Hefin David: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gydnabyddiaeth a roddwyd i'r rhai a wnaeth eu gwasanaeth cenedlaethol fel Bechgyn Bevin yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac wedi hynny? OAQ(5)0418(FM)
Hefin David: Ddirprwy Lywydd, mae hon yn fwy o alwad i weithredu na dadl heddiw. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i weithredu ar ran y rhai sy’n ceisio cyfiawnder i’w hunain ac i’w teuluoedd. Yn ei chyfraniad agoriadol, soniodd Julie Morgan am un o etholwyr ein cyd-Aelod, Mick Antoniw—Mr Leigh Sugar—a fu farw o hepatitis C. Mae modryb Mr Sugar yn un o fy etholwyr—Mrs Dorothy Woodward. Mae hi...
Hefin David: Mae un o fy etholwyr yn ecolegydd ac wedi cysylltu â mi eisoes yn mynegi ei bryderon ynglŷn â gorfodi deddfwriaeth Cymru sy’n seiliedig ar gyfarwyddeb cynefinoedd yr UE wedi i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Un enghraifft yw hon ac mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi rhoi enghraifft. Mae eisoes wedi rhoi asesiad o effaith gyffredinol sbarduno erthygl 50 o Gytuniad Lisbon ar ddeddfwriaeth...
Hefin David: 2. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cael ynghylch gorfodi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0016(CG)
Hefin David: Mae teithio ar reilffordd Rhymni i Gaerdydd yn ystod y cyfnod brig ar reilffyrdd y Cymoedd yn brofiad ofnadwy. Rwy’n gwybod hynny o deithiau yr wyf i wedi bod arnynt fy hun, ac mae rheilffyrdd y Cymoedd yn gyffredinol, rwy’n clywed, yr un fath. Mae Arriva wedi dweud wrthyf nifer o weithiau nad oes cerbydau ar gael i leddfu'r gorlenwi. Dywedasant wrthyf y byddai’n cymryd oddeutu tair...
Hefin David: 4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynlluniau ar gyfer caffael cerbydau newydd ar ddechrau masnachfraint reilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau? OAQ(5)0371(FM)
Hefin David: Ie, myfyrwyr MBA yw ein myfyrwyr doethurol yn y dyfodol a’n hymchwilwyr yn y dyfodol. Ie, yn hollol. Mae ganddynt werth deallusol a ddylai aros yn ein heconomi. Gallai gwneud gwladolion yr UE yn ddarostyngedig i’r un cyfyngiadau llym â gwladolion nad ydynt o’r UE ar ôl Brexit effeithio’n drychinebus ar ein system brifysgolion, a bydd yn anfantais i’n twf economaidd sydd eisoes yn...
Hefin David: Nid yng Nghymru. Nid oedd hynny’n digwydd yng Nghymru. Fe ddywedaf rywbeth arall wrthych: fel Ceidwadwr, eich polisi fel arfer yw tynnu’r wladwriaeth allan o bethau. Wel, fe ddywedaf un peth: rydych yn defnyddio gordd i dorri cneuen. Pe baech chi eisiau datrys rhai o’r pethau hyn yn y colegau lle roedd yna gamymddwyn, rydych chi’n eu datrys drwy gau’r colegau hynny. Nid ydych yn ei...
Hefin David: Hoffwn ddatgan buddiant, Lywydd, fel darlithydd cysylltiol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rwy’n mynd i fod yn cefnogi’r cynnig hwn heddiw, ac roeddwn yn neidio i fyny ac i lawr mewn cytundeb ag araith Llyr Gruffydd. Yn benodol, hoffwn dynnu sylw at bwyntiau—nid yw’n digwydd yn aml iawn, ond dyna ni. [Chwerthin.]—4(d) a 4(e) y cynnig. Mae addysg uwch yn alwedigaeth ryngwladol,...
Hefin David: Ar 4 Tachwedd, gyda channoedd o bobl eraill, mynychais angladd un o fy etholwyr yn Ystrad Mynach, Cyril Thomas, a fu farw ar 12 Hydref y llynedd. Roedd Cyril yn gyn-bennaeth cynorthwyol Ysgol Lewis i Fechgyn yn fy etholaeth, lle bu’n dysgu hanes ac addysg grefyddol. Yn frawd i’r cyn-bencampwr paffio, Eddie Thomas, gweithiodd Cyril fel glöwr cyn dod yn athro a bu’n llywydd yr ysgol dros...
Hefin David: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl yng Nghymru sydd â haemoffilia ar ôl cael eu heintio o ganlyniad i driniaeth hanesyddol â gwaed a chynnyrch gwaed halogedig y GIG?
Hefin David: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Hefin David: Mae'n gwestiwn syml. Rwyf wedi ei ofyn o'r blaen a byddaf yn ei ofyn eto. Gallwch arbed £13,000 ar unwaith drwy roi eich lwfans cynghorydd yn ôl am y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf i wedi gwneud hynny; pam na wnewch chi? Byddai'n enghraifft wych.
Hefin David: Mwynheais y ddadl lefel uchel a gynhaliwyd rhwng Nick Ramsay ac Adam Price ar y dechrau. Byddwn yn dweud, fel myfyriwr israddedig, cefais fy nysgu gan Patrick Minford ac rwy’n cofio’r amser iddo roi ar y bwrdd nifer o hafaliadau mathemategol a dywedodd, ‘Dyma, fy ffrindiau, theori Rolls-Royce am y cyflenwad arian a dyna’r cyfan sydd angen i chi wybod am facro-economeg'. Wel, doeddwn...
Hefin David: Rwy’n meddwl y gallai cymhlethdod gweithredu a chael canlyniadau anfwriadol, ei gwneud yn waeth i bobl eraill. Mae bron fel pe baem yn chwarae gêm o Jenga—rydych yn newid un peth a gallai’r holl beth ddisgyn ar ei ben. Felly, rwy’n meddwl y byddai’n dda defnyddio’r 12 mis nesaf i edrych ar yr hyn sy’n digwydd, cael yr adborth a cheisio gwneud y newidiadau hynny. Ond fel rwy’n...
Hefin David: Sbardunwyd cryn amrywiaeth o syniadau gan y ddadl hon ar ddydd Sadwrn y busnesau bach—gyda rhai ohonynt yn gorgyffwrdd yn drawsbleidiol, sy’n eithaf diddorol. Heddiw, soniodd etholwr wrthyf am agoriad parciau manwerthu ar gyrion y dref—Russell Jones ar Twitter—a dywedodd ei bod yn un o’r nifer o heriau sy’n wynebu’r stryd fawr. Yn hollol. A soniodd nifer o’r Aelodau yn y...
Hefin David: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd?
Hefin David: Wrth gwrs, gwnaf.
Hefin David: Gyda phob parch i arweinydd Plaid Cymru, buaswn yn derbyn beth bynnag y mae hi’n ei ddweud am yr hyn a ddigwyddodd yn y pedwerydd Cynulliad, wrth gwrs, gan nid oeddwn yn Aelod ar y pryd.
Hefin David: Mae gen i ymyriad o ochr y Ceidwadwyr sy’n dweud nad felly’n hollol oedd hi. Felly, nid fy lle i yw ymyrryd mewn anghydfod rhwng y ddwy ohonoch. Mae’r rhai sy’n cael y cyflogau isaf yng nghyngor Caerffili yn cael y cyflog byw mewn gwirionedd, a’r awdurdod hwnnw oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i’w gyflwyno, a oedd yn lleihau’r lluosydd ymhellach rhwng y rhai a gâi’r...