Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, yn y Llywodraeth ac, yn bwysicach, bobman arall yng Nghymru. Dyna dwi wedi'i bwysleisio ers cael fy mhenodi'n Weinidog dros ein hiaith ni, a dyna dwi'n ei bwysleisio heddiw. Faint bynnag o Gymraeg rŷn ni'n ei siarad a beth bynnag mae ein cyswllt â'r iaith wedi bod, mae gyda ni i gyd gyfraniad i'w wneud...
Jeremy Miles: Diolch. Does dim gwahaniaeth o'm safbwynt i. Sylwedd y pwynt yw ein bod ni'n moyn gwneud popeth i ddiogelu enwau lleoedd. Gwnaf i gyfeirio'r Aelod at dudalen 14 yn y ddogfen ymgynghori sydd yn gosod allan y camau penodol sydd gennym ni mewn golwg.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny a byddwn i'n hapus iawn, wrth gwrs, i gydweithio ag e a'i bwyllgor i ddatblygu'r cynigion sydd yn y pecyn sy'n cael ei ymgynghori arno heddiw. O ran beth yw dylanwad gwaith Dr Brooks ar y cynllun hwn ac ar y cynllun mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ei ddatgan heddiw, dwi'n credu ei fod e'n gwbl greiddiol i'r holl weledigaeth sydd yma. Mae wedi cael...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am yr amryw gwestiynau yn ei gyfraniad ef. O ran manylder y cynllun, rydyn ni heddiw'n cyhoeddi dogfen ymgynghori sydd yn ateb sawl un o'r cwestiynau sydd gan yr Aelod—cwestiynau pwysig am fanylion yr hyn rŷn ni'n bwriadu ym mhob un o'r wyth ymyrraeth wnes i eu hamlinellu. Felly, byddwn i'n argymell bod unrhyw un sydd â diddordeb ym manylion y cynnig yn edrych ar y...
Jeremy Miles: Gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau yn ei gyfraniad e? O ran y cwestiynau ar fforddiadwyedd ac o ran defnydd tai, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cael cyfle i wrando ar ei gwestiynau. Gwnaeth hi ymgymryd â rhai o'r atebion yn ei datganiad yn gynharach, ond mae'r cwestiynau wedi bod yn ddefnyddiol, diolch yn fawr iddo fe. O ran ambell beth mwy penodol yng nghyd-destun fy natganiad i,...
Jeremy Miles: Mae niferoedd uchel o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr wedi ysgogi teimladau cryf mewn rhai cymunedau yng Nghymru ers cryn dipyn o flynyddoedd. Yn y cymunedau hyn, yn aml, ceir ymdeimlad o anghyfiawnder bod pobl yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai leol gan y rheini sy'n prynu ail gartrefi neu gartrefi i'w gosod fel llety gwyliau tymor byr. Rŷn ni'n benderfynol o fynd i'r afael...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Mae sicrhau bod pobl leol yn gallu fforddio byw yn y cymunedau lle'u magwyd, a chynnal hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol ffyniannus, yn nodau strategol allweddol i Lywodraeth Cymru. Mae'r Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James, newydd amlinellu nifer o ymyraethau allweddol rydyn ni'n bwriadu eu gwneud ynglŷn ag ail gartrefi a fforddiadwyedd. Pwysleisiodd unwaith...
Jeremy Miles: Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Bydd gan nifer o'r ymyriadau yr wyf wedi'u disgrifio heddiw, yn enwedig y cynllun llyfrau, ddimensiwn sy'n sicrhau bod llyfrau'n cael eu derbyn gan bobl ifanc mewn gofal yn benodol. Mae rhai ymyriadau penodol ar gyfer rhai o'n teuluoedd mwyaf difreintiedig o gwmpas y blynyddoedd cynnar, ac mae rhai o'r llyfrau yr wyf wedi bod yn cyfeirio...
Jeremy Miles: Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau pellach hynny. Dwi'n rhannu gyda hi'r cof o ddarllen llyfr oedd yn eiddo i fi pan oeddwn i yn yr ysgol, ac rwy'n cofio datblygu diléit am ddarllen yn ystafell ddosbarth Miss Annie Derrick yn Ysgol Gymraeg Pontarddulais pan oeddwn i'n grwtyn bach. Felly, mae'r pethau yma yn aros yn y cof. Ond fel mae'r Aelod yn dweud, dyw e ddim yn brofiad sydd ar gael...
