Andrew RT Davies: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Dirprwy Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi cymryd cwestiwn ar yr agwedd benodol hon ychydig wythnosau'n ôl. Ond ynghylch y dyfarniad a roddwyd gan y barnwr—Mrs Ustus Lambert ar y pryd—dywedodd fod y Bil yn fwriadol amwys, cyffredinol a dyheadol ac sy'n berthnasol i ddosbarth yn hytrach nag unigolion. Mae'r Bil rhyw bedair blwydd oed erbyn hyn....
Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, gwnaeth Weinidog yr amgylchedd ddatganiad, datganiad ysgrifenedig, ar newid Llywodraeth Cymru i'w hymrwymiad i sicrhau allyriadau di-garbon erbyn 2050. Yn y paragraff olaf ond un, roedd yn dweud bod adroddiad y pwyllgor ar newid hinsawdd 'yn ei gwneud yn glir fod maint y newid sydd ei angen er mwyn cyrraedd targed o sero net yn fwy...
Andrew RT Davies: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ54034
Andrew RT Davies: 2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ54035
Andrew RT Davies: Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad y caiff yr arian hwnnw ei dargedu i wneud cyfundrefn ailgylchu gadarnach yma yng Nghymru, ac rwy'n sylweddoli eich bod am ddosbarthu gwybodaeth i'r Aelodau. A fydd y wybodaeth honno'n cynnwys manylion yr hyn rydych yn debygol o'i gyflawni erbyn i chi wario'r arian hwnnw? Oherwydd mae gweld y gwastraff hwnnw ym Malaysia a thrydydd gwledydd eraill yn rhywbeth sy'n...
Andrew RT Davies: Cyhoeddodd Canada yr wythnos hon y bydd yn anelu i wahardd plastigion untro niweidiol erbyn 2021. Er clod iddi—ac nid wyf yn aml yn dweud hyn—mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau rhai cyfraddau ailgylchu trawiadol yng Nghymru, ond am y tro cyntaf yn 2017-18, gostyngodd cyfanswm y gwastraff a ailgylchwyd mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, fe wnaeth Cymru gymryd yr awenau drwy gyflwyno'r tâl am...
Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf wneud y cynnig hwn y prynhawn yma a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Rydym yn y cyfnos ar brynhawn dydd Mercher, ond rwy'n falch o weld bod Aelodau o bob plaid wedi aros ar gyfer y ddadl y prynhawn yma. Os caf ymdrin â'r gwelliannau yn gyntaf, yna fe symudaf at brif ran fy araith. Yn anffodus, mae'r Llywodraeth wedi dychwelyd at ei harfer o...
Andrew RT Davies: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n poeni ychydig am eich cyhoeddiadau dros yr ychydig ddyddiau diwethaf pan ddywedoch y gallai'r doll teithwyr awyr godi, os caiff ei throsglwyddo, yng ngoleuni sylwadau'r cyn-Brif Weinidog, yn enwedig ar deithiau hir, a dywedodd, rydym yn dechrau o'r safbwynt o geisio cael gwared â hi, yn sicr i beidio â'i chodi. Rydych chi'ch hun wedi dweud ar...
Andrew RT Davies: Mae'n anffodus fod yr ymrwymiad yn y maniffesto wedi'i dorri, ond yr hyn a wnaethoch, Weinidog, yw ymrwymo y bydd gwelliannau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau rhai manteision tymor byr. Mae llawer o bobl wedi bod yn bryderus pam na chafodd y manteision tymor byr hyn eu cyflawni yn y cyfnod byrrach o amser pan oedd yr ymchwiliad yn cyfarfod, er enghraifft, neu pan oedd y Llywodraeth yn...
Andrew RT Davies: Diolch, Weinidog. Gwyddom yn awr, yn amlwg, na fydd un o'r ymrwymiadau a oedd yn eich maniffesto, ffordd liniaru'r M4, yn mynd rhagddo, sy'n destun gofid mawr, mae'n rhaid imi ddweud, a dicter gwirioneddol dros y penwythnos. Rwy'n gweld bod eich dirprwy yn heclo o'i sedd; os yw am ateb y cwestiwn, rwy'n hapus i ofyn y cwestiwn iddo ef. Ond byddai'n well pe baech yn gwrando, Ddirprwy Weinidog;...
