Vikki Howells: Weinidog, fel y byddwch yn gwybod, mae cynigion i ddatblygu cylchffordd Cymru wedi bod yn cylchredeg ers peth amser. Hyd yn hyn, mae’r tîm prosiect wedi methu codi’r arian angenrheidiol ar gyfer y prosiect. A fuasech yn gallu amlinellu pa ddatblygiadau a gafwyd yn ddiweddar?
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad yma heddiw. Fel cyn athro fy hun, yn union fel fy nghyd-Aelod Rhiannon Passmore, yr Aelod dros Islwyn, rwy’n gwybod o brofiad personol bod hwn yn fater allweddol i fy nghydweithwyr i mewn ystafelloedd dosbarth ledled Cymru. Rwyf hefyd yn gwybod bod maint dosbarthiadau yn fater pwysig iawn ar stepen drws fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, a gaf i os gwelwch yn dda ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y polisi ar gyfer darparu nofio am ddim i blant? Mae 10 mlynedd wedi bod ers cyflwyno’r polisi nofio am ddim i blant yng Nghymru, sydd efallai’n adeg dda i ni fyfyrio ar y polisi. Mae nofio am ddim wedi bod yn bwysig o ran cynnig mynediad at gyfleoedd hamdden, i fynd i'r afael â gordewdra neu...
Vikki Howells: Gallai cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiect Cwm Yfory, yn Llwydcoed yn fy etholaeth i, olygu y bydd gwastraff bwyd yn darparu digon o bŵer ar gyfer 1,500 o gartrefi, trwy gynhyrchu dros 1 MW o drydan gwyrdd. Pa werthusiad dros dro y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o’r prosiect hwn?
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae llawer o grwpiau, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Trussell, wedi nodi mater newyn gwyliau, pan fo’r plant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’u rhieni yn aml yn mynd heb fwyd yn ystod gwyliau hir yr haf. Yn wir, dywed yr elusen fod y galw yn ei 35 o fanciau bwyd yng Nghymru ar ei uchaf yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Gall darparu’r cyllid hwn...
Vikki Howells: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi clybiau cinio a chlybiau hwyl mewn ysgolion cynradd yn ystod gwyliau haf yr ysgolion? OAQ(5)0063(EDU)
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ganed Griffith Morgan, a gâi ei alw’n Guto, yn 1700, ac roedd yn byw ar fferm Nyth Brân yn Llanwynno. Roedd Guto’n rhedwr heb ei ail, a gallai gorlannu defaid y teulu ar ei ben ei hun, a hyd yn oed dal adar wrth iddynt hedfan. Mae un stori’n ei ddisgrifio’n rhedeg y 7 milltir i Bontypridd ac yn ôl adref cyn i’r tegell ferwi. Yn ei ras fwyaf, rhedodd Guto...
Vikki Howells: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno y bydd cwblhau'r ffordd gyswllt ar draws y Cymoedd yn Aberpennar yn lleihau tagfeydd yn y rhan benodol hon o Ganol De Cymru ac, yn ogystal, y bydd yn chwarae rhan bwysig i gynorthwyo’r llif dwyffordd o gyfalaf a llafur yng nghynlluniau economaidd y dyfodol, fel prifddinas-ranbarth Caerdydd?
Vikki Howells: Fel y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ein hatgoffa yn ‘Gwneud Gwahaniaeth’, eu meysydd polisi â blaenoriaeth ar gyfer creu Cymru iach, mae dros hanner oedolion Cymru ac oddeutu chwarter plant Cymru yn cario gormod o bwysau neu’n ordew, gyda phroblemau penodol mewn cymunedau difreintiedig, fel fy un i yn Rhondda Cynon Taf, lle y mae’r ffigur yn 63 y cant o oedolion. Os yw nifer y bobl...
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r diwygiadau addysgol eang a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru mewn meysydd sy’n cynnwys y cwricwlwm, cymwysterau a datblygiad proffesiynol athrawon wedi eu croesawu gan athrawon a’u cefnogi'n llawn gan yr OECD. Rwy’n croesawu eich sicrwydd pendant y byddwn yn dal at yr agenda hon yn gadarn, yn hytrach na gwyro oddi wrth y llwybr yr ydym wedi’i osod i...
