Joyce Watson: Diolch i chi am dderbyn ymyriad. Rydych wedi rhestru llwyth o bethau sy'n real iawn i bobl. A fyddech yn cytuno nad ein haelodaeth o'r UE a greodd y tlodi sy'n bodoli yn y wlad hon, ond mai canlyniad ydyw i benderfyniad gwleidyddol ynglŷn â chyni gan Lywodraeth sy'n dal i fethu cydnabod yr angen i wneud rhywbeth ar gyfer pobl ac nad oedd ganddo ddim byd o gwbl i'w wneud â'r aelodaeth o'r...
Joyce Watson: Sut y gwnaiff y Gweinidog asesu llwyddiant y fenter Blwyddyn Darganfod?
Joyce Watson: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ardrethi annomestig yn cefnogi busnesau yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Joyce Watson: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor?
Joyce Watson: Rwyf eisiau dweud stori fer iawn wrthych am fy nhad a gafodd ei eni a'i fagu yn Llanbrynmair ac y galwyd arno i ymladd yn yr ail ryfel byd gan gael ei garcharu yn Stalag 22 am bedair blynedd a llwyddo i ddianc o Wlad Pwyl i'r Alban. Yr unig ffordd y llwyddodd i wneud hynny oedd oherwydd iddo gael cymorth a charedigrwydd gan ddieithriaid mewn gwlad ddieithr. Parhaodd ar hyd ei oes gan ymroi i...
Joyce Watson: Trefnydd, neu arweinydd y tŷ, yr wythnos diwethaf, rwyf yn siŵr eich bod wedi eich arswydo gymaint ag yr oeddwn innau ynghylch adroddiadau yn y cyfryngau bod cinio ysgol yn cael ei wrthod i blant oherwydd nad oedd credyd wedi ei roi ar eu cardiau talu mewn pryd. Yn wir, roedd adroddiad am un plentyn a oedd wedi cael ei ginio ysgol, ac wedi mynd at y til i ganfod nad oedd arian ar gael fel y...
Joyce Watson: Mae pob un ohonom wedi bod yn darllen adroddiad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, 'State of Birds in Wales 2018', felly mae'n eithaf amlwg mai'r cwestiwn yw bod niferoedd adar yn cwympo—mae yno ostyngiad cyflym—ac rwy'n aelod o'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, felly rwyf am ddatgan hynny nawr. Felly, o ran y pethau da rydym wedi'u gwneud, fel gwahardd saethu ar dir Cyfoeth...
Joyce Watson: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cynlluniau tai arloesol?
Joyce Watson: Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Fy mhryder mawr i a llawer un arall yn y fan hon, rwy'n siŵr, yw bod y dewis a'r realiti o Brexit heb gytundeb yn parhau, ac yn yr amlwg i raddau helaeth iawn. Ni allaf farnu na wnaiff hynny ddigwydd, ond ni allaf weld unrhyw gynllun sy'n dal dŵr i wneud yn siŵr na fydd hynny'n digwydd. Rwyf i yn gryf o'r farn fod ymdrechion Yvette Cooper...
Joyce Watson: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad ynglŷn â ffordd osgoi'r Drenewydd, os gwelwch yn dda? Yn ddealladwy, mae pobl yn awyddus i wybod pryd fydd traffig yn cael ei defnyddio, ac rwyf innau’n awyddus i wybod beth yw’r cynlluniau swyddogol ar gyfer y seremoni agoriadol. Mae’r prosiect £90 miliwn—ac rwy'n ailadrodd hynny, y prosiect £90 miliwn—wedi bod yn llwyddiant ysggubol ac...
