Jeremy Miles: Mae'r fframwaith penderfyniadau rheoli heintiau lleol yn nodi'r camau y dylai ysgolion eu cymryd i leihau trosglwyddiad COVID-19. Tra byddwn yn dysgu mwy am omicron, dylai staff ym mhob lleoliad addysg a dysgwyr oedran uwchradd ac uwch wisgo gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth ac mewn mannau cymunedol yn awr.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Credaf fod maint yr her sydd o'n blaenau, ac rydym i gyd yn ymwybodol ohoni, rwy'n credu, yn golygu bod angen inni wneud pob cyfraniad y gallwn ei wneud. Felly, credaf y bydd y rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn y dyfodol yn gwneud cyfraniad sylweddol, yn sicr ym maes prosiectau adeiladu o'r newydd, adnewyddu mawr ac ymestyn, a bydd y meini prawf ar...
Jeremy Miles: Byddwn yn sicr yn fodlon gwneud hynny a diolch i'r Aelod am ddod â'r pwynt pwysig hwnnw i'r Siambr. Roeddwn yn gwrando ar ei chwestiwn i'r Gweinidog newid hinsawdd yn gynharach, ac wrth edrych ar faint rhai o'r heriau sy'n ein hwynebu, credaf fod gweld pa mor bell y mae llawer o'n disgyblion iau wedi mynd yn wirioneddol ysbrydoledig, ymhellach efallai na hyd yn oed rhai ohonom sydd wedi...
Jeremy Miles: Rwyf wedi mandadu carbon sero net o dan faner newydd 'cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu' ar gyfer rhaglen fuddsoddi ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf. Bydd angen i bob prosiect adeiladu o'r newydd, adnewyddu mawr ac ymestyn ddangos bod carbon sero net yn cael ei gyflawni yn y gwaith ynghyd â gostyngiad o 20 y cant yn y carbon a gaiff ei allyrru wrth...
Jeremy Miles: O ran buddsoddi i gefnogi’r rheini oedd wedi colli'r cyfle i ddefnyddio’u Cymraeg, efallai lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar yr aelwyd, mae'r arian o ran adnewyddu a diwygio y gwnaethom ni ei ddatgan ar gyfer y flwyddyn nesaf, mae elfen o hynny wedi’i flaenoriaethu ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg er mwyn sicrhau bod cefnogaeth bellach iddyn nhw allu ailfeithrin ac...
Jeremy Miles: Wel, mae'r cwestiwn hwn yn un pwysig iawn, ac, mewn amryw ffyrdd, mae'r Llywodraeth eisoes yn darparu cefnogaeth. Un o'r blaenoriaethau sydd gyda ni yw sicrhau bod trosglwyddiad y Gymraeg yn digwydd ar yr aelwyd. Mae hynny, efallai, yn fwy o her na byddwn i'n gobeithio ac yn disgwyl ei bod hi. Felly, mae cefnogaeth benodol ar gael yn y cyd-destun hwnnw. Hefyd, fel rŷch chi'n gwybod, o ran y...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Mewn prifysgol sydd â'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg o holl brifysgolion Cymru, mae'n briodol bod gan myfyrwyr gynrychiolaeth gyflogedig yn eu hundeb. Byddai hyn yn cyfateb i'r gynrychiolaeth rŷn ni'n gweld mewn undebau ym mhrifysgolion eraill Cymru, fel gwnaeth yr Aelod grybwyll yn ei gwestiwn. Mater, wrth gwrs, i fwrdd ymddiriedolwyr yr...
Jeremy Miles: Wel, nid wyf yn credu bod clywed yr Aelod yn honni bod yna ddiffyg eglurder a minnau wedi nodi'r sefyllfa ychydig funudau'n ôl yn arbennig o ddefnyddiol, os caf ei roi felly. Fel y dywedais—[Torri ar draws.] Fel y dywedais, o ganlyniad i'r amrywiolyn, rydym i gyd yn edrych ar draws y Llywodraeth ar ba gamau y mae angen eu cymryd yn ddyddiol. Gwn ei bod yn cytuno bod angen sicrhau y gall...
Jeremy Miles: Rwy'n cytuno â'r Aelod ynglŷn â difrifoldeb y mater, a chytunaf â hi fod adroddiad Estyn yn peri gofid mawr, ac rwyf am ddiolch i bob plentyn a pherson ifanc a gymerodd ran yn yr adroddiad hwnnw. Ni fydd wedi bod yn beth hawdd iddynt ei wneud, ond maent wedi bod yn ddewr, ac yn y sgyrsiau gonest hynny, maent wedi ein galluogi i ddeall yn well beth yw'r sefyllfa yn llawer o'n hysgolion....
