Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, rwy’n gwybod eich bod chi, fel minnau, a llawer o’r Aelodau eraill sydd yma, yn gefnogwr brwd o ymgyrch WASPI. Felly rwy'n siwr y byddwch yn ymwybodol o'r addewid diweddar a wnaed gan Blaid Lafur y DU i ddigolledu'r menywod hynny yr effeithiwyd arnynt waethaf gan newidiadau Llywodraeth y DU i oedran pensiwn y wladwriaeth. Croesawyd hyn gan ymgyrch WASPI fel y cam cyntaf...
Vikki Howells: Mae dadl heddiw yn nodi newid yn y ffocws o’r un ar yr economi sylfaenol ychydig wythnosau’n ôl, ond mae’n faes y mae’n rhaid i ni ei gael yr un mor gywir os ydym am saernïo economi Cymru ar gyfer y dyfodol. Yn fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar raddfa’r her y gallai awtomatiaeth ei chynrychioli, y cyfleoedd sydd gennym i ymateb i’r her hon, a’r sgiliau fydd eu hangen ar...
Vikki Howells: Bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymestyn yr hawl i ofal plant am ddim o reidrwydd yn arwain at gynnydd yn nifer y darparwyr gofal plant ledled Cymru. Mae hyn yn creu cyfle i ni ystyried yr effeithiau cymunedol cadarnhaol a allai ddeillio o’r cynnydd mewn cyflogaeth yn y sector hwn. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i roi i ymgorffori egwyddorion yr economi sylfaenol yn y...
Vikki Howells: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella cyfraddau ailgylchu?
Vikki Howells: Treuliais bum mlynedd fel gweithiwr ieuenctid cyn mynd yn athro. Felly, rwy’n cytuno’n llwyr, Gweinidog, â’ch sylwadau ynglŷn â pha mor bwysig y gall gwaith ieuenctid fod i wella cyfleoedd bywyd y rhai sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Ac rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno gwaith ieuenctid. Fodd bynnag, i rai o'n cymunedau mwyaf heriol, mae dirwyn Cymunedau yn...
Vikki Howells: Mae metro de Cymru yn rhoi cyfle i ni sicrhau gwelliannau gwirioneddol i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn y Cymoedd, ac rwy’n croesawu ateb y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf am bwysigrwydd cysylltiadau trafnidiaeth rhwng gwahanol Gymoedd. Ar hyn o bryd, mae taith fws ddwyffordd rhwng Aberdâr a Merthyr yn £7. Mae taith trên rhwng Aberdâr a Chaerdydd yn £8—mwy na’r cyflog byw...
Vikki Howells: 6. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd y cymoedd? OAQ(5)0544(FM)
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae’r newyddion y bydd canolfan Trafnidiaeth Cymru ynghyd â swyddfeydd rhaglen bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn dod i Rondda Cynon Taf yn newyddion ardderchog i fy awdurdod lleol. Gyda’i gilydd, gallent olygu cannoedd o swyddi o safon ar gyfer y Cymoedd, ac atgyfnerthu’r adfywiad economaidd. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar hyn...
Vikki Howells: 1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o fanteision lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru yn Rhondda Cynon Taf OAQ(5)0144(EI)
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi rhoi sylw i 62 o danau glaswellt ers dydd Gwener, gyda llawer ohonynt yn Rhondda Cynon Taf, a'r awgrym yw fod llawer wedi eu cychwyn yn fwriadol. Her arall i’r gwasanaethau tân hefyd oedd ffyrnigrwydd y tanau, a oedd yn achos perygl i ddiogelwch personél y gwasanaeth, ac i'n cymunedau. Mae ffigurau...
Vikki Howells: Bore dydd Iau diwethaf, rhoddodd arweinyddion rhagorol cynghorau RhCT a Phen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorwyr Andrew Morgan a Huw David, dystiolaeth ar fetro de Cymru i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Roeddent yn dadlau bod angen i'r metro gysylltu ar draws y Cymoedd gogleddol ac nid cryfhau cysylltiadau i Gaerdydd ac oddi yno’n unig. A fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno ac ymrwymo i...
Vikki Howells: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymateb Llywodraeth Cymru i’r nifer fawr o danau glaswellt dros y penwythnos? EAQ(5)0126(CC)
Vikki Howells: Ie, rwy’n cytuno’n llwyr â’r hyn a ddywedodd yr Aelod. Ac rwy’n meddwl mai dyna beth sydd angen i’r cynllun morol ei gwmpasu mewn gwirionedd. Ac mae fy ngalwad am ddulliau gwell o gasglu data yn gysylltiedig â hynny hefyd. Credaf fod angen i’r holl bethau hynny weithio gyda’i gilydd. I fynd yn ôl at y gadwyn gyflenwi, felly, mae Tidal Lagoon Power wedi cyfeirio at graidd...
Vikki Howells: Gwnaf.
Vikki Howells: Rwyf wrth fy modd yn siarad o blaid y cynnig hwn heddiw. Yn wir, gallaf wneud hynny o safbwynt unigryw, sef yr unig Aelod Cynulliad sy’n aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Gyda’i gilydd, mae gwaith y pwyllgorau hyn yn rhoi trosolwg trawsbynciol o arwyddocâd economi las Cymru i mi. Yn ystod y Cynulliad diwethaf,...
Vikki Howells: Diolch. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol fod materion fel tipio anghyfreithlon, baw cŵn a sbwriel yn bryder go iawn i lawer o bobl. A fyddai’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y dylai’r cosbau a roddir mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn gymesur â’r pwyslais y mae’r cyhoedd yn ei roi ar yr angen i atal ymddygiad o’r fath?
Vikki Howells: 2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael â swyddogion eraill y gyfraith ynghylch cosbau troseddol am droseddau’n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OAQ(5)0029(CG)
Vikki Howells: Rwy’n falch o allu siarad o blaid y cynnig hwn heddiw, ac fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, y tîm clercio, Aelodau eraill a thystion am ymchwiliad diddorol iawn. Ar gyfer fy nghyfraniad heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar argymhelliad cyntaf yr adroddiad. Roedd y dystiolaeth a glywsom yn atgyfnerthu pa mor bwysig yw cynnwys tai a seilwaith...
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad yma heddiw. Mae hwn yn gyhoeddiad pwysig ac, ar ben hynny, yn un gafodd ei gymeradwyo gan bleidleiswyr yng Nghymru yn ystod etholiad y Cynulliad y llynedd. Fel yr ydych wedi nodi, ar gyfer pob 20 o dai cymdeithasol oedd yn bodoli ym 1981, mae naw bellach wedi'u gwerthu, ac er bod yr hawl i brynu wedi helpu llawer o deuluoedd i gamu ar...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, o ganlyniad i ailbrisio, mae’r gwerth ardrethol cyfartalog yn Rhondda Cynon Taf wedi gostwng gan 6.1 y cant. Gan fod hwn yn batrwm eithaf cyffredin ar draws yr ardal, pa effaith allai hyn ei chael ar bolisïau Llywodraeth Cymru tuag at hybu ffyniant economaidd ar draws Cymoedd y De?