Mark Drakeford: Diolch i Nick Ramsay am ei sylwadau agoriadol ac am gytuno i gyfarfod â mi i rannu rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â’r heriau rydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Mae’n hollol iawn i ddweud bod y rheini’n cael eu siapio gan y tirlun sydd ohoni yn dilyn y refferendwm. Rwyf wedi cael trafodaeth eisoes â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Cytunasom yn y sgwrs dros y ffôn y byddem yn cyfarfod...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, rwy’n deall bod y Farwnes Altmann wedi cytuno i gyfarfod â’r grŵp ymgyrchu Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth yn dilyn y gwrthdystiad heddiw. Mae hi wedi dweud ar goedd ei bod wedi cael ei gorfodi i gadw’n dawel ar y mater hwn gan ei Hysgrifennydd Gwladol blaenorol, Iain Duncan Smith, ac rwy’n gwybod y bydd y menywod a fydd yn cyfarfod â hi heddiw...
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, nid yw’r rhai sy’n ymgyrchu ar y mater hwn yn gwrthwynebu cydraddoli graddol fesul cam; yr hyn y maent yn ymgyrchu yn ei gylch yw’r modd uniongyrchol wahaniaethol y mae grŵp o fenywod a anwyd rhwng 1950 a 1953 wedi cael eu heffeithio’n andwyol ddwywaith gan y penderfyniad i godi eu cyfradd pensiwn y wladwriaeth heb wybodaeth na rhybudd digonnol. Mae’r ymgyrch honno’n...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am dynnu sylw at ymgyrch y Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sy’n cynnal gwrthdystiad mawr heddiw ac sydd wedi tynnu sylw at y mater hwn mor effeithiol. Ysgrifennodd Lesley Griffiths, a oedd â chyfrifoldebau cydraddoldeb yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, at y Farwnes Altmann, y Gweinidog Gwladol dros Bensiynau ar y pryd, ym mis Chwefror eleni, yn...
Mark Drakeford: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn bryderus y bydd effaith Deddfau pensiynau 1995 a 2011 yn effeithio’n anghymesur ar nifer o fenywod y mae eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi’i godi’n sylweddol heb hysbysiad effeithiol na digonol. Byddwn yn parhau i ddwyn y pryderon hyn i sylw Gweinidogion y DU, sy’n parhau’n gyfrifol am y materion hyn.
Mark Drakeford: Wel, mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig iawn, sy’n gosod ein penderfyniad i ddiddymu—i ofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol ddiddymu—agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur yn y cyd-destun hynod o bwysig hwnnw. Roedd yr achos dros barhau i fod yn aelod o’r UE yn seiliedig ar y mesurau diogelwch cymdeithasol roedd bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd yn eu darparu i bobl sy’n gweithio....
Mark Drakeford: Wel, Lywydd, mae’n rhaid i ni weithredu o fewn ffiniau ein cymhwysedd datganoledig. Yn ogystal â dymuno diddymu agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur oherwydd ei heffaith ar gysylltiadau diwydiannol a’n dull partneriaeth, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, mae ein gwrthwynebiad iddynt yn seiliedig ar ein cred eu bod yn tresmasu ar gyfrifoldebau datganoledig y Cynulliad Cenedlaethol hwn,...
Mark Drakeford: Wel, mae’r Aelod yn llygad ei lle wrth ddweud mai’r rheswm pam rydym yn gwrthwynebu’r agweddau hyn ar y Ddeddf Undebau Llafur yw oherwydd ein bod yn credu y byddant yn gwneud pethau’n waeth, yn hytrach na gwell, o ran cysylltiadau diwydiannol yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ac mae’r dull partneriaeth rydym wedi’i gael yng Nghymru yn golygu, er bod streiciau wedi bod ar draws y...
Mark Drakeford: Cafodd cynlluniau i ddiddymu agweddau ar y Ddeddf Undebau Llafur eu cynnwys yn natganiad rhaglen ddeddfwriaethol y Prif Weinidog ddoe, a bydd hyn yn cael ei gyflwyno yn ystod blwyddyn gyntaf y tymor Cynulliad hwn.
