Rhianon Passmore: O ran heddiw o bob diwrnod—i’r Torïaid sôn am dro pedol pan, yn sydyn, nad oes angen gwarged yn y gyllideb bellach ar gyfer cyni. Ond dyna ni. Rwy’n crwydro. Iawn. Rwyf eisiau croesawu’n gryf y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r ymagwedd gydadeiladol gadarnhaol gyda rhanddeiliaid ledled Cymru heddiw, sy'n amlinellu ffyrdd newydd o weithio, mwy o eglurder a sicrwydd...
Rhianon Passmore: Diolch i chi am yr ateb yna. Yn amlwg, soniodd y Prif Weinidog am y ffaith fod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi ymateb, unwaith eto, i bron i 81 y cant o'r galwadau lle ceir y bygythiad mwyaf i fywyd mewn wyth munud neu lai ym mis Awst a, thrwy wneud hynny, mae wedi cyrraedd y targed am yr unfed mis ar ddeg yn olynol. Mae hynny'n glod enfawr i'n staff ambiwlans yng Nghymru. Felly, a wnaiff y...
Rhianon Passmore: 9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad gwasanaeth ambiwlans Cymru? OAQ(5)0185(FM)
Rhianon Passmore: Diolch i chi—ni ddywedaf ‘Llywydd’—Ddirprwy Lywydd—?
Rhianon Passmore: Dro dro—iawn, diolch. Yn gyntaf, hoffwn innau hefyd ddiolch i chi, Vikki. Fel cyn athrawes, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Gwm Cynon am godi’r mater pwysig hwn, ac rwy’n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo addysg awyr agored drwy gydol y cyfnod sylfaen. Yn fy etholaeth i, cyfleusterau rhyfeddol megis Ffordd Goedwig Cwmcarn a Chanolfan Gweithgareddau Awyr Agored...
Rhianon Passmore: A allech egluro eich safbwynt drwy’r cynnig hwn mewn perthynas ag ysgolion gramadeg cyfrwng Cymraeg?
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Iawn. Y cwestiwn y byddwn yn ei ofyn i’r rhai sy’n crochlefain am gael dychwelyd at system ddethol yw: a ydych chi wir eisiau gwahanu disgyblion Cymru? Mae’r ateb yn glir: rydych yn dymuno rhannu a gwahanu plant Cymru. Rwy’n gwrthwynebu’r cynnig hwn yn gryf.
Rhianon Passmore: Mae’n ddrwg gennyf, ni wnaf. Ac ymhellach, fod ei hanes o dderbyn plant o gefndiroedd heb fod yn ddosbarth canol ‘yn eithaf truenus’. Rydym wedi clywed y geiriau hynny eisoes—eithaf truenus. Gwn y byddai aelodau UKIP yn hoffi pe baem yn byw ym myd Michael Gove a’i fydysawd cyfochrog. Datganodd y cyn-Ysgrifennydd Addysg Torïaidd hwnnw’n gynharach eleni, Rwy’n credu bod pobl yn y...
Rhianon Passmore: Mae’r cynnig hwn yn mynd at wraidd yr hyn y mae UKIP yn ei wneud mewn gwirionedd, sef dethol a gwahanu. Mae Cylchlythyr 10/65 yn drobwynt pwysig a roddodd siâp i addysg yn y wlad hon yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Hanner cant ac un o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae’n dal i fod yn un o lwyddiannau blaengar diffiniol Llywodraeth Lafur radical Wilson 1964-1970, a byddwn yn sôn am...
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. Felly, a ydych yn dweud mewn gwirionedd y bydd ein ffermwyr yng Nghymru yn well eu byd ar ôl y trafodaethau i adael yr UE?
Rhianon Passmore: Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Amcangyfrifwyd bod y farchnad fewnol yn y GIG yn Lloegr yn costio hyd at £10 biliwn y flwyddyn. A fyddech chi’n cytuno â mi bod ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i beidio â chael unrhyw farchnad fewnol yn y GIG yng Nghymru wedi bod o fudd aruthrol i gleifion, a’i fod yn ymrwymiad a fydd yn parhau?
Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae GIG Cymru yn cynnal yr egwyddor o fod am ddim yn y pwynt gofal? OAQ(5)0134(FM)
Rhianon Passmore: Nid oes amheuaeth nad yw’r BBC yn destun parch mawr ymhlith y cyhoedd yng Nghymru. Yn ei adolygiad blynyddol olaf o allbwn BBC Cymru, dywedodd Cyngor Cynulleidfa Cymru fod tri o bob pump o bobl, sef 62 y cant, yng Nghymru, yn teimlo bod ffi’r drwydded deledu yn cynnig gwerth am arian, a byddai mwy na phedwar o bob pump o bobl yng Nghymru yn gweld eisiau’r BBC pe na bai yno. Mae...
Rhianon Passmore: Diolch i chi am hynny. Mae’r cyfrifiad ysgolion diweddaraf yn dangos mai’r maint dosbarth babanod cyfartalog yng Nghymru yw 25.4 o ddisgyblion. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gostyngir maint dosbarthiadau babanod yn Islwyn i 25, gan fod lleihau maint dosbarthiadau babanod yn fater pwysig i rieni ac y gall effeithio’n gadarnhaol ar lwyth gwaith athrawon? A pha...
Rhianon Passmore: Roedd Harold Wilson yn arfer dweud bod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth. Wel, mae’n ymddangos fel oes wleidyddol gyfan yn ôl, fel y crybwyllwyd eisoes, er pan gyflwynwyd Araith y Frenhines i’r Senedd ar 18 Mai 2016. Ar wahân i’r llu o faterion economaidd, masnachol a chymdeithasol rydym yn eu hwynebu yn awr, mae’n anochel i Gymru fod y sylw’n canolbwyntio yn awr ar Fil...
Rhianon Passmore: 2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa ganran o ddisgyblion sydd mewn dosbarthiadau babanod o dros 30 o ddisgyblion yn Islwyn? OAQ(5)0009(EDU)
Rhianon Passmore: Byddaf yn gryno. Diolch. Mae cymunedau'r Cymoedd yn wir wedi ysgwyddo baich effaith y dirwasgiadau Torïaidd a'r dirywiadau economaidd Torïaidd, heb os nac oni bai. Mae toriadau lles llym eisoes wedi eu trafod. Yn fy nghymuned, mae’r gweithredoedd anfoesol yn gysylltiedig â’r dreth ystafell wely wedi achosi anfantais enfawr ac eang. O ran torri’n syth at gwestiwn—diolch, Lywydd...
Rhianon Passmore: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, am yr ateb yna. Er 2007, mae prosiectau'r UE wedi creu 11,900 o fentrau a tua 37,000 o swyddi. Mae'r arian UE hwn wedi helpu 72,700 o bobl i mewn i waith, wedi helpu mwy na 229,000 i ennill cymwysterau, ac wedi ariannu 56,000 o bobl i mewn i ddysgu pellach er 2007. O dan y rhaglenni £1.8 biliwn presennol a gefnogir gan yr UE, ymrwymwyd mwy na £700 miliwn o...