Mark Drakeford: Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn hwnnw. Credaf ei bod yn bwysig dweud bod ymchwil y Gymdeithas Contractwyr Trydanol yn nodi mai saith yn unig o’r 22 cyngor sy’n defnyddio’r system yn llawn—mae llawer mwy ohonynt yn ei defnyddio ar gyfer rhannau o’r hyn y maent yn ei wneud. Felly, mae’n fater o adeiladu ar yr hyn y maent yn ei wneud yn barod a’i ddefnyddio’n mewn...
Mark Drakeford: Diolch i Mike Hedges am hynny ac wrth gwrs, rwy’n croesawu adborth gan y Gymdeithas Contractwyr Trydanol ac eraill sydd â diddordeb mewn caffael yma yng Nghymru. Mae Mike Hedges yn llygad ei le yn dweud bod y dystiolaeth yn dangos bod SQuID wedi effeithio’n gadarnhaol ar y sector adeiladu. Cyn ei gyflwyno roedd tua 30 y cant o’r holl gontractau yng Nghymru yn cael eu hennill gan...
Mark Drakeford: Rwy’n cytuno â’r Aelod, yn ddi-os, na ddylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu rhedeg er mwyn gwneud elw preifat. Dyna’r rheswm pam rydym ni yn y Llywodraeth hon bob amser wedi credu y dylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu’n gyhoeddus a’u darparu’n gyhoeddus. Nawr, mewn cyfnodau anodd iawn, rwy’n deall bod y rhai sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau weithiau’n gorfod...
Mark Drakeford: Mae’r gronfa ddata gwybodaeth am gymwysterau cyflenwyr yn ei gwneud yn haws i gyflenwyr o Gymru gystadlu am fusnes yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n un o ofynion datganiad polisi caffael Cymru a lofnodwyd gan bob awdurdod lleol.
Mark Drakeford: Wel, rwy’n deall y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Yn fy nhrafodaethau gydag undebau llafur yn gynharach heddiw, roeddent yn pwysleisio eu pryder ynglŷn â’r ffordd y gellir ystyried modelau amgen, weithiau, fel dewis cyntaf ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus. Nid dyna yw ein safbwynt ni yn Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun gweithredu ar gyfer modelau cyflawni amgen mewn...
Mark Drakeford: Diolch i Suzy Davies am y cwestiwn. Mae llywodraeth leol dda yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau pob un o ddinasyddion Cymru. Mae gan bob un ohonom ddiddordeb uniongyrchol mewn siapio’r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.
Mark Drakeford: I ateb cwestiwn atodol cyntaf Simon Thomas, nid wyf eto wedi cael trafodaethau uniongyrchol ar y mater pwysig hwn y mae’n ei nodi ynglŷn â gwasanaethau wedi’u lleoli yng Nghymru sydd eisoes mewn perthynas â Banc Buddsoddi Ewrop y bydd angen iddynt ymestyn ymhell y tu hwnt i unrhyw benderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae Banc Buddsoddi Ewrop ei hun wedi dweud nad yw’n...
Mark Drakeford: Diolch i Eluned Morgan am gwestiwn atodol pwysig iawn. Mae hi’n hollol gywir fod Banc Buddsoddi Ewrop yn eiddo i’w gyfranddalwyr yn llwyr a’i holl gyfranddalwyr yw 28 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae gan y Deyrnas Unedig gyfranddaliad o 16 y cant ym Manc Buddsoddi Ewrop ac felly mae’n un o bedwar prif gyfranddaliwr y banc. Ac wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn rhaid i...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr, Eluned Morgan. Mae Cymru wedi mwynhau perthynas gadarnhaol â Banc Buddsoddi Ewrop gydol y cyfnod datganoli. Mae bron £2 biliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn prosiectau cyhoeddus a phreifat, sy’n cynnwys dŵr, hedfan, y diwydiant moduro a thai.
Mark Drakeford: Diolch yn fawr i’r Aelod am beth y mae hi wedi’i ddweud. Wrth gwrs, mae’n bwysig inni wneud mwy na jest siarad yma yn y Siambr, so mae nifer o bethau rwy’n eu gwneud yn bersonol dros yr wythnos nesaf: mae gyda fi gyfarfod â’r WLGA ddydd Gwener—rwy’n mynd i siarad â nhw—ac mae gyda fi gyfarfod â’r Muslim Council of Wales wythnos nesaf. Mae yn bwysig inni ddod at ein gilydd...
Mark Drakeford: Gadewch i mi ategu’n gryf iawn y peth olaf a ddywedodd yr Aelod. Rwy’n credu ei bod yn iawn—digwyddodd rhywbeth yn ystod cyfnod ymgyrch y refferendwm sydd rywsut wedi cyfreithloni, ym meddyliau rhai pobl, safbwyntiau sy’n wrthun, rwy’n siŵr, i’r Aelodau yn y Siambr hon ac nid oes ganddynt ran o gwbl i’w chwarae yn ein bywyd cymunedol. Hyd yn oed cyn hynny, bu cynnydd o 65 y...
