Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd tai cymdeithasol sy'n addas ar gyfer pobl anabl?
Russell George: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a oedd o gymorth mawr, yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a diweddariadau i'r Aelodau. Heb amheuaeth, mae'r gwaith paratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb yn gosod baich ychwanegol ar weision sifil Llywodraeth Cymru, rwy'n credu, a chredaf y dylid cydnabod hynny hefyd. Roedd eich datganiad yn gwella wrth ichi fynd yn eich blaen, ond roedd y dechrau'n...
Russell George: A gaf i eich croesawu i'ch swydd, Trefnydd? A gaf i ofyn yn gyntaf oll ichi ddefnyddio eich dylanwad i gael ateb i e-bost a anfonais at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bum wythnos yn ôl ynghylch ffordd osgoi'r Drenewydd, pan ofynnais yr holl gwestiynau a holodd Joyce Watson heddiw? Byddwn yn ddiolchgar o gael yr ateb hwnnw, oherwydd mae llawer iawn o ddiddordeb yn y prosiect hwn, ac yn...
Russell George: [Anghlywadwy.] darparu, wrth gwrs—mae hynny'n bwysig, yn hytrach na dim ond cynllun. Yr hyn y mae busnesau ei angen, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, yw eglurder i allu gweithredu'n effeithiol, ac maent yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ddarparu'r eglurder hwnnw. Felly, Weinidog, rwyf am weld rhywbeth penodol a rhywbeth ymarferol yn digwydd ar lawr gwlad, a beth sy'n mynd i gael ei gyflawni...
Russell George: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ateb a'i groesawu yn ôl i'r swydd yn y Llywodraeth newydd? Wrth gwrs, fe sonioch yn y fan honno am weithredu'r cynllun, ond yr hyn rwyf am ei ddeall yw manylion hynny. Yn sicr, yng nghyfarfod Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ym mis Ionawr, gofynnodd Aelodau i chi ynglŷn â chyflwyno'r cynllun gweithredu economaidd newydd, ac yn y cyfarfod hwnnw,...
Russell George: Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch amlinellu pa gynlluniau sydd ar waith ar gyfer gweithredu eich cynllun gweithredu economaidd eleni?
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Yn dilyn y tarfu diweddar yn gysylltiedig â dronau ym meysydd awyr Gatwick a Heathrow, ac, wrth gwrs, y digwyddiad ar bont croesfan Hafren, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa fesurau y mae wedi eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru strategaeth ar waith i sicrhau bod y tarfu a achosir i seilwaith hanfodol Cymru cyn lleied â phosibl mewn achos o...
Russell George: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drefniadau diogelwch ym Maes Awyr Caerdydd? OAQ53165
Russell George: Hoffwn ddiolch hefyd i'r criw ffordd cyfeillgar sy'n gweithio i gyngor Caerdydd ac a ddangosodd beth o'r offer anhygoel sy'n cael ei ddefnyddio i osod wyneb ar ffordd ystâd o dai ger Castell Coch. Ymwelais â'r fan fy hun ac roedd hi'n wych gweld yr offer hwnnw ar waith. Ar un pwynt, pe na bawn wedi symud yn gyflym, buaswn yn rhan o'r ffordd newydd honno bellach, ond diolch i'r staff yno a'n...
Russell George: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Credaf fod yr holl Aelodau, neu nifer o'r Aelodau o leiaf—yn enwedig Vikki Howells a David Rowlands—wedi canolbwyntio eu cyfraniadau ar yr argymhellion na chafodd eu derbyn gan y Llywodraeth. Diolchodd Oscar Asghar i'r cyn-aelod Mark Isherwood am ei waith ar yr ymchwiliad. Rwy'n ategu hynny'n...
Russell George: Wel, fel mae'n digwydd, fe edrychwyd ar hynny mewn gwaith arall a wnaethom y llynedd mewn perthynas â theithio llesol. Fe gynaliasom ein harolwg ein hunain o ddefnyddwyr a oedd yn gofyn, 'Beth sy'n eich rhwystro rhag beicio neu ddefnyddio llwybrau?' ac yn wir, cyflwr y ffyrdd oedd yr ateb. Ac rwy'n credu bod hynny'n cyd-fynd â'r hyn rydych yn ei ddweud, felly rwy'n cytuno gyda'r pwynt...
Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i. Mae cyflwr y ffyrdd yng Nghymru yn fater o bwys mawr i bob un ohonom. Pa un a fyddwn yn gyrru, yn seiclo, neu'n mynd ar y bws, mae pawb ohonom yn defnyddio'r ffyrdd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Caiff y pethau bob dydd sy'n ein cynnal, yn cynnwys llawer o'n bwyd, eu cludo ar hyd y ffyrdd wrth gwrs. Yn ychwanegol at ei bwysigrwydd i...
Russell George: Diolch, Weinidog. Rwy'n falch o glywed hynny. Cyn bo hir, byddwn yn clywed casgliadau ymgynghoriad a fydd yn arwain at ganlyniad ymgynghoriad yn Swydd Amwythig. Bydd hynny'n golygu ad-drefnu gwasanaethau yn Swydd Amwythig, ac yn sicr, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn sicrhau bod peth darpariaeth wedi'i chynllunio yn cael ei darparu'n lleol yn ein hysbytai cymunedol lleol megis y...
Russell George: Mae etholwr wedi cysylltu â fy swyddfa y bore yma, Weinidog, yn hynod o bryderus am nad yw'n gallu cael gafael ar gyffur penodol y mae ei angen arni er mwyn rheoli ei hepilepsi, er bod y cyffur ar gael yn ddidrafferth mewn fferyllfeydd yn Lloegr. Enw'r cyffur y cyfeiriaf ato yw Epilim Chrono, cyffur rhyddhad araf. Nawr, eglurodd i staff fy swyddfa y bore yma y bydd ei chyflenwad o'r cyffur...
Russell George: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gofal iechyd a gynllunir yn Sir Drefaldwyn? OAQ53117
Russell George: A gaf i ddiolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog, a dymuno blwyddyn newydd dda i chi a phob llwyddiant yn eich swydd newydd? Fe wnes i godi hyn gyda'r Ysgrifennydd Cabinet blaenorol dros gynllunio, o ran unedau dofednod dwys, a chefais ateb a oedd yn gwbl foddhaol, oherwydd cadarnhaodd yr Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd i mi y byddai'r prif swyddog cynllunio yn ysgrifennu at bob awdurdod...
Russell George: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canllawiau i gefnogi awdurdodau lleol yn y gwaith o asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer unedau dofednod dwys? OAQ53116
Russell George: Paul Davies.
Russell George: A gaf i estyn fy llongyfarchiadau i Ysgrifennydd y Cabinet ar gael ei ethol yn arweinydd ei blaid? Mae i'w groesawu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu defnyddio'r gyllideb o £26 miliwn sy'n bodoli o ganlyniad i'r cynnydd mewn gwariant gan Lywodraeth Geidwadol y DU i ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr am flwyddyn arall. Ond, wrth gwrs, ateb dros dro yn unig yw hwn...
Russell George: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich ateb. A ydych chi'n cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth wrth greu'r amodau cynllunio priodol fel y gall gweithredwyr ffonau symudol oresgyn, wrth gwrs, yr achos busnes heriol o wasanaethu ardaloedd gwledig yma yng Nghymru, lle mae'r boblogaeth yn wasgaredig mewn llawer o ardaloedd a chostau yn llawer uwch oherwydd prinder cyflenwadau pŵer a...