Jeremy Miles: Wel, a gaf fi ategu ei sylwadau ynglŷn ag achos trasig Arthur Labinjo-Hughes, y cyfeiriodd ato ar ddechrau ei chwestiwn, sy'n wers drist a sobreiddiol iawn i bob rhan o'r DU yn fy marn i? Mae gan bob lleoliad addysg yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod plant yn cael mynediad at amgylchedd dysgu diogel, ac rwy'n disgwyl ac yn deall, wrth gwrs, ar draws y system, fod ystyriaeth...
Jeremy Miles: Rwy'n sicr yn cytuno ag ef fod angen inni sicrhau bod y teuluoedd sy'n lleiaf abl i fforddio mynediad at fand eang a'r math o offer cyfrifiadurol y bydd llawer ohonom yn ei gymryd yn ganiataol yn gallu cael gafael arnynt er mwyn i'r cyfleoedd hynny fod ar gael i ddysgwyr, ni waeth beth fo'u hamgylchiadau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu gwerth tua £150...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod ar y pwynt cyntaf a wnaeth, sef bod staff addysgu a staff ysgol yn aml iawn wedi rhoi lles eu dysgwyr o flaen eu lles eu hunain. A hoffwn gofnodi eto heddiw fy niolch i'r holl weithlu addysg am yr ymdrechion anhygoel y maent wedi'u gwneud dros y 18 mis diwethaf, ond gan gydnabod yn benodol, rwy'n credu, pa mor heriol y mae'r tymor diwethaf wedi bod yn ein...
Jeremy Miles: Mae'n bwysig fod gennym ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad ar draws pob carfan o ddysgwyr. Mae adolygiad o batrymau presenoldeb ar y gweill ac rwy'n disgwyl canfyddiadau interim yn fuan, gyda'r adroddiad ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, a bydd canfyddiadau'r adolygiad hwnnw yn ein helpu i lywio datblygiad yr ymyriadau polisi wedi'u targedu.
Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod yn iawn i ddweud, wrth gwrs, fod amgylchiadau omicron yn golygu ein bod ni'n gorfod cadw golwg gofalus iawn ar ddatblygiadau. Mae'r Cabinet wedi cwrdd heddiw a bydd yn cwrdd eto yfory. Mae'r peth o dan drosolwg dyddiol ar hyn o bryd oherwydd bod y darlun yn newid ac mae mwy o ddata'n cael eu cyflwyno a'r dystiolaeth yn dod yn amlycach fesul diwrnod. Felly, mae wir yn bwysig...
Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Wrth gwrs, mae'n gywir i ddweud bod plant yn dysgu orau pan fyddant mewn ystafell ddosbarth gyda'u cyfoedion a chyda'u hathrawon yn dysgu wyneb yn wyneb. Wrth gwrs, cafwyd adegau pan na fu hynny'n bosibl ac wrth gwrs, mewn rhai rhannau o Gymru mae hynny'n parhau i fod yn heriol o wythnos i wythnos ar hyn o bryd. Ond mae'n fwriad gan bawb ar...
Jeremy Miles: Rwyf wedi cyflwyno'r fframwaith rheoli heintiau lleol a'r pecyn cymorth ategol i gynorthwyo ysgolion i gyflwyno mesurau ychwanegol yn seiliedig ar drosglwyddiad cymunedol lleol; er enghraifft, yng Ngwynedd, rydym wedi cynyddu'r cynnig o brofi yn ddiweddar am gyfnod cyfyngedig mewn ymateb i angen lleol. Rydym yn trafod yn gyson â chyfarwyddwyr addysg ledled Cymru ynglŷn ag amrywiaeth o...
Jeremy Miles: Children may receive education through school settings or other means for example elective home education. Most learners receive their education in mainstream school. Local authorities are able to make arrangements for Education Other Than at School for learners who require tailored support away from mainstream settings.
Jeremy Miles: We are reviewing this area and plan to publish a Strategy for Educational Equity early next year. Also the Curriculum for Wales is central to our aspirations for learners’ attainment. Through the Renew and Reform plan, we have committed £160m, with a clear focus on support for disadvantaged learners.
Jeremy Miles: Universities are autonomous bodies, independent of government, and are responsible for their own administrative affairs. The Welsh Government has no authority to intervene on administrative matters such as pay and remuneration, which are the responsibility of institutional governing bodies.
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw? Ac mae'n amlwg wrth glywed geiriau brwdfrydig o bob rhan o'r Siambr fod cyfleoedd gyda ni i gyd yma yn y Siambr i gydweithio tu hwnt i'r cytundeb cydweithredol sydd rhyngom ni fel Llywodraeth a Phlaid Cymru, ond gyda phob rhan o'r Siambr i sicrhau ffyniant yr iaith, a sicrhau ein bod ni'n gwneud popeth y...