Andrew RT Davies: 3. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau a yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn o ran cyflawni ei hymrwymiadau mewn perthynas â seilwaith trafnidiaeth yn ystod tymor y Cynulliad hwn? OAQ53994
Andrew RT Davies: 2. Yng ngoleuni adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig, sy'n nodi y dylai toll teithwyr awyr gael ei datganoli'n llawn i Gymru, a wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diddymu neu ostwng y gyfradd os trosglwyddir y pŵer i Gymru? 322
Andrew RT Davies: Trefnydd, a gaf i weld datganiad ac efallai diweddariad ar sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i ehangu eu cynigion, yn gyntaf ar y datganiad a gyhoeddwyd gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig y bore yma mewn ymateb i'r adroddiad 'Sero Net' ar newid yn yr hinsawdd, ac rwyf yn croesawu ei gynnwys? Yn arbennig, mae'r paragraff olaf ond un yn dweud mai hwn fydd y newid economaidd mwyaf...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Gweinidog, diolch am eich atebion y prynhawn yma. Nid wyf i'n gwneud hyn fel pwynt gwleidyddol—rwy'n ei wneud fel pwynt cyffredinol—mai'r golled fwyaf o ran gwaith yng nghyfnod datganoli oedd gwaith dur Llanwern a gafodd ei gau ar ddechrau'r 2000au, ac rwy'n tynnu eich sylw at hynny oherwydd, yn amlwg, gallai'r camau adferol a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, yn yr achos...
Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog, a diolch am eich ymateb ysgrifenedig i mi ar gwestiynau blaenorol a ofynnais ichi. Rydych wedi nodi y byddwch yn cyfarfod y mis hwn, fis Mehefin, â'r grŵp cymorth i berthnasau cleifion dystonia yn ogystal ag Aelodau eraill yn y Siambr hon, ynghyd â chadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Cafodd apwyntiadau eu canslo yn ddiweddar yn y clinig...
Andrew RT Davies: Weinidog, un peth a wnaeth argraff arnaf, pan roeddwn yn llefarydd iechyd ar gyfer y grŵp Ceidwadol, mewn perthynas â chymorth profedigaeth oedd pan ymwelais â Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam—hosbis hyfryd, yn fy marn i, sy'n cynnig cefnogaeth wych i unigolion yn ystod wythnosau a dyddiau olaf eu bywydau. Ac ar y pryd, roedd ganddynt brosiect penodol i gefnogi pobl ifanc a oedd wedi eu...
Andrew RT Davies: 5. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sefydlu cynllun gweithredu cenedlaethol i sicrhau bod pobl yng Nghanol De Cymru sy'n byw gyda dystonia yn cael y driniaeth iawn ar yr amser iawn? OAQ53945
Andrew RT Davies: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, a thôn y datganiad yn benodol. Rwy'n cofio ymateb i un o'r datganiadau cynharach, a oedd yn sôn am 'reolwyr tir' a wnaeth, i raddau, ddileu'r gymuned ffermio, ac nid wyf yn credu mai dyna oedd bwriad y Gweinidog, ond mae'r iaith, yn sicr, yn y datganiad y prynhawn yma yn llawer mwy defnyddiol, byddwn yn awgrymu, i roi hyder i sector sy'n...
Andrew RT Davies: Yng ngoleuni datganiad Llywodraeth Cymru am argyfwng hinsawdd, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ei gynlluniau ar gyfer maes awyr Caerdydd sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru?
Andrew RT Davies: Yn gynharach yn y sesiwn gwestiynau, roedd pobl yn trafod Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan a'r cysylltiadau masnach hirsefydlog sydd gennym â Japan, Weinidog. Pa feincnodau rydych wedi'u gosod ar gyfer llwyddiant gyda'r gwahanol deithiau masnach a fydd yn cael eu trefnu i Japan yn sgil cwpan y byd? Yn hytrach na mynd ati i’w fesur mewn cwpaneidiau o goffi a yfir a chacennau cri a fwyteir, mae'n...