Mark Drakeford: Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn. Ym mis Mawrth eleni, yn dilyn ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hwyth amcan cydraddoldeb ar gyfer 2016-2020. Mae’r amcanion hyn yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sydd wedi ymwreiddio fwyaf yng Nghymru a hyrwyddo cymunedau cydlynus.
Mark Drakeford: Cafodd Bil drafft ei gyflwyno gan fy rhagflaenydd, a oedd yn cynnwys llawer mwy na newid ffiniau ar fap yn unig. Roedd yn cynnwys cynigion ar gyfer newid refferenda lleol. Ni fyddent wedi gwneud hynny yn y ffordd y cynigiodd yr Aelod, ac nid oes gennyf unrhyw fwriad ar hyn o bryd i symud i’r cyfeiriad yr oedd yn ei argymell.
Mark Drakeford: Nid wyf yn credu y byddai’n iawn i mi i ddod i unrhyw gasgliad y prynhawn yma ar ôl dweud fy mod am dreulio cyfnod o amser yn gwrando a dysgu. Rwyf wedi cyfarfod â thua hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yn hyn, Lywydd, felly mae’r hanner arall ar ôl gennyf o hyd. Rwy’n cyfarfod â Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yfory, ac rwyf am ei gwneud yn glir iddynt fy mod i...
Mark Drakeford: Diolch i Mr Bennett am ei sylwadau agoriadol ac am fy atgoffa am fy hanes gwleidyddol hir o 30 mlynedd yn ôl. Roeddwn yn gynghorydd y tro diwethaf y cafwyd ad-drefnu llywodraeth leol, i ddangos cymaint o amser sydd wedi bod ers i hynny ddigwydd. Mae’r amserlen rwy’n gobeithio ei dilyn fel a ganlyn: mae yna gyfnod angenrheidiol dros yr haf rwyf am ei dreulio’n gwrando a dysgu gan y rhai...
Mark Drakeford: Wel, yn sicr nid oes angen i ni aros, oherwydd fel y dywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn, rydym eisoes wedi dechrau gwneud yn union hyn. Ceir tri chynllun sydd eisoes yn cael eu datblygu, ac ystod o gynlluniau eraill posibl a allai ddilyn yr un llwybr. Felly, mae’r model dosbarthu dielw yn fodd o geisio denu ffyrdd o ariannu buddsoddiadau cyfalaf yn arbennig i mewn i economi Cymru, ar adeg pan...
Mark Drakeford: Wel, rwy’n credu y bydd pobl a wrandawodd ar yr honiadau a wnaed gan yr ymgyrch ‘gadael’ yn ystod y refferendwm wedi meddwl yn syml na fyddai Cymru yn gwneud mor dda ag y gwnaethom o dan y drefn flaenorol, ond y byddai llif newydd o arian i wasanaethau cyhoeddus, ac i’r lleoedd sydd ei angen fwyaf yn sgil y penderfyniad hwnnw. Ac wrth gwrs fel Llywodraeth Cymru byddem yn awyddus i...
Mark Drakeford: Diolch i Adam Price am y cwestiynau hynny. Rwy’n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig wrth agor am y ffordd y mae patrymau pleidleisio yn y refferendwm yn dilyn llinellau economaidd ar draws y Deyrnas Unedig. O ran amcangyfrif effaith penderfyniad yr wythnos diwethaf ar Gymru, mae yna ddwy ffordd benodol sy’n rhaid i ni asesu hynny, ac mae un ohonynt yn haws na’r llall. Bydd yna golled...
Mark Drakeford: Unwaith eto, diolch i Nick Ramsay am y ddau bwynt pwysig hwnnw. Bydd yr Aelodau yma yn gwybod bod fy rhagflaenydd yn y swydd hon, Jane Hutt, ar ôl llawer iawn o drafod, wedi llwyddo i gael cytundeb i gyllid gwaelodol gan y Trysorlys dros gyfnod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant presennol. Yn y trafodaethau ar y fframwaith cyllidol byddwn yn dadlau’n galed dros sicrhau bod y cyllid...
Mark Drakeford: Mae’n hollol wir i ddweud bod yr Alban eisoes wedi bod o gwmpas y trac hwn o ran cytuno ar fframwaith cyllidol ar gyfer datganoli pwerau trethu i Senedd yr Alban. Mewn sawl ffordd, rydym yn ffodus ein bod yn eu dilyn o gwmpas y trac hwnnw, oherwydd bod Llywodraeth yr Alban wedi bod yn hael yn rhannu ei phrofiad gyda ni a rhoi ambell gipolwg i ni ar eu trafodaethau gyda’r Trysorlys. Ni...