Helen Mary Jones: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r grŵp Ceidwadol am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Rwyf am ddechrau gydag ychydig o eiriau byr yn egluro sut y bydd grŵp Plaid Cymru yn pleidleisio yn y ddadl hon. Byddwn yn cefnogi gwelliant y Llywodraeth, nid oherwydd ein bod yn credu bod popeth y gellid ei wneud yn cael ei wneud, gwnaeth Mark Isherwood achos effeithiol iawn a ddangosai nad dyna fel...
Helen Mary Jones: Credaf y gall cynghorau cymuned chwarae rhan bwysig iawn yn cryfhau cyfranogiad democrataidd pobl a'r teimlad fod gwasanaethau'n cael eu darparu mewn ffordd sy'n berthnasol iddynt hwy. Un o argymhellion y panel adolygu annibynnol ar gynghorau cymuned a thref oedd y dylai Cymru gyfan gael ei chynrychioli gan gynghorau cymuned a thref—nid yw hynny'n wir yn awr wrth gwrs—er mwyn darparu...
Helen Mary Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Ceir rhai elfennau, yn bendant, i'w croesawu. Rwy'n arbennig o falch o weld penodi cyfarwyddwr gweithredol gofal sylfaenol a chymunedol—credaf fod hynny'n amlwg yn gwbl hanfodol, er fy mod i yr un mor bryderus â Darren Millar ynglŷn â rhai o'r bobl eraill sy'n dal i fod yno o'r drefn flaenorol. Rwy'n gobeithio eich bod chi a'ch...
Helen Mary Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad. Mae pethau yn yr adroddiad sydd yn amlwg i'w croesawu, fel y mae Angela Burns wedi ei ddweud eisoes, ac yn eich datganiad chi. Fe fyddwn â diddordeb arbennig i weld sut y mae'r prosiect ymateb i godymau gydag Ambiwlans Sant Ioan yn datblygu, ac rwy'n gobeithio y dewch chi'n ôl atom i ddweud wrthym ni. Rwyf yn obeithiol iawn y bydd...
Helen Mary Jones: Hoffwn ofyn i'r Llywodraeth am eglurder ynghylch pryd y mae'n bwriadu cynnal y dadleuon a'r pleidleisiau o ran telerau ymadael y DU o'r Undeb Ewropeaidd, os deuir i gytundeb mewn gwirionedd. Cadarnhaodd y Prif Weinidog wrth iddo roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ddoe fod y Llywodraeth yn bwriadu cynnal dwy ddadl, ac mae'n debyg felly,...
Helen Mary Jones: Rwyf i, fel, rwy'n siŵr, llawer o Aelodau yn y Siambr hon wedi cael llawer iawn o ohebiaeth gan arweinyddion llywodraeth leol yn arbennig, yn fwyaf diweddar gan Emlyn Dole, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, am y pwysau ar gyllidebau cynghorau lleol oherwydd canlyniadau eich cyllideb ddrafft chi a chyllideb Llywodraeth San Steffan. Fe wnaethoch, rwy'n credu, ymrwymo i'r cynghorau, rwy'n...
Helen Mary Jones: 1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar ei chyllideb ar gyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ52851
Helen Mary Jones: Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Fe fyddwch yn gwybod cymaint yw pryder dinasyddion yr UE a'u teuluoedd yng Nghymru ac ar draws y rhanbarth. Mae dinasyddion mewn prifysgolion yn y rhanbarth a gynrychiolaf wedi mynegi eu pryderon wrthyf. A ydych wedi cael ymateb ffurfiol gan Lywodraeth San Steffan i'ch papur 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl'? A pha sicrwydd...
Helen Mary Jones: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Ni fydd yn synnu clywed bod mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yn un o'r problemau y bydd fy etholwyr ar draws y rhanbarthau rwy'n eu cynrychioli yn ei ddwyn i fy sylw amlaf. Mae nifer o gwestiynau penodol y gallwn eu codi, a byddaf yn ysgrifennu ato ynglŷn â rhai o'r rheini. Ond yn benodol heddiw, hoffwn ofyn pa drafodaethau y mae ef a'i...