Vikki Howells: Yn ddiweddar, cyfarfûm â chynrychiolwyr o Gonsortiwm Canolbarth y De yn Ysgol Gyfun Aberpennar yn fy etholaeth, ac roeddwn yn falch o glywed am y gwelliant y mae’r consortiwm wedi’i weld o un flwyddyn i’r llall ar draws pob dangosydd perfformiad, o gyfnod allweddol 2 i gyfnod allweddol 5. Mae llwyddiant mewn ardaloedd fel Caerdydd yn aml yn seiliedig ar waith gyda disgyblion o...
Vikki Howells: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o waith consortia rhanbarthol o ran gwella cyrhaeddiad addysgol yng Nghwm Cynon? OAQ(5)0052(EDU)
Vikki Howells: Mae beicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn fath o drosedd tirwedd sy’n niweidio ein tirwedd naturiol ac sy’n gallu bod yn beryglus i’r cyhoedd hefyd. Yn ddiweddar, datgelodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod 22 o bobl wedi cael eu harestio am feicio anghyfreithlon oddi ar y ffordd yn ne Cymru ym mis Tachwedd yn unig, ac mae llawer o drigolion rwyf wedi siarad â hwy yn fy etholaeth wedi...
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Cefais gyfarfod â Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn ddiweddar i drafod mynediad at wasanaethau adsefydlu cleifion yr ysgyfaint i’r 2,000 o bobl yn fy etholaeth i sy'n byw gyda COPD. Er bod y rhai yng nghlwstwr meddygon teulu gogledd Cynon yn cael eu cludo i Ferthyr yn gymharol hawdd, gall y rhai yn y de wynebu anawsterau, gan orfod teithio i Donypandy, dros...
Vikki Howells: 1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl y mae clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn effeithio arnynt? OAQ(5)0263(FM)
Vikki Howells: Mae’r ddadl hon yn ein hatgoffa o’r heriau sy’n wynebu’r amgylchedd naturiol, nid yn unig yng Nghymru, ond yn y moroedd a’r cefnforoedd sy’n ffinio â’n gwlad. Y bygythiadau sy’n wynebu’r ecosystemau morol bregus hyn, a’r camau y gallwn eu cymryd i liniaru eu heffaith, fydd canolbwynt fy nghyfraniad heddiw. Wedi’r cyfan, ni ddylem byth anghofio bod dyfroedd tiriogaethol...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dau gwestiwn ac fe geisiaf fod yn gryno, Gadeirydd. Hoffwn ddiolch i chi am y datganiad a wnaethoch heddiw, fel un o aelodau’r pwyllgor fy hun, ac rwy’n croesawu’r sylwadau ynglŷn ag edrych ar gyd-destun ehangach ffermio a rôl yr economi wledig, yn enwedig o ran yr iaith Gymraeg yn ogystal. Felly, yn gyntaf, fy nghwestiwn yw: sut y gallwn integreiddio’r...
Vikki Howells: Beirniadwyd cyhoeddiad cynllun gweithredu Llywodraeth y DU ar gyfer mynd i’r afael â gordewdra plentyndod gan ymgyrchwyr yn sgil glastwreiddio llawer o’r cynigion disgwyliedig, yn enwedig rhai’n ymwneud â siwgr ac ar hysbysebu bwydydd afiach. Yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf, sy’n cynnwys fy etholaeth i, mae 28.1 y cant o blant pedair i bump oed yn cario gormod o bwysau neu’n...
Vikki Howells: 6. A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wneir gan Lywodraeth Cymru i ostwng y cyfraddau gordewdra ymhlith plant? OAQ(5)0063(HWS)
Vikki Howells: Diolch, Lywydd a diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth lawn i'r cynnig a amlinellwch heddiw. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw twristiaeth fel sector i economi Cymru, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei marchnata yn gryf wrth symud ymlaen, os yw am gynnal a gwella'r presenoldeb sydd ganddi ar hyn o bryd. Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â...