Suzy Davies: Diolch am hynny hefyd. Roedd cael ein Senedd yng nghanol ein digwyddiad diwylliannol cenedlaethol, a bod yn gartref i'r Lle Celf, pebyll y cymdeithasau a phabell y dysgwyr yn llwyfan gwych ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd. Daeth bron i 7,000 o bobl i ddigwyddiadau ym mhebyll y cymdeithasau, a gwnaeth dros 5,500 o bobl dynnu eu llun yng nghadair y Llywydd yn y Siambr. Nid wyf i wedi gwneud...
Suzy Davies: Diolch am y cwestiwn. Roedd yn wythnos arbennig. Gobeithio eich bod chi i gyd yn cytuno â hynny. Cynhaliwyd gwerthusiad a ddaeth i'r casgliad bod cyfranogiad y Cynulliad yn yr Eisteddfod wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Roedd y mesurau yn cynnwys nifer yr ymwelwyr ar yr ystad, y gwaith ymgysylltu a wnaed, y gost, ac enw da y Senedd a'n staff. Roedd y canlyniadau yn cynnwys cynnydd enfawr...
Suzy Davies: Tybed a gawn ni esboniad o pam y cafodd y datganiad ar gynllun trawiad ar y galon y tu allan i oriau ei dynnu yn ôl? Byddwn yn deall os yw o ganlyniad i ddigwyddiadau hynod drist y penwythnos hwn, ond byddwn wir yn gwerthfawrogi pe byddem ni'n cael cadarnhad y byddwn yn cael datganiad llafar yn hytrach na datganiad ysgrifenedig ar hyn. Fe fyddwn i, yn un, yn sicr yn falch o'r cyfle i ofyn...
Suzy Davies: Wel, mae Abertawe a Chaerdydd, wrth gwrs, yn elwa ar rywfaint o waith adfywio ar hyn o bryd, nid lleiaf drwy'r fargen ddinesig, ond mae Pen-y-bont ar Ogwr, fel y gwyddoch, ar gyrion eithafol ôl-troed bargen ddinesig dinas Caerdydd. Er bod trethdalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfrannu dros £11 miliwn neu fwy ar gyfer y prosiect, mae trigolion yn dechrau gofyn i mi nawr ble mae'r budd ynddo ar...
Suzy Davies: Wel, rwy'n cytuno â Siân Gwenllian. Nid oes pwynt cynnwys cwestiwn mewn ymgynghoriad am rywbeth nad ydych chi wedi cynnig unrhyw dystiolaeth arno. Nid yw cwpwl o eiriau ystrydebol ar le mae'r iaith Gymraeg mewn cymunedau gwledig really ddim yn cyfrif. A gawsoch chi unrhyw gyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch sut i gasglu a chyfleu tystiolaeth cyn ymgynghori?
Suzy Davies: Gwych, diolch yn fawr.
Suzy Davies: Diolch am eich ateb. Rwy'n credu bod anghenion y cymunedau yng Nghymru yn rhan allweddol o'ch ateb. Fe ysgrifennoch chi at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan ddweud yn glir, yn eich barn chi, y dylent fod yn edrych ar eu cynllun datblygu lleol ar y cyd â rhai Rhondda Cynon Taf a Chaerffili. Mae Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi cynllunio eu stoc adeiladu tai ar gyfer y pum mlynedd...
Suzy Davies: 9. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ynghylch effaith y system gynllunio ar adeiladu tai yng Ngorllewin De Cymru? OAQ52695
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Tybed a allech chi fy helpu, pan fyddaf yn gofyn rhai cwestiynau ynghylch addysg a'r berthynas rhwng y prif grŵp gwariant addysg a rhai o linellau gwariant adrannau eraill? Yn amlwg, mae'n braf iawn gweld y £60 miliwn ychwanegol ar gyfer addysg. Mae e dal yn llai na'r £100 miliwn yr oeddem yn ei ddisgwyl ar gyfer safonau...
Suzy Davies: Ar bwynt tebyg, a dweud y gwir, yn yr adroddiad ar gydymffurfiad adran 1 y Mesur, nododd Llywodraeth Cymru mai ei bwriad fel cam nesaf yw: adolygu ein strategaeth i gefnogi ac i dynnu sylw at bwysigrwydd cyfranogiad gan blant a phobl ifanc mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw. Rwyf i wedi codi hyn o'r blaen, yn yr un modd â Helen Mary, yr anghysondeb hwn rhwng polisi'r Llywodraeth a...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Rydych chi a minnau'n cynrychioli'r un ardal, lle mae Ysbyty Treforys wedi'i leoli. A ydych yn rhannu fy mhryderon, os yw'r holl wasanaethau hyn yn cael eu gwthio tua'r dwyrain, byddant yn cyrraedd cyn belled â Threforys, sydd eisoes wedi ei orlwytho gan y galwadau eraill sydd arno? Er ei bod hi'n wych fod gennym bethau, gobeithio, fel llawdriniaeth thorasig yn...
Suzy Davies: Wel, rwy'n teimlo poen Mike Hedges yn hyn o beth, mae arnaf ofn, ac mae gennyf ddiddordeb, o ran yr astudiaeth goridor, mewn gweld a yw'n cynnwys y pwynt rwyf am ei godi â chi nawr. Yn ystod y cyfnod o wyth mis y cyfeiriodd David Rees ato ddoe, pan oedd cyffordd 41 ar gau, cododd y defnydd o ffordd ddosbarthu Ffordd yr Harbwr, a agorwyd gan y Prif Weinidog bum mlynedd yn ôl, o 14.5 car y...
Suzy Davies: Diolch. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Suzy Davies: A gaf i ofyn ichi ddod at y cwestiwn, os gwelwch yn dda?
Suzy Davies: Rydym wedi clywed gan bob plaid sy'n bresennol yn y Siambr heddiw ac rydym wedi rhedeg mas o amser, ond mae siawns i'r siaradwr olaf ofyn cwestiwn clou, os yn bosib—Jayne Bryant.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Ysgrifennydd y Cabinet. Gobeithio y byddwch chi'n teimlo'n well cyn bo hir.
Suzy Davies: Symudwn ni nawr at ddatganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: blaenoriaethau ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru. Galwaf ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas.
Suzy Davies: Ac yn olaf, Paul Davies.
Suzy Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddim ond dweud fy mod yn bendant yn croesawu'r datganiad hwn? Mae unrhyw beth sydd o blaid gwella ac amlygu'r gwelliant o ran safonau yn rhywbeth rwy'n siŵr y bydd pawb yn awyddus i glywed ychydig mwy amdano. Efallai y caf i ofyn i chi i ddechrau—rydych yn dweud y byddwn yn cael y newyddion diweddaraf ar hyn eto pan fydd y meysydd cwricwlwm dysgu a phrofiad...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am hynna, o gofio ein bod ni gryn ffordd i mewn i oes y cytundebau hyn. Mae'n drueni eu bod hi wedi cymryd cyhyd â hynny, ond, serch hynny—. Mae'r Sefydliad Materion Cymreig wedi dadlau bod yn rhaid cael mwy o fuddsoddiad, ymchwil ac arloesi i ni fod ag unrhyw obaith o gyrraedd 100 y cant o'n galw am ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, ac mae'r prosiect cartrefi...