Helen Mary Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, fel y mae Russell George wedi'i ddweud, ac fel rydych wedi'i gydnabod eich hun, mae hon yn ddolen gyswllt hollbwysig, sy'n cysylltu rhannau o'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli. Mae'r anghyfleustra a fydd yn codi, yn enwedig i fusnesau, ond hefyd i deuluoedd, pan fo'r bont ar gau yn sylweddol iawn. Yn amlwg, rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael...
Helen Mary Jones: 5. Pa drafodaethau diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael am wasanaethau bysiau gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ52819
Helen Mary Jones: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y diogelir hawliau dinasyddion yr UE yng Nghymru os bydd y DU yn gadael yr UE? OAQ52829
Helen Mary Jones: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad. Os caf i ddychwelyd at fater a godwyd gan Angela Burns, o ran ai arian newydd yw'r £30 miliwn hwn a gyhoeddwyd heddiw, rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Os nad yw'n arian newydd i'r gyllideb iechyd yn ei chyfanrwydd, a allwch chi ddweud wrthym ni o ble yn eich cyllideb yr ydych chi wedi cymryd y £30 miliwn? Rwy'n ategu'r croeso a roddwyd...
Helen Mary Jones: Diolch, arweinydd y tŷ. Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol bod hon yn agenda yr ydym ni wedi bod yn ei thrafod yma yng Nghymru ers 18 mlynedd, fel y gwn i'n siŵr a phendant, ac ymhell cyn datganoli mae'n debyg. Ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n deall bod cymunedau yn dechrau colli amynedd â chyflymder y newid. Efallai y byddwch chi'n gwybod bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwneud cynnig, ar...
Helen Mary Jones: 2. Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd yng ngorllewin Cymru? OAQ52834
Helen Mary Jones: Mae wedi dod i ben. Diolch. Fe orffennaf drwy ddweud bod y newid patrwm hwn yn galw am lawer o waith gan y Llywodraeth, gweision sifil, y trydydd sector, academyddion ac eraill sydd â diddordeb, er mwyn llunio'r corff o dystiolaeth a gweithio i'w gyflawni. Mae Plaid Cymru yn barod iawn i chwarae ein rhan yn hyn.
Helen Mary Jones: Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw, i siarad ar ran fy nghyd-Aelod, Adam Price. Mae angen gallu gwirioneddol, ewyllys wleidyddol a dewrder sylweddol i symud oddi wrth y ffyrdd confensiynol o feddwl am bolisi economaidd, symud oddi wrth yr obsesiwn gyda dangosyddion economaidd cenedlaethol fel gwerth ychwanegol gros a chynnyrch domestig gros, obsesiwn y...
Helen Mary Jones: Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, arweinydd y Tŷ, am eich ymateb i gwestiwn Siân Gwenllian, oherwydd roeddwn innau am godi'r un pwynt, ei bod braidd yn anodd cael trafodaeth synhwyrol am fframwaith nad oes neb wedi ei ddarllen eto. Ond rwyf hefyd yn derbyn eich pwynt eich bod yn dymuno tynnu sylw at y ffaith bod ymgynghoriad wedi dechrau, ac rwy'n croesawu'n fawr eich ymrwymiad, ar ddiwedd yr...
Helen Mary Jones: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad amserol. Hoffwn ddweud fy mod yn cytuno â'r sylwadau a wnaed ganddi hi ac Angela Burns, ac estyn fy nghydymdeimlad i—a Phlaid Cymru—at bawb sydd wedi'u heffeithio, fel sydd eisoes wedi'i fynegi yn gynharach gan Adam Price, ac yn enwedig i deulu a ffrindiau etholwr Adam, Corey Sharpling, a gollodd ei fywyd yn drasig. Roeddwn yn...
Helen Mary Jones: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru mewn perthynas ag Ysgolion yr 21ain Ganrif?