Alun Davies: Os edrychaf yn ôl dros y tair blynedd ddiwethaf yn y ddadl hon, rhaid imi ddweud nad wyf yn credu bod hyn wedi gwella ein democratiaeth na'n traddodiadau democrataidd, naill ai yng Nghymru na ledled y Deyrnas Unedig. Rydym wedi gweld pobl sy'n honni eu bod yn ymgyrchu dros adfer sofraniaeth nad wyf fi, a bod yn onest, yn credu ei bod hi erioed wedi bodoli, ac yna ymosod ar strwythurau...
Alun Davies: —y sylw chwerthinllyd hwnnw? [Chwerthin.] Onid ydych yn deall ein bod ni'n aelodau o Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd, sydd wedi'i leoli ym Mrwsel, a thrwy fod yn rhan o NATO rydym wedi cyfuno ein sofraniaeth â rhai o'n ffrindiau o gwmpas y byd i sicrhau ein diogelwch a'n democratiaeth? Rydym wedi gwella ein sofraniaeth drwy fod yn rhan o NATO, nid ei leihau.
Alun Davies: Esgusodwch fi, a wnewch chi ildio ar—
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n debyg y dylwn gofnodi fy mod yn amlwg yn aelod o'r Llywodraeth pan drafodwyd y materion hyn gan aelodau o'r Llywodraeth. A gaf fi ddweud fy mod yn ddiolchgar i Andrew R.T. Davies am ddwyn y mater hwn i sylw'r Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma? Mae hyn yn amlwg yn rhywbeth y mae angen inni fynd i'r afael ag ef, a mynd i'r afael ag ef ar frys. Trafodais...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb cynharach yna. Cyn ymweld â'r ysbyty newydd yn y Grange, ymwelais â safle deuoli'r A465 rhwng Gilwern a Bryn-mawr, a siaradais â phobl yno am y cynnydd y maen nhw'n ei wneud. A phan fydd y prosiect deuoli hwnnw wedi'i gwblhau, byddwn wedi gwario oddeutu £500 miliwn yn y Cynulliad hwn yn cyflawni ein haddewid maniffesto i ddarparu manteision...
Alun Davies: Yn yr un modd ag eraill, roeddwn i'n falch iawn o ymuno â'r filiwn o bobl ar strydoedd Llundain ddydd Sadwrn, ac roeddwn i'n falch o orymdeithio y tu ôl i Lynne Neagle, a oedd yn arwain galw gan filiwn o bobl i gael llais teg a'r gair olaf yn y materion hyn. Roeddwn i wrth fy modd o glywed y Gweinidog iechyd a'r Gweinidog materion rhyngwladol yn siarad dros Gymru ac yn siarad dros...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Fe wnaf i ddweud wrtho fy mod i'n gresynu'n fawr iawn at ei agwedd pan ddisgrifiodd y cyfle i gynnig pleidlais gyhoeddus ac i roi'r gair olaf i bobl y wlad hon. Dyna, wrth gwrs, yw polisi Llafur Cymru, polisi Llafur, dyna bolisi Llywodraeth Cymru, dyna'r polisi a gyflwynodd ef ei hun...
Alun Davies: Hoffwn innau hefyd ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth y prynhawn yma, yn gyntaf ar y cyfryngau a mynediad at newyddion yng Nghymru. Rydym wedi clywed yn ystod yr wythnosau diwethaf bod dwy orsaf fasnachol sy'n gwasanaethu Cymru yn dileu eu sioeau brecwast a gynhyrchir yn lleol, a chlywsom yr wythnos diwethaf fod Radio Cymru yn dileu Good Morning Wales ac yn ei disodli ym mis Mai....
Alun Davies: Mark, rwyf i'n un o'r bobl hynny; rwyf i'n un ohonyn nhw. Ymwelydd ydych chi.
Alun Davies: Ymwelydd ydych chi.
Alun Davies: Rydych chi'n ymwelydd â'm cymuned i—[Torri ar draws.] Rydych chi'n ymwelydd—nid un rheolaidd iawn, ond yn ymwelydd. A gadewch imi ddweud hyn—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf ildio eto. Ni wnaf ildio. Gadewch imi ddweud hyn—[Torri ar draws.] Anaml y gwelwn ni chi, Mark. Dyna yw'r realiti, nid yw'n ddadansoddiad beirniadol; ond nid ydym ni'n eich gweld chi. Gadewch imi ddweud hyn: beth...
Alun Davies: Fel llawer o bobl, mae'n rhaid imi ddweud, rwyf i wedi gweld yr ychydig flynyddoedd diwethaf fel rhai digalon iawn, iawn. Credaf nad yw Brexit wedi gwella ein democratiaeth, David: mae wedi torri ein democratiaeth. Mae wedi torri ein gwleidyddiaeth, a'r eironi aruthrol yw i lawer o'r imperialwyr hen-ffasiwn hynny sydd yn gweld dyfodol ymerodrol i Brydain, rwy'n credu bod Brexit wedi torri...
Alun Davies: Rwy'n dod at hyn nid oherwydd gwrthwynebiad llwyr i'r gair 'Ewrop' a bod unrhyw sefydliad sy'n cynnwys y disgrifydd hwnnw'n anghywir felly fel mater o egwyddor ac yn ymarferol. Mae fy ymagwedd ychydig yn wahanol, er bod cyflwyniad Neil Hamilton i'r ddadl hon o leiaf wedi ceisio dadlau ar sail egwyddor yn ogystal â chwifio penawdau papur newydd arnom. Ond gadewch i mi ddweud hyn: credaf fod...
Alun Davies: Carcharorion ar remánd.
Alun Davies: Maent yn dal i fod yn y carchar, onid ydynt?
Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny?
Alun Davies: A yw'n ymwybodol fod carcharorion eisoes yn arfer eu hawl i bleidleisio? Maent yn tueddu i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy.
Alun Davies: A gaf fi ddweud fy mod yn croesawu'r Bil hwn yn fawr iawn ac yn croesawu'r modd y mae wedi'i ddrafftio? Rwy'n sicr yn edrych ymlaen, ar ôl treulio'r rhan fwyaf o fy mywyd yn dadlau ac yn trafod datganoli, at weld y patrwm hwn o ddiwygio cyfansoddiadol ar waith. Mae'r Cwnsler Cyffredinol yn uchelgeisiol iawn yn ei weledigaeth wrth ymateb ar ran y Llywodraeth. Sylwais, wrth edrych drwy rai...
Alun Davies: Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy nyhead i weld gorsaf drenau newydd yn gwasanaethu Abertyleri a chwm Ebwy Fach yn fy etholaeth. Rhannaf rai o'r pryderon a ddisgrifiwyd gan Helen Mary Jones o ran y broses a ddefnyddir i wneud y penderfyniadau hyn. Ymddengys i mi fod y model presennol yn rhoi canlyniad a fydd bob amser yn ffafrio ardaloedd â phoblogaethau uwch o lawer yn ninasoedd coridor yr...
Alun Davies: Weinidog, rwy’n ymwybodol o’ch ymrwymiad personol cryf i hyn ac i sicrhau bod pob dysgwr ledled y wlad yn cael y profiad addysg cyfoethog iawn y mae ganddynt hawl i'w ddisgwyl. Rhannaf siom llwyr Lynne Neagle ynglŷn â gweithredoedd Cyngor Dinas Casnewydd. Teimlaf fod Cyngor Dinas Casnewydd yn troi ei gefn ar rai o'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn y wlad ac yn ymddwyn mewn ffordd gwbl...