Mark Drakeford: We expect Network Rail and the UK Government to honour their commitments to delivering electrification of the London-to-Swansea main line. Electrification of the main line will be a massive step forward in creating a modern train service that is capable of meeting future demand and supporting economic growth across Wales.
Mark Drakeford: Our tourism strategy sets out our priorities to support the tourism industry. Mid Wales offers a range of heritage, landscapes, activities and tourism destinations, which are promoted and marketed through our Visit Wales website.
Mark Drakeford: We have recognised British Sign Language as a language in its own right. Our Wales-specific equality duties help us promote the language to service providers, who have a responsibility to ensure they provide access to services in accessible formats for everyone who needs them.
Mark Drakeford: The Welsh Government is keen to ensure there are many opportunities for people to access our great outdoors. Full consideration will be given to the range of issues raised by the recent review before making a decision on the way forward.
Mark Drakeford: Rŷm ni'n disgwyl i wasanaeth ambiwlans Cymru weithio gyda'i bartneriaid i sicrhau bod digon o ddarpariaeth ambiwlans brys i wneud yn siŵr bod pob claf sydd angen ymateb brys yn ei dderbyn o fewn amser sy'n gymesur â'i angen clinigol.
Mark Drakeford: Cafodd y weledigaeth ar gyfer amgueddfeydd lleol yng Nghymru ei hamlinellu yn adroddiad yr adolygiad arbenigol a gyhoeddwyd y llynedd. Rŷm ni'n gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i fwrw ymlaen â hyn a datblygu rhwydwaith cryf o amgueddfeydd i wasanaethu cymunedau lleol. Bydd y trafodaethau hyn yn cynnwys Abertawe.
Mark Drakeford: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i aros a chlywed y ddadl fer hon. Roeddwn i’n meddwl bod cyfraniad Julie Morgan yn gwbl nodweddiadol feddylgar am y materion sy’n codi ac yn ymrwymedig i ddod o hyd i atebion ar gyfer y bobl sydd fwyaf o’u hangen. Dechreuodd drwy sôn am fywyd Jo Cox, ac nid wyf yn credu bod unrhyw beth y gallwn ei ddweud a fyddai’n...
Mark Drakeford: Wel, dyna bwynt eithriadol o dda gan yr Aelod. Mae’n cysylltu â thrydedd ran y cynnig y cawn ein gwahodd i’w gefnogi y prynhawn yma, rwy’n credu: sef y byddem rywsut yn fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd; y byddem yn fwy llewyrchus heb y 500 o gwmnïau o wledydd eraill yr UE sydd â gweithfeydd yng Nghymru, ac yn darparu mwy na 57,000 o swyddi; y byddem, rywsut, yn...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr, Lywydd. Wel, mae yna gynnig gerbron Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma sy’n nodi tri phrawf ar gyfer penderfyniad i fynd â Chymru allan o’r Undeb Ewropeaidd, ac fel y dangoswyd yn ddiau yn ystod yr awr olaf, mae’r cynnig yn methu ar bob un o’r profion hynny y byddent am i ni eu derbyn. Ni fyddai Cymru yn gryfach, yn fwy diogel ac yn sicr ni fyddai’n fwy...
Mark Drakeford: Lywydd, rwy’n effro iawn i’r effaith gyrydol y mae ansicrwydd yn ei chreu i’r rheini sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a’r rhai sy’n sefyll etholiad. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yfory. Roeddwn eisiau aros nes fy mod wedi clywed beth oedd pobl wedi’i ddweud heddiw cyn cwblhau’r datganiad hwnnw, ond rwy’n hapus i gadarnhau, i ateb cwestiwn Andrew Davies yn...
Mark Drakeford: Lywydd, roeddwn yn falch iawn o gyfarfod ag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Sir Fynwy 10 diwrnod yn ôl. Roedd yn gyfarfod adeiladol iawn. Mae ganddynt gyfres o syniadau diddorol, ac maent wedi addo rhoi rhagor o wybodaeth i mi amdanynt. Roeddwn yn falch iawn o dderbyn eu gwahoddiad i ymweld â Mynwy eto i weld peth o’r gwaith ymarferol y maent yn ei wneud mewn perthynas â chanolfannau...