Joyce Watson: Yn fy marn i, nid oes unrhyw amheuaeth fod ymgyrch Brexit wedi normaleiddio rhagfarn ac wedi gwneud pobl hiliol yn fwy eofn, ac yn y blynyddoedd i ddod, bydd y poster ofnadwy hwnnw a digwyddiadau cywilyddus megis Gweinidog y DU, Penny Mordaunt, yn dweud celwydd noeth wrth y wlad ar raglen frecwast nad oedd feto gan y DU mewn perthynas â derbyn Twrci'n aelod o'r UE yn cael eu hystyried, yn...
Joyce Watson: Un maes yr hoffwn ganolbwyntio'n benodol arno yw llifogydd dŵr wyneb, a phan ddaeth y dystiolaeth i law, soniodd Prifysgol Leeds am newid yn yr hinsawdd yn eu tystiolaeth i'r pwyllgor, ac yn arbennig, y cynnydd mewn glaw trwm, sydd, yn ei dro, yn cynyddu llifogydd. Nodaf fod systemau draenio cynaliadwy ar gyfer eiddo newydd wedi dod i rym yr wythnos hon. Fodd bynnag, rhaid i ymdrin â...
Joyce Watson: Arweinydd y tŷ, hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch y digwyddiad llygredd olew a ddigwyddodd ym mhorthladd Dyfrffordd Aberdaugleddau rhwng 2 Ionawr a 3 Ionawr. Yn ddealladwy, mae aelodau'r cyhoedd yn bryderus iawn am y gollyngiad ac unrhyw effaith bosib y gallai ei gael ar yr amgylchedd, y bywyd gwyllt a busnesau lleol. Mae'n ardal o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac yn...
Joyce Watson: Mae nifer o etholwyr o Bowys wedi ysgrifennu ataf yn codi pryderon ynghylch nifer yr unedau dofednod sydd wedi cael caniatâd cynllunio yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac rwyf i yn credu, ac rwy'n falch o glywed, ei bod hi'n bryd i ni ystyried asesu effaith gyffredinol ffermio dofednod a sut y mae'n effeithio ar yr amgylchedd ac ar gymunedau lleol hefyd. Prif Weinidog, rwy'n falch o glywed...
Joyce Watson: Fel y mae pawb wedi'i ddweud, mae'r datganiad cyffredinol o hawliau dynol i fyny yno gyda'r Beibl—mae'n un o'r dogfennau sydd wedi'u cyfieithu a'u cyhoeddi fwyaf yn y byd, ac mae ar gael mewn mwy na 500 o ieithoedd. Cafodd gefnogaeth dorfol ymhell cyn y rhyngrwyd. Cafodd ei ddrafftio gan gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd, gyda phrofiadau cyfreithiol a diwylliannol gwahanol, ond roeddent wedi...
Joyce Watson: Mark Drakeford.
Joyce Watson: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd yn 2019 i godi safonau byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Joyce Watson: Mae'r un anghywir gennych chi.
Joyce Watson: Yn wir, rwy'n croesawu eich datganiad diweddar ac rwyf hefyd yn credu bod ein cyn-filwyr wedi cyflawni eu dyletswyddau dros ein gwlad, ac y dylem ni yn ein tro roi rhywbeth yn ôl iddynt felly, nid yn lleiaf mewn perthynas â'r modd y maent yn dychwelyd i fywyd sifil. Rhan o hynny wrth gwrs, yw ceisio dod o hyd i waith. Ond rwy'n credu bod cyflogaeth ystyrlon yn ganolog i'r daith honno, a...
Joyce Watson: Roedd yn ddiddorol gwrando ar y bwletinau newyddion bore ddoe, ond siomedig oedd deall bod gwariant mewn gwasanaethau gofal hanfodol ar gyfer pobl oedrannus yn Lloegr wedi'i dorri 25 y cant y pen ers 2010. Nid yw hynny, wrth gwrs, wedi digwydd yng Nghymru, am fod Llywodraeth Lafur Cymru wedi diogelu'r cyllidebau hynny, ac rwy'n hynod o falch o hynny, ac rwy'n siŵr y byddai pawb am ymuno â...