Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r gwasanaeth twristiaeth a gaiff eu cynnig yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Prif Weinidog, mae llawer o'n pobl hŷn yn cael eu targedu ac yn dioddef wrth ddwylo sgamwyr, sy'n manteisio ar y ffaith eu bod yn agored i niwed i’w twyllo o’u cynilion bywyd. Cynorthwyais etholwr a oedd yn cael ei dargedu yn ddiweddar, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y cymorth gan Heddlu De Cymru yn rhagorol. Yn anffodus, nid yw pawb yn cael y cymorth hwn. Beth arall all Llywodraeth...
Caroline Jones: Prif Weinidog, os ydym ni’n mynd i gael unrhyw obaith o gwbl o leihau faint o wastraff yr ydym ni’n ei anfon i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn, dylid gwneud cynlluniau ailgylchu mor hawdd â phosibl i berchnogion tai allu ailgylchu. Yn anffodus, mae’n ymddangos bod awdurdodau lleol yn gweithredu i’r gwrthwyneb. Mae Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, wedi gwneud llanast llwyr o...
Caroline Jones: Mae UKIP yn llwyr gefnogi’r cynnig hwn ac ymdrechion i ddileu hepatitis C erbyn 2030. Fel y mae eraill wedi nodi, mae hepatitis C yn glefyd sy’n effeithio ar oddeutu 2 y cant o boblogaeth y byd ac mae’n gyfrifol am gannoedd o filoedd o farwolaethau bob blwyddyn. Felly, nid yw’n syndod fod Sefydliad Iechyd y Byd yn awyddus i gael gwared ar y clefyd. Addawodd Llywodraeth y DU ei...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae meysydd genomeg a meddygaeth fanwl yn allweddol i ennill y rhyfel yn erbyn canser ac yn allweddol i ddyfodol ein gofal iechyd. Felly, rwy'n falch iawn o gefnogi a chroesawu’n fawr strategaeth genomeg a meddygaeth fanwl y Llywodraeth. Pan edrychwn ni ar ganser yr ysgyfaint, er enghraifft, sy'n gyfrifol am chwarter yr holl...
Caroline Jones: Prif Weinidog, amcangyfrifir bod tua £200 miliwn wedi ei wario yn y DU yn unig yn ceisio mynd i'r afael â chlymog Japan, sy'n achosi gwerth tua £170 miliwn o ddifrod i eiddo bob blwyddyn. Mae'r treialon psyllid yn addawol iawn, ond, os gall y pryfyn sefydlu ei hun yn llwyddiannus yn y DU, ni fydd ond yn dofi clymog, nid ei ddileu. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi...
Caroline Jones: Prif Weinidog, y ffordd orau o wella mynediad at leoliadau profiad gwaith i ddisgyblion Cymru yw gwella cysylltiadau rhwng ein hysgolion a diwydiant. Er bod llawer o enghreifftiau da ar draws y wlad, nid yw'n ddigon. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cynnal cysylltiadau agos gyda busnesau lleol?
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ac rwy’n falch iawn o gymryd rhan ynddi. Rwy'n gadarn o'r farn y gall rhagnodi cymdeithasol, yn enwedig wrth sôn am iechyd meddwl, sicrhau manteision iechyd gwirioneddol i gleifion yng Nghymru, a bydd UKIP, felly, yn cefnogi'r cynnig. Fel y dengys canlyniadau o astudiaethau ym Mryste a...
Caroline Jones: Na, mae’n ddrwg gennyf, oherwydd byddaf yn cymryd y pedwar munud i siarad. Mewn cyferbyniad, yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, bydd y swm o arian y mae’r DU yn ei wario ar ddatblygu rhyngwladol yn cynyddu £1 biliwn arall y flwyddyn dros y pedair blynedd nesaf, a fydd yn dod â’r gyllideb i bron £15 biliwn y flwyddyn, bron cymaint â chyllideb Cymru gyfan. Mae angen ailwampio...
Caroline Jones: Er fy mod yn cytuno ei bod yn ddyletswydd arnom i helpu’r rhai sy’n wynebu afiechyd, rhyfel neu newyn, y ffaith drist amdani o hyd yw bod llawer o’r gyllideb cymorth tramor yn cael ei gwario’n amhriodol. Ac nid ydym yn sôn am symiau pitw o arian yma, gan ein bod yn gwario £30 miliwn y dydd ar gymorth tramor, a dim ond oddeutu 16 y cant o’r gyllideb hon sy’n cael ei defnyddio fel...
