Canlyniadau 701–720 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

Grŵp 14: Gwybodaeth a chanllawiau (Gwelliannau 25, 26, 47, 53) (19 Maw 2019)

David Melding: Rwy'n gwybod bod gwelliant 25 yn allweddol i naratif canolog y Llywodraeth ac, yma yng Nghymru, yr hyn sy'n atal gwyro o'r gyfraith yn y pen draw yw y gallai landlord golli ei drwydded o dan Rhentu Doeth Cymru, ac adlewyrchir hyn yn y gwelliant hwn, yn benodol yn gysylltiedig â methiant i ad-dalu taliad gwaharddedig. Fel rwyf wedi ei ddweud, rwy'n credu ein bod wedi colli cyfle drwy beidio...

Grŵp 13: Cyfyngiadau ar roi hysbysiad ar gyfer meddiant (Gwelliannau 46, 54) (19 Maw 2019)

David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n hapus iawn i gynnig y ddau welliant yn y grŵp hwn, sydd wedi eu datblygu mewn cydweithrediad agos â'r Gweinidog a'i thîm. A gwn fy mod wedi dweud rhai pethau miniog, ond rwy'n gobeithio fy mod wedi dweud llawer o bethau mwy adeiladol am y ddeddfwriaeth hon, ac rwyf yn credu ei bod hi'n arwydd da pan fydd y Llywodraeth yn cefnogi gwelliant a ysbrydolwyd gan...

Grŵp 10: Hysbysiadau cosb benodedig (Gwelliannau 43, 44) (19 Maw 2019)

David Melding: Rwy'n cynnig.

Grŵp 11: Awdurdodau gorfodi: rhannu gwybodaeth (Gwelliannau 45, 17, 21) (19 Maw 2019)

David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r prif welliant yn y grŵp hwn, gwelliant 45, yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i hysbysu Rhentu Doeth Cymru pan gaiff cosb benodedig ei thalu. Yn ystod Cyfnod Pwyllgor y Bil hwn, fe wnaethom ni gytuno â Rhentu Doeth Cymru bod angen i'r broses gael ei thynhau i sicrhau, pan gaiff hysbysiad cosb benodedig ei thalu, bod Rhentu Doeth Cymru yn cael gwybod. Bydd...

Grŵp 10: Hysbysiadau cosb benodedig (Gwelliannau 43, 44) (19 Maw 2019)

David Melding: Diolch, Dirprwy Lywydd. Wyddoch chi, ar adegau penodol yng Nghyfnod 3, rydym ni'n mynd at wraidd y mater, ac mae'r ddeddfwriaeth hon, y Bil hwn, i fod i ymwneud â diogelu tenantiaid rhag taliadau anghyfreithlon. Yr un peth nad yw'n ei wneud yn effeithlon yw ad-dalu taliad anghyfreithlon, ac rwy'n credu y byddai unrhyw un sy'n gwylio hyn mewn penbleth. O leiaf yn Lloegr, beth bynnag fo'r...

Grŵp 10: Hysbysiadau cosb benodedig (Gwelliannau 43, 44) (19 Maw 2019)

David Melding: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gynnig y ddau welliant yn y grŵp hwn, sef 43 a 44. Mae gwelliant 44 yn deillio o'r un gwelliant a gyflwynais yng Nghyfnod 2 ac mae'n adeiladu ar y gwelliannau y mae'r Llywodraeth eisoes wedi eu rhoi ar waith, gan gynyddu'r hysbysiad cosb benodedig o £500 i £1,000. Mae fy fersiwn yn cynyddu'r hysbysiad cosb benodedig o £1,000 i £2,000. Rwyf yn...

Grŵp 9: Awdurdodau gorfodi (Gwelliannau 11, 12, 13, 14, 15, 16, 18, 19, 20) (19 Maw 2019)

David Melding: A gaf i groesawu'r gwelliannau hyn, a fydd yn rhoi'r pŵer i Rhentu Doeth Cymru gyflwyno hysbysiadau cosb benodedig? Cyflwynais y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2, ac roeddem ni'n falch o glywed y byddai'r Llywodraeth yn cyflwyno fersiwn fwy addas yng Nghyfnod 3. Rwy'n credu bod angen rhoi pwerau ychwanegol i Rhentu Doeth Cymru i gryfhau'r ddeddfwriaeth hon, fel yr ydym yn ei hystyried heddiw,...

Grŵp 8: Pwerau gwneud rheoliadau (Gwelliannau 35, 48, 49, 52, 51, 50) (19 Maw 2019)

David Melding: Yn gyntaf, mae Adran 7, yn rhoi' pŵer i Weinidogion Cymru ddefnyddio'r rheoliadau i ddiwygio'r rhestr o daliadau a ganiateir. Dyma bŵer Harri'r VIII, gan y bydd yn ei gwneud hi'n bosibl diwygio Adran 1 drwy is-ddeddfwriaeth. Yr amcan y tu ôl i'r pwerau gwneud rheoliadau yw galluogi rheoliadau i adlewyrchu unrhyw newidiadau annisgwyl yn ymddygiad ac arfer landlordiaid, ac ni chaniateir i...

