Canlyniadau 721–740 o 800 ar gyfer speaker:Rhianon Passmore

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cyllid gan yr UE a ddarperir i Gymru
( 5 Gor 2016)

Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r risgiau i economi Cymru os nad yw Llywodraeth y DU yn gwarantu pob ceiniog o gyllid a gaiff ei ddarparu i Gymru ar hyn o bryd gan yr UE? OAQ(5)0101(FM)

9. 8. Dadl Fer: Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain — Mwy na Rhaglen Adeiladu (29 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd. Anrhydedd mawr i mi, wrth gynrychioli pobl Islwyn, yw codi i gyflwyno’r ddadl fer gyntaf yn y pumed Cynulliad gan Aelod Cynulliad a etholwyd ym mis Mai 2016. Fel cyn-athro, darlithydd a chyn-aelod cabinet dros addysg mewn llywodraeth leol nid yw’n syndod fy mod wedi penderfynu canolbwyntio’r ddadl hon ar y mater mwyaf y mae cartref democratiaeth Cymru yn y fan hon yn...

9. 8. Dadl Fer: Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain — Mwy na Rhaglen Adeiladu (29 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i groesawu yn bersonol ac yn ffurfiol Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’w rôl ar ran pobl Islwyn. Rwy’n dymuno’n dda iddi yn ei rôl hanfodol a dylai wybod y bydd yn cael fy nghefnogaeth i sicrhau nad ydym yn gadael unrhyw blentyn ar ôl yn ein hymgyrch i wella canlyniadau addysgol. Addysg yw "athrylith warcheidiol ein democratiaeth." Nid oes dim...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llygredd Aer (29 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Cyfeirio ato rwyf fi, Lywydd. Fe symudaf ymlaen. Byddwn yn cytuno â’r cynnig hwn ei bod yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru a phob un ohonom i ddiogelu ansawdd bywyd ein planed ac i sicrhau bod pobl Cymru yn mwynhau ansawdd aer o’r safon uchaf.

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llygredd Aer (29 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Gyda dealltwriaeth gynyddol o bwysigrwydd ansawdd aer diogel ar ansawdd bywyd ac ar iechyd a lles, dyma’n union pam roeddwn yn awyddus i siarad yn y ddadl hon, yn enwedig oherwydd y ffaith fy mod yn dioddef o asthma cronig, ac mae fy mab wedi bod yn yr ysbyty ar sawl achlysur oherwydd ei asthma. Mae yna anniddigrwydd ynglŷn â lefelau llygredd aer, a nodaf mai Crymlyn yng Nghaerffili sydd...

14. 16. Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau (28 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Rwyf yn enwebu Mike Hedges.

14. 16. Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau (28 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Rwyf yn eilio'r enwebiad yna.

2. 2. Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE (28 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Nid oes amheuaeth ein bod i gyd, gyda'n gilydd fel cenedl ac fel pobl, yn sefyll ar drothwy dyfodol cymdeithasol ac economaidd newydd a bod ein pobl wedi eu rhannu'n chwerw ac mae'n rhaid i ni yn awr ddod at ein gilydd i fynd i'r afael â’n dyfodol. Er bod yn rhaid i ni dderbyn y mandad democrataidd ac ewyllys y bobl, mae'n rhaid i ni i gyd gydnabod hefyd y trwch blewyn, fel y cyfeiriwyd...

9. 9. Dadl Fer: Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE? (22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Iawn, diolch. Felly, yn lle porthi’r materion hyn sy’n ymwneud â mewnfudo ac anwybyddu’r ffeithiau, y cyfan y byddwn yn ei ddweud, i orffen fy sylwadau yw hyn: er mwyn anrhydeddu’r cof am Jo Leadbeater—Jo Cox—a oedd yn sefyll dros driniaeth gyfartal ac achosion dyngarol, cymorth i ffoaduriaid a chyfryngau teg, mae’n rhaid i ni ddewis cydweithio a gweithio o fewn yr UE, nid y tu...

9. 9. Dadl Fer: Aros neu adael? Pa ffactorau sydd wedi dylanwadu ar y farn gyhoeddus o ran ymgyrch refferendwm yr UE? (22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd. Gyda thristwch mawr rwyf finnau hefyd yn siarad yma heddiw am ddylanwadau ar y farn gyhoeddus. Y drasiedi yma yw bod hyn wedi bod yn rhagweladwy o ran y newid ar draws y cyfryngau yn arbennig o ran y papurau newydd tabloid sydd wedi tanio’r hiliaeth ddichellgar hon yn wir—gadewch i ni ei alw yr hyn ydyw. Rwy’n teimlo’n drist iawn, o ganlyniad i’r math hwn o...

