John Griffiths: Diolch i’r Aelod unwaith eto am nifer o syniadau a allai helpu i lywio gwaith y pwyllgor ac ychwanegu gwerth at waith y pwyllgor. Mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth anabledd, cawsom ymarfer dros yr haf i ofyn i sefydliadau yng Nghymru am syniadau ar gyfer ein blaenraglen waith. Nid oedd hwnnw’n un arbennig o amlwg, ond rwy’n siŵr y bydd y pwyllgor, wrth symud ymlaen dros dymor y...
John Griffiths: Diolch i Gareth Bennett am ei gyfraniad. Bydd y pwyllgor yn ystyried y materion cymunedol ehangach sy’n ymwneud â chydlyniant cymunedol, fel y dywedais yn fy ateb i Julie Morgan. Yn fy natganiad, nodais y bydd hynny’n rhan sylweddol o waith y pwyllgor. Mae angen i ni glywed gan bobl y tu hwnt i’r grwpiau sy’n darparu’r gwasanaethau ac sydd â rôl benodol yn helpu i adsefydlu a...
John Griffiths: Diolch yn fawr i Julie Morgan am ei syniadau ynglŷn â’r math o waith y gallai’r pwyllgor ei gyflawni fel rhan o’r ymchwiliad hwn. Mae’n wirioneddol ddefnyddiol cael y syniadau hynny’n cael eu cyflwyno heddiw fel rhan o’r datganiad hwn. Rwy’n siŵr y bydd gan y pwyllgor gryn ddiddordeb mewn edrych ar yr holl feysydd gwaith hynny. A gaf fi ddweud fy mod innau, hefyd, wedi clywed...
John Griffiths: Diolch yn fawr iawn i Lynne Neagle am ei chroeso cynnes i’r gwaith hwn a’i chefnogaeth iddo. Byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda’r pwyllgor plant, Lynne, ar eiriolaeth yn arbennig. Credaf fod llawer mwy o feddwl ac ystyriaeth, yn y Cynulliad hwn, ynglŷn â sut y gall y pwyllgorau weithio gyda’i gilydd yn gyffredinol, ac efallai y gallai hyn fod yn enghraifft bwysig o sut y gallwn...
John Griffiths: A gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gyfraniad i’r datganiad hwn a’i gwestiynau? Yn wir, fel pwyllgor, byddwn yn edrych ar adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor blaenorol, ac rydym wedi gwneud hynny’n barod, ond byddwn yn sicr yn edrych arno mewn perthynas â’r materion y soniodd yr Aelod amdanynt. O ran Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015,...
John Griffiths: Diolch yn fawr, Sian. A gaf fi ddiolch yn fawr iawn i’r Aelod am ei hymrwymiad i’r gwaith hwn, a gwn fod ganddi ddiddordeb mawr ynddo? Credaf ei bod yn bwysig iawn i ni edrych i weld pa mor gydgysylltiedig yw’r gwasanaethau yng Nghymru, a sut y gellir sicrhau eu bod yn gydgysylltiedig ar gyfer ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phlant ar eu pen eu hunain sy’n dod i Gymru, ac yn wir, sut y...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle a roddir i gadeiryddion pwyllgorau wneud datganiadau i’r Siambr. Mae’n gyfle y dylid ei groesawu, Ddirprwy Lywydd, er mwyn codi proffil materion sy’n bwysig i’r cyhoedd yng Nghymru. Rwyf fi ac aelodau o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi ystyried yn ofalus y blaenoriaethau yr hoffem ganolbwyntio arnynt...
John Griffiths: Diolch am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf fod cytundeb eang fod y Ddeddf hon yn gyfle pwysig iawn i helpu i adeiladu Cymru well. Tybed a allech esbonio rhai o’r cysylltiadau rhwng amcanion llesiant Llywodraeth Cymru a’r datganiad sy’n cyd-fynd a hwy o dan y Ddeddf, gyda’r rhaglen lywodraethu, y pedair strategaeth drosfwaol a grybwyllwyd gennych, yn ogystal â’r gyllideb.
