Huw Irranca-Davies: A allwch chi fy nghlywed?
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Diolch am ychydig eiliadau i gyfrannu at y ddadl hon. Yn gyntaf oll, hoffwn ddefnyddio gair a ddefnyddiodd Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn gynharach mewn perthynas â hyn, yn sylfaen i’r cyfraniad hwn, sef mater gobaith. Dywedodd fod angen gobaith ar bobl drwy gerrig milltir ac amserlenni. A dweud y gwir, nid wyf yn siŵr a yw hynny'n gywir....
Huw Irranca-Davies: Rwy'n credu fy mod drwodd yn awr.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, y tu hwnt i COVID-19, rydym yn dal i wynebu argyfwng hinsawdd, mae gennym argyfwng bioamrywiaeth, mae gennym anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd dwfn, mae gennym gwmnïau nad ydynt mor foesegol ag eraill nad ydynt yn talu eu cyfran deg o drethi, ac yn y blaen. Felly, wrth ailadeiladu'n well, a gaf fi ofyn i chi ymhelaethu ar hyn a beth fyddai'n ei...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, yn ddiweddar, daeth yr Athro Cameron Hepburn o Brifysgol Rhydychen â thîm o arbenigwyr byd-enwog at ei gilydd, gan gynnwys yr enillydd gwobr Nobel yr Athro Joseph Stiglitz, a'r economegydd hinsawdd adnabyddus yr Arglwydd Nicholas Stern, i edrych ar y pecynnau posibl ar gyfer adfer yr economi yn fyd-eang. Nawr, roedd eu dadansoddiad yn dangos y posibilrwydd o asio'r economi a'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Gobeithio eich bod yn gallu fy nghlywed i.
Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, am eich syniadau sy'n dod i'r amlwg am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Cwnsler Cyffredinol ar ailadeiladu ar ôl COVID-19, a'r gwaith tebyg sy'n cael ei ddatblygu gan rai o feiri'r dinasoedd mawr yn Lloegr ar y thema 'adeiladu'n ôl yn well'? Yn y drychineb barhaus ofnadwy hon o coronafeirws, mae pobl hefyd wedi gweld, yn uniongyrchol, fanteision aer...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, roeddwn wrth fy modd yn clywed mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyhoeddi y byddwn yn darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys drwy gydol yr haf, drwy ddarparu'r £33 miliwn hwnnw i'n hawdurdodau lleol, ac y bydd gan awdurdodau lleol yr hyblygrwydd i ddarparu gwerth tua £20 y plentyn yr wythnos yn fras yn y ffordd sy'n gweithio orau'n lleol. Ac rydych chi wedi...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, mae gennym ni rai achosion o arwriaeth ryfeddol yn y sector gofal ar hyn o bryd—mae rheolwyr cartrefi gofal a staff rheng flaen ym maes gofal cartref a phreswyl yn mynd ymhell y tu hwnt i gyflawni dyletswydd yn unig. Nid dim ond gofalu am ein hanwyliaid sydd dan gyfyngiadau symud ac ar eu pen eu hunain, ond maen nhw'n ceisio glynu wrth reolau cadw pellter corfforol wrth weithio...
Huw Irranca-Davies: Mae gennyf ambell sylw byr i'w gwneud ynghylch y Bil, ac wrth ddweud hyn, wrth gwrs, rwy'n cydnabod, fel y dywedodd y Gweinidog, y bu hyn yn destun ymgynghori aruthrol, a chyda thri gwahanol bwyllgor yn y Senedd, gan gynnwys y Pwyllgor yr wyf i'n gwasanaethu arno dan stiwardiaeth flaenllaw John Griffiths. Fe wnaethom ni ystyried hyn yn fanwl iawn, ac rwy'n credu mai fy mhwynt cyntaf fyddai,...
Huw Irranca-Davies: Dai, diolch am godi'r mater pwysig hwnnw. A wnewch chi nodi, yn hyn o beth, y ffaith ei bod yn debygol y bydd un o bob wyth o'r boblogaeth bellach yn cael diagnosis, yn enwedig wrth iddynt heneiddio, o ganser y prostad, a gwaith Prostate Cymru, sy'n gweithio ar fater diagnosis gyda gweithwyr meddygol proffesiynol o bob math ar bob cam o'u gyrfa, i sicrhau nid yn unig eu bod yn ymwybodol ond...
