Alun Davies: Fel eraill, hoffwn ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddiolch i dîm clercio'r pwyllgor, a diolch hefyd i David Rees am arwain y pwyllgor ar y materion hyn. Hoffwn ddilyn eraill hefyd a chroesawu penodiad Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol. Mwynheais y sesiwn a gawsom ar 21 Ionawr, Weinidog, ac rwy'n gobeithio y gallwn ddychwelyd at rai o'r materion hynny maes o law. Yr eironi, wrth...
Alun Davies: Weinidog, roedd yn bleser eich croesawu i Flaenau Gwent rai misoedd yn ôl, lle buom yn trafod mynediad at wasanaethau meddygon teulu ledled y fwrdeistref. Fe fyddwch yn ymwybodol hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi helpu i fuddsoddi mewn canolfan les newydd ym Mryn-mawr. Credaf fod bron i £4 miliwn wedi'i fuddsoddi i wella'r cyfleusterau sydd ar gael i bobl Bryn-mawr a rhan uchaf dyffryn Ebwy...
Alun Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at feddygon teulu ym Mlaenau Gwent? OAQ53765
Alun Davies: Os mai argyfwng yw hwn, hoffwn ofyn am ddatganiad gan bob un o'r Gweinidogion sydd ger ein bron heddiw ynghylch beth fydd eu gweithredoedd, beth y mae eu hadran yn mynd i'w wneud i ymateb i hyn, a beth y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i sicrhau bod yr argyfwng y maent wedi'i ddatgan yn mynd i gael ymateb, yr hwn y mae'n ei haeddu ac sydd ei angen. Byddwn hefyd yn gwahodd y Gweinidogion...
Alun Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Gweinidog, credaf fod llawer ohonom wedi croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddoe wrth ddatgan argyfwng hinsawdd, ond mae llawer ohonom hefyd yn dymuno gwybod beth fydd sylwedd camau gweithredu Llywodraeth Cymru o ganlyniad i hynny. Rhaid imi ddweud, mae'r datganiad ysgrifenedig yr ydym wedi'i gael y bore yma gan y Gweinidog yn ymateb cwbl annigonol i'r...
Alun Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Tasglu'r Cymoedd?
Alun Davies: Fel Aelodau eraill y prynhawn yma, rwy'n croesawu'n fawr y broses y buom yn ei dilyn dros y blynyddoedd diwethaf. Yn sicr mae'r lle hwn wedi bod ar daith ers sefydlu Cynulliad yn 1999 i fod yn Senedd sy'n codi trethi yn 2019. Rwy'n croesawu'n fawr y ffaith ein bod wedi gweld datganoli'r pwerau hyn bellach. Ni fûm erioed yn un o'r bobl a gredai fod arnom angen refferendwm i wneud hynny, ac...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Wel, os felly, rwy'n falch iawn fy mod wedi'ch dal yn drafftio'r strategaeth. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth i'w groesawu. Mae pob un ohonom yn ymwybodol o drychineb Brexit a'r effaith y mae'n ei chael ar statws y Deyrnas Unedig ledled y byd. Mae'n bwysig, felly, fod Llywodraeth Cymru yn adnewyddu ei gwaith i hyrwyddo Cymru fel lle i wneud busnes a man lle...
Alun Davies: A lwyddodd i orffen?
Alun Davies: Weinidog, rydym yn ymwybodol fod yr anhrefn sy'n gysylltiedig â Brexit ar hyn o bryd eisoes yn cael effaith niweidiol ar gyllidebau'r Deyrnas Unedig, a hefyd ar y canfyddiad o'r Deyrnas Unedig yn y byd ehangach. Rydym hefyd yn ymwybodol nad oes unrhyw fath o Brexit mewn gwirionedd o fudd i'r economi. Nid oes y fath beth â Brexit swyddi yn gyntaf, nid oes y fath beth â Brexit economi yn...
Alun Davies: Rydym ar hyn o bryd yn mwynhau lefelau uwch nag erioed o fuddsoddiad i gefnogi a chynnal yr economi yng Nghymoedd de Cymru. Mae bron i £0.5 biliwn yn cael ei wario o amgylch fy etholaeth i yn unig ar ddeuoli ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd. Ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn gallu cynyddu gwerth y buddsoddiadau hyn ac yn gallu sicrhau'r effaith economaidd fwyaf sy'n bosibl a chreu swyddi...
Alun Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyraniadau'r gyllideb i'r portffolio economi a thrafnidiaeth i gefnogi datblygu economaidd yn y cymoedd? OAQ53732
Alun Davies: 8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith bosibl Brexit ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol? OAQ53733
Alun Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ53734
Alun Davies: Dyfais areithyddol yw hi; mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Credaf y bydd hynny'n adfer sofraniaeth y bobl, a sofraniaeth ein cymunedau, a dyna sofraniaeth a gall pob un ohonom fod yn falch ohoni.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ddweud bod ein democratiaeth yn mynnu nifer o bethau. Yn sicr mae'n mynnu'r gonestrwydd a thryloywder a ddisgrifiodd Adam Price, ond mae hefyd yn mynnu parch at safbwyntiau pobl eraill, ac mae honno'n rhan sylfaenol ac yn un o egwyddorion ein democratiaeth. Mae hefyd yn cydnabod nad oes neb yn berchen ar ein democratiaeth; mae'n eiddo i bawb ohonom. Ond mae yna...
Alun Davies: A phan ddywedwch wrthyf am gau fy ngheg ac eistedd, yr hyn a wnewch yw tanseilio democratiaeth—[Torri ar draws.] Nid wyf am ildio eto, rwyf wedi cael llond bol arnoch chi. Gadewch imi ddweud hyn: pan fydd yr Aelod yn dweud wrthyf am eistedd a chau fy ngheg, beth mae'n ei wneud, wrth gwrs, yw tanseilio democratiaeth yn y Siambr hon yn ogystal. A gadewch imi ddweud hyn: ni wnawn ganiatáu i...
Alun Davies: Fe ildiaf, oherwydd rwy'n siŵr fod yr Aelod eisiau cyfle i ymddiheuro am hynny ac i'w dynnu'n ôl.
Alun Davies: Nid wyf yn meddwl bod y trydariad hwnnw wedi ei olygu ar fy nghyfer i ar y achlysur hwnnw a sylwaf nad ydych wedi ymddiheuro amdano. Ond dyna'r iaith sy'n arwain at fygwth fy mhartner; dyna sy'n arwain at swyddogion yr heddlu yn fy nghartref, yn amddiffyn fy nheulu, a'ch iaith chi sy'n gwneud hynny. A thrwy wneud hynny, rydych yn tanseilio ein democratiaeth, a dylai fod cywilydd mawr arnoch.
Alun Davies: Rwy'n condemnio pob math o gam-drin. Rwy'n ei gondemnio'n ddiamod. Ond dywedaf wrth yr Aelod dros Orllewin Clwyd hefyd fod yr iaith y mae'n ei defnyddio—. Yn ei gyfraniad ei hun y prynhawn yma, mae wedi sôn am sefydliad gwleidyddol allan o gysylltiad ac wedi defnyddio'r gair 'bradychu'. Nawr, i mi, nid yw hynny'n nodwedd o ddemocrat sy'n cydnabod ac yn gweld gwerth safbwyntiau y gallai fod...