John Griffiths: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd o ran gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ(5)0043(FLG)
John Griffiths: Brif Weinidog, gwnaeth yr Athro Brian Morgan a’r Athro Gerry Holtham waith ymchwil yn ddiweddar i’r hyn sy'n gweithio o ran datblygiad economaidd ledled y byd. Daethant o hyd i gydberthynas gref iawn rhwng lefelau uchel o wariant ar ysgolion a llwyddiant economaidd. Yn ogystal â'r manteision economaidd, wrth gwrs, mae addysg yn dda ynddo’i hun ac o fudd i bob agwedd ar fywyd. A...
John Griffiths: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sail dystiolaeth a'r gwaith ymchwil sy'n sail i strategaeth ddatblygu economaidd Llywodraeth Cymru? OAQ(5)0211(FM)
John Griffiths: Rwyf wedi crybwyll o’r blaen, Lywydd, ein bod wedi bod yn cael cyfarfodydd ers peth amser bellach yng Nghasnewydd, ac rwyf wedi bod yn falch iawn o’u galw ynghyd rhwng y bwrdd iechyd lleol, ac iechyd y cyhoedd yn arbennig, Casnewydd Fyw, sef yr ymddiriedolaeth hamdden, cyngor Dinas Casnewydd, cymdeithasau tai, gan gynnwys Cartrefi Dinas Casnewydd a gymerodd y gwaith trosglwyddo stoc a’r...
John Griffiths: Ie, Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg mae rhai plant yn ffodus iawn i gael eu geni i deuluoedd cynnes, cariadus, cefnogol, diogel a sefydlog, ond mae yna ormod o blant heb fod yn y sefyllfa ffodus honno. Tybed a allwch ddweud rhywbeth am bolisi Llywodraeth Cymru ar gaffael iaith yn gynnar, rhywbeth y credaf ei fod yn allweddol i gyfleoedd bywyd, yn enwedig mewn perthynas â phlant...
John Griffiths: Tybed hefyd, Weinidog, a allwch roi mwy o fanylion i’r Siambr ynglŷn â’r amserlenni, oherwydd gwn fod llawer iawn o rwystredigaeth o ran bwrw ymlaen â’r gwaith hwn, sydd wedi cael ei drafod a’i ystyried ers peth amser. Yn nes ymlaen, byddwn yn siarad ynglŷn â sut y mae sicrhau bod Cymru’n fwy egnïol yn gorfforol ac yn iachach, a chredaf mai rhan fawr o hynny yw agor amgylchedd...
John Griffiths: 6. Pa gamau fydd yn cael eu cymryd i ehangu mynediad i awyr agored gwych Cymru? OAQ(5)0049(ERA)
John Griffiths: 8. Beth yw’r camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella profiadau blynyddoedd cynnar plant yng Nghymru? OAQ(5)0047(CC)[R]
John Griffiths: Weinidog, rwy’n meddwl ei bod yn amlwg iawn—yn wir rwy’n credu y byddai pob Aelod yma, gobeithio, yn cytuno â hyn—fod camddealltwriaeth yn aml yn digwydd ac yn achosi problemau pan nad oes gennym y lefel o integreiddio y gallai fod gennym yn ein cymunedau, ac nid ydym yn ddigon effeithiol wrth ddod â gwahanol rannau o'r gymuned at ei gilydd. Yn sicr, yn fy mhrofiad i, o gael fy...
John Griffiths: Weinidog, rwy’n edrych ar yr adran sy'n cyfeirio at wasanaethau cyhoeddus integredig ac ymatebol yn eich datganiad, a'r model newydd o ganolfannau dysgu cymunedol. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrth y Siambr am sut y byddai hynny’n gweithio mewn cysylltiad â, er enghraifft, syniadau presennol ynghylch ysgolion bro. Mae'n ymddangos i mi fod gan ysgolion bro lawer i'w gynnig wrth...
John Griffiths: Pa lefel o flaenoriaeth fydd yn cael ei rhoi i addysg wrth benderfynu ar bolisïau Llywodraeth Cymru?
John Griffiths: Weinidog, diolch i’r drefn, mae’r cyfraddau ysmygu yng Nghymru wedi gostwng dros gyfnod o flynyddoedd, ond yn anffodus, mae ysmygu yn dal i effeithio’n enbyd ar iechyd yng Nghymru. Credaf fod polisi cyhoeddus a’r cyfyngiadau ar ysmygu wedi chwarae rôl arwyddocaol, fodd bynnag, yn lleihau nifer y bobl sy’n ysmygu. Roedd arolwg eleni gan Action on Smoking and Health ac YouGov yn...