Huw Irranca-Davies: Rwy’n ymddiheuro; nid oeddwn yn sylweddoli bod fy enw i lawr. Ond hoffwn ofyn cwestiwn ynglŷn â–
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fy nghais fyddai, o gofio bod gennym strategaeth ryngwladol yn awr sy'n edrych ar ein cysylltiadau â rhanbarthau eraill sydd â chysylltiadau Celtaidd—Gwlad y Basg, Catalwnia, ac ati—a allwn edrych o bryd i'w gilydd ar chwifio'r baneri hynny, fel y gwnaethom heddiw, ar sail fwy rheolaidd o lawer, ac rwy'n adleisio'r hyn y mae Neil Hamilton newydd ei ddweud, gan y...
Huw Irranca-Davies: Ar yr union bwynt hwnnw, un o'r pethau diddorol a glywodd y pwyllgor yn y dystiolaeth—ac mae wedi bod yn thema, mewn gwirionedd, yn y pwyllgor a'r tu allan iddo—yw'r angen i gryfhau ein presenoldeb bellach ym Mrwsel, yn rhyfedd iawn, ar ôl ymadael â'r UE, oherwydd yr angen, yr anghenraid pragmatig, i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed. A chan ein bod wedi torri rhai o'r...
Huw Irranca-Davies: Llongyfarchiadau i'r dyn hwnnw. Ond credaf y byddai'r gynulleidfa a fyddai gennym, yn rhyfedd iawn, ar yr ochr draw i fôr Iwerydd yn llwyr gydnabod ei gyfraniad. Felly, mae asedau gwirioneddol yma y gallwn eu defnyddio, a Weinidog, os nad ydych wedi'i weld, rwy'n fwy na pharod i ddangos i chi, yn fy etholaeth i, y man lle cafodd ei eni a gweld sut y gallwn ddefnyddio hanes o'r fath. Ond gan...
Huw Irranca-Davies: Roeddwn wedi bwriadu siarad ac roedd am fod yn araith eithaf sych, ond rwyf wedi fy ysbrydoli gan rai o'r Aelodau eraill bellach. Trof at y darn sych yn y man, ond os ydym am rannu profiadau ynglŷn â sut y gallwn estyn allan at ein cymuned fyd-eang, a gaf fi awgrymu ein bod yn meddwl am bobl fel Richard Price o Fferm Ty'n-Ton yn Llangeinwyr, a'i syniadau a'i athroniaeth egalitaraidd, a...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae ymgysylltiad adeiladol Llywodraeth y DU â'r Llywodraethau datganoledig yn dod yn bwysicach fyth. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y DU i fanteisio ar bob cyfle i ddangos bod gwir ddyfnder a sylwedd y tu ôl i'r rhethreg am barch tuag at y Llywodraethau datganoledig. Yn yr un modd, mae'n ddyletswydd ar Lywodraethau datganoledig i ddangos eu...
Huw Irranca-Davies: Mae fy nyddiau fel bachwr i dîm cyntaf Ysgol Tregŵyr yn bell y tu ôl i mi. A dweud y gwir, yn fy ngêm ddiwethaf roeddwn yn asgellwr i dîm rygbi'r Cynulliad, sy'n gwneud cymaint dros elusennau a chodi ymwybyddiaeth o faterion pwysig yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Ond a gaf fi ddweud wrth y Dirprwy Weinidog, pe bai'r chwe gwlad yn diflannu y tu ôl i wal dalu, boed yn Amazon, Sky neu'n...
Huw Irranca-Davies: Mae hynny'n dda i'w glywed, Ddirprwy Lywydd, a dylwn ddatgan buddiant fel is-lywydd Cerddwyr Cymru—fel is-lywydd balch Cerddwyr Cymru. A yw wedi cael cyfle fel Gweinidog i fynd allan gyda'r Cerddwyr i weld yr ap newydd sy'n sail i'r ymgyrch hon? Rwyf wedi'i ddefnyddio fy hun ar fy llwybrau lleol. Gallwch sweipio o'r chwith i'r dde. Mae'n debyg y gallwch wneud hynny hefyd gydag apiau eraill,...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, mae'r—[Torri ar draws.]