mark Isherwood: Un funud, Helen Mary. —asesiad o gost y Bil hwn i'r gwasanaethau cymdeithasol o ran cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau a baich cynyddol ar weithwyr cymdeithasol.
Mark Isherwood: Fel arfer, byddai 13 y cant yn cael ei ystyried yn ymateb uchel ar gyfer y rhan fwyaf o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a llawer o'r polau a'r arolygon eraill yr ydym ni fel Aelodau yn eu dyfynnu'n aml. Wrth siarad yma ar y Bil hwn ym mis Medi, dyfynnais uwch-swyddog profiadol gyda heddlu Cymru, a ddywedodd: Rwyf i wedi fy nghyfyngu rhag siarad yn gyhoeddus' —fel llawer o weithwyr...
Mark Isherwood: Wel, fel y dywedais i pan gawsom ni ddadl ar y Bil hwn ym mis Medi, rwy'n rhiant i chwech, pob un ohonyn nhw bellach yn oedolion cyfrifol a gofalgar, yn rhiant bedydd, taid, ewythr a hen ewythr. Mae tair o fy merched yn feichiog ar hyn o bryd hefyd. Mae dwy o'r rhain bellach yn byw ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Lloegr. Maen nhw wedi dweud wrthyf i eu bod yn ddiolchgar na fydd y Bil hwn yn...