David Melding: 7. Beth yw barn Llywodraeth Cymru am y defnydd o barthau 20 mya yng Nghymru? OAQ53821
David Melding: Efallai y caf ddweud wrthych, Ddirprwy Lywydd, imi dreulio rhan o doriad y Pasg yn darlithio yng Ngholeg William a Mary ar y pwnc, 'Prydain ar ôl Brexit'. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y teitl wedi'i ddewis ym mis Rhagfyr, pan nad oedd yn ymddangos mor eithafol o annhebygol. Ymwelais â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gynharach yn y flwyddyn, ac roeddent yn gwybod am fy nghysylltiad â'r...
David Melding: Gobeithio y bydd y Cynulliad yn caniatáu imi fynd â ni i gyd yn ôl i 1984 a'r ymgyrch etholiad arlywyddol a defnydd Walter Mondale o slogan cwmni bwyd cyflym Wendy's, 'Where's the beef?' Rydym ni wedi symud mewn cylchoedd sawl gwaith erbyn hyn, mor bell yn ôl â mis Gorffennaf 2016. Ac o ran Cymru Greadigol, mae'n ymddangos bod y Llywodraeth hon yn ymwneud â'r paratoi'r heb wneud...
David Melding: Trefnydd, fe fyddwch yn ymwybodol bod y Prif Weinidog wedi cyhoeddi yng nghynhadledd eich plaid ddechrau mis Ebrill y bydd adran 21 ar droi pobl allan o'u cartrefi yn cael ei dileu. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cyhoeddiad tebyg y bydd y rhain yn dod i ben, a'u bod yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn un o brif achosion digartrefedd ymhlith teuluoedd. Gwnaeth Llywodraeth y DU ddatganiad...
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol o'r sefyllfa yng nghlwb nofio dinas Caerdydd lle, yn gynharach eleni, ar ôl trosglwyddo pwll nofio rhyngwladol Caerdydd i Legacy Leisure, a gostyngiad dilynol i gymhorthdal y Cyngor o £100,000, canfu'r clwb bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i £53,000 y flwyddyn a cholli amser yn y pwll. Mae'r clwb hwn wedi bod yn weithredol am dros 40...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddweud bod Darren Millar wedi dechrau'r ddadl hon drwy ddweud bod dadleuon iechyd meddwl ymhlith y dadleuon gorau a gawn yn y Cynulliad? A bu'r Gweinidog yn hael wrth gydnabod naws adeiladol y ddadl hon, a chredaf y byddem oll yn cytuno iddi fod yn ddadl ystyrlon a phriodol iawn. Aeth Darren ymlaen i siarad hefyd am y straeon personol a roddwyd gan nifer o...
David Melding: Nid byd Benny Hill yw hwn, wyddoch chi.
David Melding: Weinidog, credaf y bydd llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi ymdrin ag achosion sy'n peri gofid yn aml mewn perthynas â'r agwedd benodol hon ar ofal ac rydym yn sôn am rai o'r bobl ifanc fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Rwyf wedi cael profiad o achosion lle nad yw'r cynllun triniaeth wedi bod yn llwyddiannus iawn, mewn gwirionedd, ar ôl i unigolion gael eu derbyn fel cleifion mewnol...
David Melding: Weinidog, a gaf fi eich cymeradwyo am geisio cael cymaint o'r casgliad cenedlaethol allan yno ag sy'n bosibl er mwyn iddo gael ei weld? Mae gormod ohono wedi'i gadw mewn storfeydd a dylem gofio bod yr eitemau hyn yno i'w gweld a dyna pam y maent yn y casgliad yn y lle cyntaf. A wnewch chi ymuno â mi i ganmol gwaith Dawn Bowden yn hybu gwybodaeth am gymuned Iddewig Merthyr Tudful, a sefydlwyd...
David Melding: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn heddiw? Ac a gaf i hefyd, Dirprwy Lywydd, gydnabod y cyfraniad rhagorol yr ydych chi wedi ei wneud yn y maes hwn, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol? Credaf fod cyhoeddi'r cyngor hwn gan y grŵp arbenigol yn garreg filltir i bawb sy'n gysylltiedig ar gyfer sicrhau bod pobl sy'n byw mewn blociau adeiladau yn ddiogel ac yn teimlo'n...
David Melding: Prif Weinidog, byddai'n anghwrtais i ofyn yn y fan yma beth yw eich graddfa gyflog bresennol, ond credaf ei bod yn deg dweud pe byddech chi'n is-ganghellor chi fyddai'r un â'r cyflog isaf yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hyn yn fesuriad o ryw fath. Pan fo cyflog uwch swyddogion mewn prifysgolion yn sylweddol uwch na'r hyn yr ydych chi'n ei gael, yna maen nhw angen cyfiawnhad eglur dros hynny,...
David Melding: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth y diwydiant e-chwaraeon yng Nghymru?
David Melding: Rwy'n falch iawn o siarad yng ngham olaf y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth heddiw. Fel y dywedais ar y dechrau, yng Ngham 1, un cam yn unig yw'r Bil hwn yn yr ymdrech i adeiladu marchnad dai sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Yn wir, mae’n annheg fod tenantiaid ledled y wlad yn wynebu costau annisgwyl ac afresymol, a dyna pam fy mod yn hapus y byddwn yn gwahardd y ffioedd hynny, ynghyd â...
David Melding: Diolch, Lywydd. Yn Lloegr, maent yn ystyried hyn hefyd, a gwyddoch fod cynnig i gynyddu isafswm y cyfnod tenantiaeth o chwe mis i dair blynedd. Fodd bynnag, lluniwyd diwygiad 1988 er mwyn rhoi mwy o eiddo ar y farchnad, oherwydd ar y pryd, gellid dadlau bod gor-reoleiddio wedi cael cryn effaith ar y cyflenwad o eiddo rhent. Felly, mae angen inni ystyried hyn yn ofalus, ond ni chredaf y...
David Melding: Weinidog, gwyddom y bydd cynllun amgylcheddol 25 mlynedd yn Lloegr, ac mae'r Bil amgylchedd drafft yn cynnwys cynigion ar gyfer swyddfa diogelu'r amgylchedd, rhywbeth y byddai gan ddinasyddion, mae'n debyg, hawl i’w gael—ac efallai fod hyn yn cyfateb i'r Comisiwn yn dadlau achos y dinesydd, sef pam, wrth gwrs, fod y math hwnnw o fynediad cyflym iawn at wasanaethau cyfreithiol mor...
David Melding: Cynnig.
David Melding: Cynnig.
David Melding: Cynnig.
David Melding: Cynnig.
David Melding: Cynnig.