Grŵp 8: Pwerau gwneud rheoliadau (Gwelliannau 35, 48, 49, 52, 51, 50) (19 Maw 2019)

David Melding: Gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn ymroi i mi nawr a minnau'n gyn-gadeirydd Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rwyf yn credu bod hyn yn rhan bwysig iawn o'r ddeddfwriaeth, a phan ddaw i bwerau gwneud rheoliadau, mae'n naturiol bod llygaid Aelodau eraill efallai'n pylu ychydig. Ond mae hyn yn wirioneddol bwysig. Mae'r ffordd y bydd y Bil hwn, os daw yn Ddeddf, yn gweithio ac yn...

Grŵp 7: Diffygdaliadau (Gwelliannau 32, 33, 62, 34, 63, 59, 27) (19 Maw 2019)

David Melding: Gwrthwynebu.

Grŵp 7: Diffygdaliadau (Gwelliannau 32, 33, 62, 34, 63, 59, 27) (19 Maw 2019)

David Melding: Ynghylch 34, rydym yn gwrthwynebu.

Grŵp 7: Diffygdaliadau (Gwelliannau 32, 33, 62, 34, 63, 59, 27) (19 Maw 2019)

David Melding: A gaf i gofnodi eto pam na fyddwn ni'n cefnogi gwelliant 62 Plaid Cymru yn y grŵp hwn? Unwaith eto, nid wyf yn meddwl ei fod yn cynnwys y cydbwysedd iawn rhwng tenantiaid a landlordiaid, ac fel y dywedais eisoes, dylai ceisio datblygu marchnad dai sy'n deg i bawb fod yn ganolog i'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Drwy ddiffinio ffioedd diffygdaliad yn benodol fel y gwnaiff y gwelliant hwn a drwy...

Grŵp 6: Blaendaliadau cadw (Gwelliannau 29, 30, 31, 36, 37, 65, 66, 38, 67, 39, 40, 41, 42) (19 Maw 2019)

David Melding: Os gallaf drafod gwelliannau Plaid Cymru yn y grŵp hwn, nad wyf yn barod i'w cefnogi, gan nad wyf yn credu bod y cydbwysedd yn iawn rhwng buddiannau tenantiaid a landlordiaid. Siaradais am y gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2, ond credaf ei bod yn briodol imi fynegi fy ngwrthwynebiad i'r Siambr gyfan yn awr. Drwy weithredu cyfnod 48 awr o bwyllo ar gyfer y blaendal cadw, fel y mae gwelliannau...

Grŵp 5: Taliadau a ganiateir (Gwelliannau 9, 64) (19 Maw 2019)

David Melding: Dirprwy Lywydd, os caf i siarad yn gyflym am welliant 64 Plaid Cymru yn y grŵp hwn, sy'n egluro ansicrwydd ynghylch taliadau'r Fargen Werdd. Cofiaf fod peth dryswch yng Nghyfnod 2, gan fy mod i hefyd wedi cyflwyno gwelliant ar y mater hwn. Penderfynais dynnu'r gwelliant yn ôl er mwyn osgoi unrhyw orgyffwrdd. Am resymau tebyg, nid wyf wedi ailgyflwyno'r gwelliant ar hyn o bryd, ac rwyf yn...

Grŵp 4: Dirymu trwyddedau (Gwelliannau 56, 58) (19 Maw 2019)

David Melding: Unwaith eto, mae gennyf lawer o gydymdeimlad â safbwynt Leanne yma, ond ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwn. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, rydym mewn sefyllfa unigryw yng Nghymru fod gennym Rhentu Doeth Cymru ar waith, ac mae Llywodraeth Cymru wedi gwthio a hyrwyddo'r corff hwn i fod yn drawsnewidiol yn y sector rhentu preifat. Mae un o'm gwelliannau diweddarach—gwelliant 45 yng ngrŵp...

Grŵp 3: Ad-dalu taliadau gwaharddedig (Gwelliannau 55, 57) (19 Maw 2019)

David Melding: O ran y ddau welliant hyn, sy'n ymwneud â'r llys yn gorchymyn ad-dalu ffioedd gwaharddedig, mae gennyf welliant pellach eisoes yn y Bil hwn yn grŵp 10, gwelliant 44. Bydd hwnnw'n cyflawni hyn ar yr un pryd ag y telir hysbysiad cosb benodedig, pwy bynnag sy'n cyflwyno'r hysbysiad cosb benodedig. Dan welliannau'r Llywodraeth yng ngrŵp 9, bydd yr awdurdod trwyddedu, Rhentu Doeth Cymru, yn...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (19 Maw 2019)

David Melding: Pa gymorth ariannol a roddodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol i gefnogi gwelliannau diogelwch tân ar adeiladau uchel?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.