Canlyniadau 701–720 o 2000 ar gyfer speaker:Russell George

3. Cwestiynau Amserol: Honda (20 Chw 2019)

Russell George: Dyna beth roeddent yn ei ddweud. Rwy'n dyfynnu beth roeddent yn ei ddweud.

3. Cwestiynau Amserol: Honda (20 Chw 2019)

Russell George: Wel, wrth gwrs, mae Honda wedi cadarnhau nad Brexit oedd wrth wraidd eu penderfyniad, ond ei fod wedi'i lywio'n bennaf gan y ffaith bod y diwydiant yn symud tuag at gerbydau trydan, ac maent wedi dweud y byddant yn canolbwyntio gweithgarwch mewn rhanbarthau lle maent yn disgwyl y bydd mwy o alw am geir trydan. Felly, rwy'n pryderu ein bod ni ar ei hôl hi yma yng Nghymru. Gwyddom fod...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol (20 Chw 2019)

Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth tai cymdeithasol ar gyfer pobl sydd ag anawsterau symud?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwella Gwasanaethau Rheilffyrdd Cymru (19 Chw 2019)

Russell George: Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol bod trigolion Carno wedi bod yn ymgyrchu dros gael gorsaf newydd yng Ngharno ers blynyddoedd lawer. Maen nhw wedi bod yn rhwystredig bod y broses arfarnu cam 2 yn ymddangos fel ei fod wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl, ond rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones, a ofynnodd gwestiwn i'ch cyd-Aelod yr wythnos diwethaf, i wybod bod y broses cam 2 honno wir yn...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (19 Chw 2019)

Russell George: Pa asesiad y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i wneud o adroddiad 'Cludo Cenedlaethau'r Dyfodol' o ran sut y dylai'r sector seilwaith trafnidiaeth ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd a gyflwynir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Symud Nwyddau i Gymru ar ôl Brexit (13 Chw 2019)

Russell George: A gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa drafodaethau a gafodd gyda Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â symud nwyddau a Brexit?

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Contract Economaidd Newydd i Fusnesau (13 Chw 2019)

Russell George: Weinidog, credaf fod y contract economaidd yn gam cadarnhaol mewn perthynas ag ehangu'r effaith a fwriedir gan gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau llai o faint Cymru. A allwch egluro, Weinidog, pa fath o gefnogaeth ariannol a roddir i gwmnïau Cymru, ar ffurf cymorth ariannol? A fydd y cymorth hwn yn cael ei ddarparu drwy drefniant benthyciadau, ac os felly, beth yw strategaeth Llywodraeth...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Chw 2019)

Russell George: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, mae Cyflymu Cymru yn un o gynlluniau Llywodraeth Cymru, a chroesawaf rai elfennau o gynlluniau eraill a gyhoeddwyd gennych y llynedd a'r blynyddoedd cyn hynny, ond nid ydynt yn mynd i gynnwys pob safle ledled Cymru nac yn mynd i fod yn berthnasol i bob safle ledled Cymru. Nawr, os edrychwn ar gam 1, roedd yna ardaloedd ledled Cymru ar ôl...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Chw 2019)

Russell George: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Rydych wedi cyhoeddi'r £22 miliwn a ddyrannwyd. Cyhoeddodd eich rhagflaenydd y llynedd y byddai £85 miliwn yn cael ei ddyrannu i gam 2. Felly, a gaf fi ofyn i chi—yn ôl fy nghyfrif i, mae £62 miliwn yn weddill—sut rydych yn bwriadu gwario'r £62 miliwn hwnnw mewn perthynas â cham 2?

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Chw 2019)

Russell George: Diolch, Lywydd. Faint o adeiladau fydd yn cael mynediad at fand eang cyflym iawn a dibynadwy o dan ail gam cynllun Cyflymu Cymru, ac ar ba gost i bwrs y wlad?

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol ( 6 Chw 2019)

Russell George: Rwy'n deall ac yn derbyn yr hyn yr ydych yn ei ddweud, ond rydych hefyd yn awgrymu ein bod ni ar y meinciau hyn a meinciau Llafur yn bleidiau'r DU a'ch bod chi'n blaid Gymreig, ac eto mae ein cynnig yn ymwneud â'r anghydraddoldebau yng Nghymru. Rydym yn sôn am yr anghydraddoldebau ar draws y wlad.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol ( 6 Chw 2019)

Russell George: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Mae eithaf tipyn y gallwn gytuno yn ei gylch yng nghynnig y Llywodraeth heddiw, ond ni allwn ei gefnogi oherwydd ei fod yn dileu ein cynnig yn ei gyfanrwydd. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliannau 2 na 5, ond byddwn yn cefnogi gwelliant 3, a hoffem glywed mwy o fanylion am gynnig Plaid Cymru ar Fil buddsoddi...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Addysg ( 6 Chw 2019)

Russell George: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu?

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Addysg ( 6 Chw 2019)

Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu clybiau brecwast yng nghanolbarth Cymru?

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ( 6 Chw 2019)

Russell George: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella gwasanaethau trin poen cronig ar gyfer cleifion yng nghanolbarth Cymru?

5. Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru ( 5 Chw 2019)

Russell George: Gwnaf.

5. Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru ( 5 Chw 2019)

Russell George: Fe wnes i amlinellu ar ddechrau fy nghyfraniad fod y cyfnod rheoli nesaf yn gynnydd o 24 y cant, ac o ran buddsoddiad hefyd, cafwyd £50 miliwn ar gyfer y prosiect i uwchraddio llinellau rheilffordd y gogledd, gan gynnwys system signalau newydd ar gyfer y gogledd ar brif linell reilffordd yr arfordir o Shotton i Fae Colwyn, £300 miliwn o fuddsoddiad yn ardal Caerdydd ar gyfer ailosod...

5. Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru ( 5 Chw 2019)

Russell George: Wel, mae'n ddiddorol eich bod wedi crybwyll rhan o'r adroddiad hwnnw. Wrth gwrs, mae rhan arall o adroddiad y pwyllgor dethol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017 yn dod i'r casgliad bod buddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru wedi'i gamreoli'n gyson gan Lywodraeth Cymru dros y degawd diwethaf. Felly, fe allwn ni i gyd ddewis a dethol, oni allwn ni, pa rannau o'r adroddiad yr ydym ni eisiau eu...

5. Dadl: Dyfodol Rheilffordd Cymru ( 5 Chw 2019)

Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf yn ffurfiol y gwelliannau yn enw Darren Millar. Mae dweud y bu tanfuddsoddi gan Lywodraeth bresennol y DU yn seilwaith rheilffyrdd Cymru yn gwbl anghywir. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau—[Torri ar draws.] Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau, Dirprwy Lywydd, yn hytrach na'r rhethreg a amlinellir yn y cynnig. Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi'r symiau mwyaf...

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Twristiaeth (30 Ion 2019)

Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau beicio cymunedol ym Mhowys?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.