Jeremy Miles: Diolch i Huw Irranca-Davies ac rwy'n achub ar y cyfle unwaith eto i ddiolch i'w bwyllgor, a'r pwyllgor plant a phobl ifanc, am ystyried nifer o femoranda sydd wedi ymddangos fel rhan o'r ddeddfwriaeth hon. O ran y pwyntiau a wnaeth y pwyllgor ar gymalau 1 a 4 o'r Bil, rwy'n gobeithio bod fy llythyr at y pwyllgor Plant Phobl Ifanc ac Addysg, a gafodd ei gopïo i'w bwyllgor, ddiwedd mis...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Gaf i jest ymateb a diolch i'r ddau gyfrannwr yn y ddadl? Jest i ateb y pwynt oedd Sioned Williams yn ei wneud nawr, rwy'n cytuno â'r ffaith ei bod yn annymunol bod proses graffu a phroses benderfynu'r Senedd hon yn dibynnu ar amserlen y Senedd yn San Steffan, wrth gwrs. Rwy wedi esbonio sut mae hynny wedi achosi elfen o oedi o ran cyflwyno’r memoranda, sydd yn annymunol,...
Jeremy Miles: Rwy'n nodi ac yn derbyn pryderon y ddau bwyllgor ynghylch yr oedi wrth osod ger bron y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cychwynnol, a'r memoranda atodol dilynol i'r Bil. Y tro hwn, ni chawsom ni weld yr holl ddarpariaethau sy'n effeithio ar Gymru tan ychydig cyn i'r Bil gael ei gyflwyno i'r Senedd. Yn ogystal â hyn, roedd dadansoddiad datganoli Llywodraeth y DU yn wahanol i'n dadansoddiad...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig heddiw. Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i esbonio cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, ac amlinellu pam rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi caniatâd i ddarpariaeth gael ei gwneud yn y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16. Rwy'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am ystyried y memoranda cydsyniad deddfwriaethol, ac am yr adroddiad a luniwyd...
Jeremy Miles: Gwnaeth Laura Anne Jones gyfraniad agoriadol ac rwy'n credu y byddwn i'n dweud, yn fwy o dristwch nag o ddicter, fy mod i'n anghytuno â bron pob un rhan o'i chyfraniad. Nid wyf i'n credu iddo adlewyrchu realiti'r cod a'r canllawiau statudol sydd ger ein bron yma heddiw o gwbl. I'w roi ar gofnod, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod Laura Anne Jones a Sam Rowlands yn credu bod y canllawiau wedi eu...
Jeremy Miles: Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelodau hynny sydd wedi croesawu'r cod sydd yn destun y drafodaeth hon heddiw? A gaf i gychwyn trwy ddiolch i Sioned Williams am y ffordd y gwnaeth hi osod ei sylwadau yn y ddadl hon? Mae cynnwys a sylwedd cyfraniadau yn bwysig, ond hefyd mae'r ffordd maen nhw'n cael eu cyfrannu, a'r tôn, yn bwysig pan fo'n fater mor bwysig â hwn, felly dwi'n ddiolchgar...
Jeremy Miles: Mae gan blant yr hawl i gael gafael ar wybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed ac sy'n caniatáu iddyn nhw lywio'r byd cymhleth yr ydym ni'n byw ynddo—un sy'n wahanol iawn i'r byd y cawsom ni ein magu ynddo. Fel cymdeithas, rydym ni'n dod yn fwyfwy ymwybodol o ddatblygiadau mewn technoleg, gan gynnwys dylanwad cynyddol y cyfryngau cymdeithasol a'r cynnydd yn y defnydd o gyfathrebu a...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyflwyno'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb i'w ystyried gan y Senedd. Mae angen inni helpu'n plant a'n pobl ifanc i fynd o nerth i nerth ym mhob agwedd ar fywyd, fel eu bod yn tyfu i fod yn oedolion sy'n unigolion iach, hyderus. Mae gan addysg cydberthynas a rhywioldeb rôl gadarnhaol ac amddiffynnol i'w chwarae yn addysg [Anghlywadwy.] Mae gan...
Jeremy Miles: Mae'n gywir fod lle canolog i hyn yn y cwricwlwm newydd, ac rwy'n siŵr ei fod, wrth ymweld â'i ysgolion lleol, fel y gwnaf finnau mewn ysgolion ledled Cymru, yn gweld y potensial sydd gan ddysgu am fwyd—o ble y daw, sut i'w baratoi, sut i fwyta'n iach—i fodloni nifer o amcanion y cwricwlwm newydd. Rwy'n aml yn synnu, wrth fynd i ysgolion lle mae bwyd yn rhan fawr o fywyd yr ysgol, pa...