6. 6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Llywodraeth Leol (22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Yn gyntaf oll, hoffwn groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’w swydd a chroesawu’n fawr ei ddull a’i ymrwymiad tuag at y broses gydgynhyrchu wrth edrych tua’r dyfodol. O ran atgyfnerthu’r pwyntiau sydd newydd eu gwneud, ydw, rwy’n credu nad oes amheuaeth nad yw Cymru wedi cario baich y toriadau y mae awdurdodau lleol wedi’u cario yn Lloegr. Rydym wedi crybwyll eisoes y toriad o 10 y...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Ansawdd Aer
(22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yr A472 yng Nghrymlyn: yn ôl data’r Llywodraeth, y lefelau o nitrogen deuocsid a gofnodwyd yma yw’r rhai uchaf a gofnodwyd yn y DU y tu allan i Lundain. Yr unig le y gwelir lefelau uwch yn Lloegr yw ar fonitor tebyg ar Marylebone Road yng nghanol Llundain, ac yn ôl Asthma UK Cymru, mae 314,000 o bobl yn dioddef o asthma yng Nghymru,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Yr Amgylchedd Ffisegol
(22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch yn fawr, Weinidog. Mewn perthynas â’r gwaith torri coed ar ffordd goedwig hardd Cwmcarn, sy’n saith milltir o hyd, a gaewyd dros dro ym mis Tachwedd 2014, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi datgan fod hwn yn waith hirdymor a allai gymryd rhwng tair a phedair blynedd i’w gwblhau. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ailadrodd penderfyniad diamod a digamsyniol Llywodraeth Cymru y bydd un...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Yr Amgylchedd Ffisegol
(22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar sicrhau bod amgylchedd ffisegol Cymru yn agored i bawb? OAQ(5)0008(ERA)

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Ansawdd Aer
(22 Meh 2016)

Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cynnal lefelau ansawdd aer? OAQ(5)0010(ERA)

7. 6. Datganiad: Darlledu yng Nghymru (21 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch ichi, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn innau hefyd roi fy nghefnogaeth i'r datganiad ac i’r Gweinidog am ei waith cryf yn hyn o beth. Edrychaf ymlaen at y cyfle i gael mwy o oruchwyliaeth a mandad i’r Senedd o ran ein gwaith craffu ehangach ar gyfryngau Cymru, ac rwyf yn croesawu’r cyfle hwnnw’n fawr iawn. Rwyf hefyd yn croesawu'r ddadl a addawyd yn y Cyfarfod Llawn ar y siarter...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Teithwyr Rheilffyrdd yn Islwyn
(21 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Iawn. Diolch i chi am yr ateb yna. Mae'r cynllun i ailgyflwyno gwasanaethau teithwyr yn ôl i reilffordd Glynebwy rhwng Glynebwy a Chaerdydd, gan gynnwys gorsafoedd yn Rhisga a Phontymister, Crosskeys a Threcelyn, wedi bod yn llwyddiant ysgubol gyda'r cyhoedd. Ariannwyd rhan fawr gan gyllid strwythurol yr UE; h.y. ni fyddai wedi digwydd pe byddai wedi cael ei adael i doriadau’r Torïaid...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Teithwyr Rheilffyrdd yn Islwyn
(21 Meh 2016)

Rhianon Passmore: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran sicrhau gwell cysylltiad i deithwyr rheilffyrdd yn Islwyn? OAQ(5)0066(FM)

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Bil Cymru (15 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch i chi, Lywydd. O ran y terfynau amser i allu craffu ar Fil Cymru drwy’r toriad a thu hwnt, a ydym yn argyhoeddedig fod yna ddigon o amser i ni allu gwneud hynny a chynhyrchu deddfwriaeth dda? Diolch.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Smygu
(15 Meh 2016)

Rhianon Passmore: Diolch. Mae’n newyddion da iawn, felly, fod Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer 2016 o ostwng lefelau smygu i 20 y cant. Sut rydych chi’n bwriadu cyrraedd ein targed uchelgeisiol ar gyfer gostwng y lefelau hynny i 16 y cant erbyn 2020?

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.