Mark Isherwood: Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cyfeirio at swyddfeydd post. Wrth gwrs, rwy'n cofio'r gronfa y cyfeirioch chi ati'n cael ei chyflwyno, ond nid oedd gennym gytundeb fframwaith bancio swyddfa'r post rhwng swyddfa'r post a 28 o fanciau bryd hynny i ddarparu mynediad at wasanaethau ar y stryd fawr lle mae ganddynt gangen. A ydych yn cytuno y dylem hefyd fod yn annog Llywodraeth Cymru, lle...
Mark Isherwood: Ydw, gan nad yw'n ymddangos eich bod yn deall economeg sylfaenol, ond dyna ni—
Mark Isherwood: Nid yw fy nghwestiwn yn ymwneud â hynny—
Mark Isherwood: Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â sut y caiff y gyllideb ei rhannu, ni waeth beth yw ei maint. Mae'n ymwneud â'r fformiwla, nid y maint. Mae pob un ohonom yn disgwyl yn eiddgar i glywed beth fydd maint y gyllideb nesaf—
Mark Isherwood: Felly, eu cais i chi, llythyr yn ateb gennych chithau, wedi'i lofnodi ar 4 Tachwedd, maent wedi gofyn am drafodaeth breifat.
Mark Isherwood: Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech edrych ar hynny. Yn yr un modd, cefais ohebiaeth gan—nid wyf am eu henwi—aelod gweithrediaeth o sir y Fflint yr haf hwn am yr effeithiau deddfwriaethol heb eu hariannu ar lywodraeth leol. Dywedasant fod llywodraeth leol wedi dadlau nad yw’r asesiadau effaith rheoleiddiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynhyrchu ochr yn ochr â deddfwriaeth ddrafft...
Mark Isherwood: Wel, nid wyf am ailadrodd y wers economeg y ceisiais ei rhoi i chi ddoe ar y pwynt hwnnw—
Mark Isherwood: Mewn gwirionedd, yn ystod yr union wythnos y gwnaethoch y sylw hwnnw i mi, anfonwyd llythyr at y Prif Weinidog a chithau a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd gan Gyngor Sir y Fflint, wedi'i lofnodi gan ei arweinydd ac arweinydd pob grŵp. Dywedai, 'Mae sir y Fflint wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddadlau ein hachos dros gyfres o flynyddoedd gosod cyllideb. Rydym yn parhau i ddadlau ein...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, mewn gwirionedd, mae'r—.
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. O dan fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, derbyniodd naw o'r 22 awdurdod yng Nghymru gynnydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol: cynnydd o 0.9 y cant i Gaerdydd, cynnydd o 0.5 y cant i Abertawe, toriad o 0.1 y cant i Wrecsam, toriad o 0.3 y cant i sir y Fflint, er bod cynnydd cyfatebol wedi bod ym mhoblogaethau pob un ohonynt. Ochr yn ochr â sir y Fflint, roedd...
Mark Isherwood: Dywed y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, yng nghyd-destun Ynys Môn: 'Gallai’r cynllun arfaethedig i adeiladu gorsaf ynni niwclear Wylfa Newydd ddod â manteision sylweddol o ran cyflogaeth, hyfforddiant a manteision economaidd cysylltiedig eraill ledled y rhanbarth cyfan os penderfynir bwrw ymlaen â’r cynllun.' Wel, pan gyfarfûm â Horizon Nuclear Power—yn fy nghyfarfod...
Mark Isherwood: Rydych yn cyfeirio at adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am ddyfodol budd-daliadau lles yng Nghymru. Gan fy mod â rhan yn yr adroddiad hwnnw, ni fyddaf yn rhoi sylwadau. Fodd bynnag, edrychaf ymlaen at glywed sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb. Rydych yn cyfeirio at doriadau cyni, wel, mae fy ngeiriadur yn disgrifio 'toriadau cyni' fel bod heb ddigon o arian,...
Mark Isherwood: Dylai'r ffaith fod tlodi plant yng Nghymru wedi cynyddu beri pryder i bob un ohonom ni, fel y dywed y Gweinidog. Ond tybed a all hi ddweud wrthyf pam ei bod hi'n dweud fod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru bellach yn uwch na'r DU gyfan, pan fo'r ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Ymchwil y Senedd yn dangos bod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn is nag yn yr Alban, Lloegr a'r DU...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, yr wythnos diwethaf, bron i bedair blynedd ar ôl i Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 gael Cydsyniad Brenhinol, cyhoeddodd eich Gweinidog iechyd ddatganiad cryno yn datgan mai dim ond rhaglen staff nyrsio Cymru gyfan sy'n sbarduno'r gwaith archwiliadol o ymestyn Deddf 2016. Ddiwedd y mis diwethaf, lansiodd Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru ei adroddiad cynnydd a her ar...
Mark Isherwood: 4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi staff yn y GIG yng Nghymru? OAQ54812
Mark Isherwood: Oherwydd imi gael fy ngwahodd, dyna'r unig reswm. Dyfynnais yn union beth y mae'r adran hon yn y maniffesto yn ei ddatgan. A ydych chi wedi'i ddarllen?
Mark Isherwood: Ar bob cyfrif.
Mark Isherwood: Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais yr hyn a ddywedoch chi.
Mark Isherwood: Mwy o godi bwganod yw hynny. Yr wythnos diwethaf yn wir, ni allai Barry Gardiner o'r Blaid Lafur nodi unrhyw dystiolaeth y byddai'r GIG ar y bwrdd mewn trafodaethau masnachol. Mae Jeremy Corbyn wedi honni y byddai cost meddyginiaethau yn y DU o dan gytundeb masnach rydd gydag America £500 miliwn yr wythnos yn uwch. Dyna £27 biliwn y flwyddyn. Fodd bynnag, dim ond £18 biliwn yw cyfanswm bil...
Mark Isherwood: Unwaith eto, mae'r cenedlaetholwyr yn gwadu Brexit. Ar 23 Mehefin 2016 pleidleisiodd y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd Cymru i adael. Pleidleisiodd Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam i adael. Pleidleisiodd Sir Gaerfyrddin i adael. Pleidleisiodd y Rhondda i adael, fel y gwnaeth gweddill Cymoedd de Cymru. Ailadroddwyd y patrwm hwnnw ganddynt yn yr etholiadau...