Jeremy Miles: Bydd y Cwricwlwm i Gymru'n cael ei gyflwyno o fis Medi 2022. Mae ysgolion a lleoliadau ledled Cymru yn parhau i wneud cynnydd yn unol â disgwyliadau cenedlaethol, gan fanteisio ar ddysgu proffesiynol a chymorth cenedlaethol a rhanbarthol. Ategir hyn gan £7.24 miliwn i gefnogi datblygu'r cwricwlwm yn yr ysgolion yn y flwyddyn ariannol hon.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Nid wyf yn derbyn rhagosodiad y cwestiwn fod Cymru wedi cael yr arian hwn gan Lywodraeth y DU. Mae trethdalwyr yng Nghymru wedi cyfrannu at yr adnodd hwnnw hefyd, ac mae gennym berffaith hawl i'n cyfran o gronfa gyffredinol y DU. Ar y pwynt a wnaeth am gronfeydd ysgolion bach a gwledig yn benodol, fe fydd yn gwybod, wrth gwrs, mai awdurdodau lleol sy'n dyrannu...
Jeremy Miles: Mae dros 460 o ysgolion wedi elwa o'r grant ysgolion bach a gwledig, gyda chyllid o dros £10 miliwn yn nhymor blaenorol y Senedd a £2.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon. Yn ogystal, mae nifer o ysgolion bach a gwledig wedi derbyn cyllid cyfalaf drwy'r grant lleihau maint dosbarthiadau babanod a rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain.
Jeremy Miles: Byddwn wrth fy modd yn gwneud hynny. Credaf fy mod yn mynd i'w chael hi'n anodd dod o hyd i amser ar gyfer unrhyw beth arall ar ddiwedd y sesiwn hon heddiw, ond byddaf yn sicr o ddod.
Jeremy Miles: Rwy'n cytuno gyda'r Aelod. Mae cylchoedd Ti a Fi yn gam pwysig iawn ar y daith i addysg cyfrwng Cymraeg. Maen nhw'n darparu cyfle i blant ifanc gymdeithasu a chwarae drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd yn rhoi cyfle i rieni gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn amgylchedd Cymraeg. Yn Abertawe, ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ddiwethaf, roedd 208 o blant wedi cofrestru mewn cylchoedd...
Jeremy Miles: Drwy gymorth grant Llywodraeth Cymru, mae'r Mudiad Meithrin yn cynnal ac yn cefnogi darpariaeth Ti a Fi ledled Cymru. Yn ogystal, drwy ein rhaglen i ymestyn y ddarpariaeth, mae cylchoedd Ti a Fi yn cael eu sefydlu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu cylchoedd meithrin newydd.
Jeremy Miles: Rwy'n cytuno'n llwyr pa mor bwysig yw darparu gwersi am ddim i'r rhai o dan 25, a hefyd ehangu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r ganolfan ddysgu. Roedd rheini hefyd yn rhan o'r rhaglen waith 'Cymraeg 2050' wnes i ddatgan dros yr haf, felly rydyn ni'n cytuno pa mor bwysig yw hynny. O ran y cyllid pellach, wrth gwrs, mae'r coleg cenedlaethol eisoes eleni wedi cael cynnydd yn ei gyllideb er...
Jeremy Miles: Mae dadansoddiad cyfrifiad ysgolion blynyddol lefel dysgwyr ynghyd â chynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn rhoi darlun cynhwysfawr i ni o'r ddarpariaeth addysg Gymraeg ar draws Cymru, a gyda'i gilydd yn cyfrannu at benderfyniadau polisi a chyllido sy'n ein symud yn agosach at ein targed 'Cymraeg 2050'.
Jeremy Miles: Un o bleserau'r rôl yw'r cyfle i ymweld ag ysgolion ym mhob rhan o Gymru, felly rwy'n amlwg yn fwy na pharod i wneud hynny. Mae'r Aelod yn gwneud pwynt ynghylch argaeledd rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain ar gyfer adeiladau nad ydynt yn rhai newydd, os caf ei roi felly. Mae ar gael, wrth gwrs, ar gyfer prosiectau adnewyddu mawr ac estyniadau, ac mewn gwirionedd, bydd angen...
Jeremy Miles: Mae Powys wedi elwa o fuddsoddiad o £79.5 miliwn yn nhon gyntaf rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, ac mae £113.5 miliwn arall wedi'i gynllunio yn y don fuddsoddi gyfredol.
Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn gwybod yn iawn ein bod yn credu bod angen diwygio'r system athrawon cyflenwi, oherwydd roedd yn ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu y cawsom ein hethol arni, a hefyd mae'n ymddangos yn y cytundeb sydd gennym gyda Phlaid Cymru, i edrych eto ar y model cyflenwi er mwyn dod â gwaith teg a chynaliadwyedd i mewn iddo. Mae'r gwaith hwnnw wedi bod yn mynd rhagddo a bydd yn mynd...