Canlyniadau 701–720 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
Grantiau Datblygu Disgyblion yn Etholaeth Ogwr
(12 Gor 2017)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n newyddion da gweld bod y grant datblygu disgyblion yn cael effaith ar wella cyfleoedd addysg ein plant a’n pobl ifanc mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae addysg y plant a’r bobl ifanc yn Ogwr ar fin cael ei dinistrio wrth i’r toriadau i’r gyllideb ddod i’r amlwg. Gallai ysgolion cyfun awdurdod addysg lleol Pen-y-bont ar Ogwr golli hyd at bum swydd...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (12 Gor 2017)

Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n astudio pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch?

5. 4. Datganiad: Adroddiad Interim yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol (11 Gor 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch i Dr Ruth Hussey a'r panel am roi diweddariadau rheolaidd i mi a fy nhîm ar gynnydd yr adolygiad. Mae'r adroddiad interim yn nodi'n blaen yr heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym ar hyn o bryd mewn cyfnod o esblygu gyda'n systemau iechyd a gofal: rydym yn addasu neu rydym yn...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Dinas-ranbarth Bae Abertawe
(11 Gor 2017)

Caroline Jones: Prif Weinidog, mae gan y ddinas-ranbarth y potensial nid yn unig i weddnewid rhanbarth bae Abertawe, ond hefyd i sicrhau manteision ehangach i Gymru gyfan. Gallai'r rhyngrwyd gwyddorau bywyd a llesiant helpu i ad-drefnu’r ffordd yr ydym ni’n darparu gofal iechyd yn y dyfodol. Mae’r cebl trawsatlantig yn allweddol i lwyddiant gweledigaeth arfordir rhyngrwyd y ddinas-ranbarth. A allwch...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (11 Gor 2017)

Caroline Jones: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella cysylltiadau trafnidiaeth i gyrchfannau twristiaeth Cymru?

6. 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod ( 5 Gor 2017)

Caroline Jones: Ond rwy’n ei gefnogi.

6. 6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod ( 5 Gor 2017)

Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Hoffwn longyfarch Bethan ar gael ei dewis i gyflwyno cynnig deddfwriaethol a hoffwn gynnig fy nghefnogaeth i’w chynigion. Yng Nghymru, mae miloedd o bobl ifanc o dan 16 oed yn gofalu am berthnasau heb fawr o gefnogaeth os o gwbl gan eu hysgol neu awdurdodau iechyd. Mae deddfwriaeth Bethan yn cydnabod yr effaith y gall cyfrifoldebau gofalu ei chael ar addysg gofalwr ifanc ac...

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad:
Tyfu Bwyd ar Ystâd y Cynulliad
( 5 Gor 2017)

Caroline Jones: Diolch, Jenny, am y wybodaeth honno, a byddaf yn sicr yn cyfarfod â chi i drafod ymhellach. Fodd bynnag, fe atebaf y cwestiwn yn y ffordd rwyf wedi paratoi ar hyn o bryd. Ond fe wnaf gyfarfod â chi yn nes ymlaen. Rydym yn ymwybodol o’r fenter wych. Fel y soniais, aseswyd dichonoldeb tyfu bwyd ar ein hystâd gan grŵp o wirfoddolwyr staff. Fodd bynnag, heb fawr o fannau gwyrdd ar gael,...

2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad:
Tyfu Bwyd ar Ystâd y Cynulliad
( 5 Gor 2017)

Caroline Jones: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Yn 2014, cynhaliwyd cynllun peilot gan grŵp o wirfoddolwyr staff i asesu dichonoldeb tyfu bwyd ar ystad y Cynulliad. Fel y byddwch yn sylweddoli, nid oes gan y Cynulliad fawr o ofod tyfu addas, yn wahanol i rai o ddeddfwrfeydd eraill y DU, ac yn anffodus, gwelwyd nad yw’n bosibl tyfu bwyd ar yr ystad, er bod ein harlwywyr yn tyfu perlysiau i’w defnyddio...

7. 6. Datganiad: Diweddariad ar Wasanaeth Braenaru 111 y GIG yng Nghymru ( 4 Gor 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r gwasanaeth 111 wedi cael derbyniad da gan lawer o fy etholwyr i sydd wedi elwa ar y gwasanaeth braenaru. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o etholwyr yn dal heb fod yn ymwybodol o'r gwasanaeth, ac er fy mod i’n sylweddoli mai megis dechrau y mae’r cynllun, mae’n rhaid i ni sicrhau bod etholwyr anodd eu cyrraedd yn ymwybodol o'r...