Caroline Jones: Rydym yn croesawu’r datganiad ysgrifenedig gan y Prif Weinidog ddoe ynglŷn ag effaith yr ymosodiadau seiber byd-eang ar y GIG yn Lloegr yn ddiweddar. Mae’n gadarnhaol na chafodd y GIG yng Nghymru ei effeithio’n sylweddol a bod y gwasanaethau wedi parhau’n ddi-dor i raddau helaeth. Fodd bynnag, nodwn ei fod wedi tarfu ar driniaethau 40 o gleifion canser yn Ysbyty Felindre yng...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn olaf, nid yn unig y mae’n rhaid i ni recriwtio mwy o nyrsys, ond mae’n rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn cadw ein nyrsys presennol. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae nyrsys yng Nghymru yn aml yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi gan y GIG neu’r Llywodraeth. Bu gostyngiad o 14 y cant mewn termau real yng nghyflog nyrsys ers 2010, ac...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Er y gall yr ymgyrch recriwtio nyrsio helpu i fynd i’r afael â materion staffio tymor byr, mae angen i ni feddwl am y tymor hwy a sut y gallwn ddenu mwy o bobl Cymru, yn enwedig siaradwyr Cymraeg, i’r byd nyrsio. Byddai UKIP yn hoffi gweld ailgyflwyno’r hyn sy’n cyfateb i nyrsys cofrestredig y wladwriaeth, a fyddai’n caniatáu...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu’r ymgyrch recriwtio nyrsys a’r newyddion fod Llywodraeth Cymru yn cadw’r bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr nyrsio am flwyddyn arall. Mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu i annog pobl o bob cefndir yng Nghymru i ystyried gyrfa mewn nyrsio. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i ymestyn y bwrsariaethau nyrsys yn y dyfodol i...
Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, mae gormod lawer o bobl yn dal i aros yn rhy hir o lawer am brofion diagnostig. Mae gennym bron i 2,000 o bobl o hyd sy’n aros dros 24 wythnos am wasanaethau diagnostig a therapi. Diagnosteg yw asgwrn cefn ein gwasanaeth iechyd, ac mae’n rhaid i ni wneud mwy i wella mynediad at brofion a chael gwared ar amseroedd aros dros 24 wythnos. Beth y...
Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn anffodus, oherwydd gweithgarwch rhai o’r cadwyni manwerthu mwy, sy’n gallu fforddio ysgwyddo colledion, mae llawer o’n siopau bach annibynnol yn mynd i’r wal, gan ddinistrio amrywiaeth ein stryd fawr. Pa gymhellion economaidd y gall eich Llywodraeth eu cynnig i fanwerthwyr bach annibynnol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i oroesi, ac er mwyn osgoi...
Caroline Jones: 1. Pa gymorth economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu er mwyn sicrhau bod gennym fusnesau sy’n ffynnu ar y stryd fawr yng Nghymru? OAQ(5)0167(EI)
Caroline Jones: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran lleihau amseroedd aros ar gyfer profion diagnostig? OAQ(5)0170(HWS)
Caroline Jones: Gwych oedd mynd i Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia heddiw —digwyddiad y tu allan i'r Senedd. Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nod o wneud Cymru yn genedl sy’n deall dementia yn un yr ydym ni i gyd yn ei rhannu. Erbyn hyn, dementia yw prif achos marwolaeth yng Nghymru, ac fe ddisgwylir i nifer y bobl yr effeithir arnynt gan ddementia gynyddu gan oddeutu 40 y cant yn...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Y ffaith drist yw, er y bydd pawb yn marw yn y pen draw, na fydd pawb yn marw’n dda. Oherwydd hynny, mae'n hanfodol bod gennym ofal diwedd oes ardderchog. Rwy'n croesawu cynllun gofal lliniarol a gofal diwedd oes Llywodraeth Cymru, a'r ymrwymiad i wella'r gofal a roddir i bobl sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes, a'r rhai y maent yn eu gadael ar...