6. 5. Datganiad: Y Gronfa Triniaethau Newydd — Adroddiad Cynnydd ( 4 Gor 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r gronfa triniaethau newydd wedi bod yn destun gobaith i lawer o ddioddefwyr canser, gan sicrhau bod cyffuriau fel Kadcyla ar gael fel mater o drefn i gleifion y GIG yng Nghymru. Wrth gwrs, nid dim ond cleifion canser fydd yn elwa ar y gronfa triniaethau newydd, a bydd yn ariannu rhagor na chyffuriau. Ysgrifennydd y Cabinet, er fy...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Carchar Newydd ym Maglan
( 4 Gor 2017)

Caroline Jones: Prif Weinidog, mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi nodi y bydd yn cynnal digwyddiad deuddydd ym Mhort Talbot er mwyn ennyn barn pobl ar y carchar newydd cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol. Er bod hyn i’w groesawu, mae angen ymgynghoriad cyhoeddus mwy cyflawn ar y cynigion arnom. Pa drafodaethau mae eich Llywodraeth wedi eu cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder am ymgynghoriad cyhoeddus...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Diwrnod y Lluoedd Arfog
(28 Meh 2017)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn dathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog bob blwyddyn er mwyn ailddatgan ein gwerthfawrogiad diffuant i’r rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac i ddangos ein cefnogaeth i’r dynion a’r menywod sy’n rhoi eu bywydau mewn perygl i ddiogelu ein gwlad a’n ffordd o fyw. Roeddwn wrth fy modd pan glywais fod Llywodraeth y DU a’r DUP wedi ailddatgan ymrwymiad...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Diwydiant Cocos Gŵyr
(28 Meh 2017)

Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae cocos wedi cael eu cynaeafu oddi ar arfordir Gŵyr ers oes y Rhufeiniaid. Fodd bynnag, dros y degawd diwethaf, mae’r gwelyau cocos wedi bod yn marw ar raddfa sylweddol bob blwyddyn. Croesawaf yr astudiaeth newydd, a fydd, gobeithio, yn mynd i’r afael â diffygion astudiaeth 2012. Ysgrifennydd y Cabinet, beth arall y gall eich Llywodraeth ei...

4. 3. Cwestiynau Amserol:
Y Cyffur Kadcyla
(21 Meh 2017)

Caroline Jones: Diolch i fy nghyd-Aelod Angela Burns am gyflwyno’r pwnc pwysig hwn. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r cytundeb rhwng GIG Cymru a Roche yn newyddion gwych i ddioddefwyr canser y fron yng Nghymru ac yn enghraifft berffaith o’r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio ar y cyd â’r diwydiant fferyllol. Mae’r fargen hon a’r gronfa driniaethau newydd yn golygu y gall menywod sydd â...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Seilwaith TG GIG Cymru
(21 Meh 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gan dechnoleg gwybodaeth botensial i drawsnewid y modd y darparwn ofal iechyd yn y dyfodol. O delefeddygaeth i apiau iechyd rhyngweithiol, mae’r manteision i gleifion yn enfawr. Yn anffodus, nid yw ein seilwaith cyfredol yn gallu ateb gofynion heddiw. Gyda meddygon a nyrsys yn cael eu gorfodi i ddefnyddio TG sy’n heneiddio, a...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(21 Meh 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae sgrinio canser y coluddyn yn cael ei gynnig i bobl rhwng 60 a 74 oed. Mae’r Alban wedi penderfynu sgrinio pobl rhwng 50 a 74 oed. Fodd bynnag, mae canser y coluddyn yn gallu taro pobl o bob oed. Ychydig wythnosau yn ôl, yn anffodus, collasom gydweithiwr i ganser y coluddyn, ac yntau ond yn 33 oed. Ysgrifennydd y Cabinet, a oes gan eich Llywodraeth...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(21 Meh 2017)

Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymru wedi penderfynu gosod trothwy sensitifrwydd llawer uwch ar gyfer y prawf sgrinio imiwnogemegol ysgarthol. Er ei fod yn is na’r lefel a osodwyd yn Lloegr, mae’n ddwywaith y lefel a osodwyd yn yr Alban, ac wyth gwaith yn uwch na’r trothwy a osodwyd mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae Ymchwil Canser y DU yn datgan mai’r rheswm...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(21 Meh 2017)

Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydym i gyd yn gwybod bod canfod canser yn gynnar yn hanfodol i oroesiad claf, a dyna pam fod y rhaglenni sgrinio mor bwysig. Os ceir diagnosis o ganser y coluddyn ar gam cynharach, bydd mwy na naw o bob 10 o bobl yn cael eu trin yn llwyddiannus. Dylai sgrinio leihau nifer y bobl sy’n marw o’r clefyd, sy’n lladd tua 1,000 o bobl yng Nghymru bob...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Seilwaith TG GIG Cymru
(21 Meh 2017)

Caroline Jones: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella seilwaith TG GIG Cymru? OAQ(5)0184(HWS)

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.