Jeremy Miles: Rwy'n diolch i Laura Anne Jones am yr ystod yna o gwestiynau. O ran y pwyntiau a ofynnodd am y buddsoddiad mewn adnoddau, sy'n un rhan o'r gyfres o gamau gweithredu yr wyf i'n eu disgrifio heddiw, bydd dewis i'r dysgwyr eu hunain o ran y llyfrau y byddan nhw'n eu derbyn. Felly, bydd ganddyn nhw ddewis rhwng amrywiaeth o lyfrau a byddan nhw'n cael dewis yr un y maen nhw'n ei ddymuno i'w...
Jeremy Miles: Yn gyntaf, mae'n bleser gen i gyhoeddi £5 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer rhaglenni darllen ledled Cymru, a fydd yn darparu llyfr ar gyfer pob dysgwr ochr yn ochr â chynllun cymorth darllen wedi'i dargedu, gyda phwyslais ar ddysgwyr y blynyddoedd cynnar a dysgwyr difreintiedig. Bydd y rhaglen yn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru ei lyfr ei hun i'w gadw. Bydd hefyd...
Jeremy Miles: Mae sgiliau siarad, gwrando a darllen yn hanfodol i bron â bod pob agwedd ar ein bywydau, o'r cartref i'r ysgol ac i fyd gwaith. Yn ogystal â bod wrth wraidd gallu cael mynediad at ddysgu, maen nhw hefyd yn galluogi datblygu perthynas â rhieni, â chyfoedion a chymunedau ehangach, ac yn gallu agor drysau i siarad am bynciau anodd, sy'n fuddiol i'n hiechyd meddwl a'n lles. Dyma pam mae...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gwella sgiliau darllen yn hanfodol os ydyn ni am wneud y cynnydd yr ydym ni i gyd am ei weld o ran lleihau'r bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion. Ac mae rhoi sylw i sicrhau bod gan bawb y sgiliau darllen sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd eu potensial yn fater o gyfiawnder cymdeithasol, sy’n rhan annatod hefyd o sicrhau...
Jeremy Miles: [Anghlywadwy.]—fel y gwn fod yr Aelod, gan y cyfleoedd sydd wedi codi yn yr ysgol honno drwy gydleoli'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg gyda'r ysgol ei hun. A chlywsom, rwy’n meddwl, gan ystod o staff pa mor llwyddiannus y bu hynny wrth gefnogi plant ar eu taith ddysgu. Cyflwynir rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, a'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy fel y caiff ei galw...
Jeremy Miles: Mae rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain wedi buddsoddi £1 biliwn yn ein hystâd addysgol hyd yn hyn. Fel y cyhoeddais yn ddiweddar, byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan ddiwallu'r galw lleol am addysg a hefyd i gefnogi ein hymrwymiadau mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd a sicrhau ein bod yn darparu cymunedau dysgu cynaliadwy.
Jeremy Miles: Dwi wedi cael sgyrsiau gyda dysgwyr yn ddiweddar, yn cynnwys gyda phanel o ddysgwyr a wnaeth y comisiynydd plant ddwyn ynghyd, er mwyn trafod y cwestiwn hwn. Felly, ces i gyfle i drafod yn uniongyrchol rhai o'r gofidiau a'r amheuon sydd gan unigolion a disgyblion, fel y byddwn i'n disgwyl ac fel mae'r Aelod yn sôn. Un o'r pethau pwysig, dwi'n credu, yw sylweddoli pa mor wahanol fydd...
Jeremy Miles: Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu cynnal cyfres arholiadau yn ystod haf 2022, gyda chyfyngiadau ar gynnwys cyrsiau ac addasiadau eraill i adlewyrchu'r amharu a fu ar y dysgu. Rydym ni hefyd wedi gosod cyfres o adnoddau yn eu lle, gyda CBAC, i gefnogi'r dysgu a helpu pobl ifanc i baratoi.
Jeremy Miles: Diolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn, ac am ei ymrwymiad, o'r eiliad y cafodd ei ethol, i'r agenda hon. Gwn pa mor angerddol y mae'n teimlo ynglŷn â hyn, yn anad dim am fod ganddo brofiad uniongyrchol ohono. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad clir i ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oedran yn nhymor y Senedd hon. Cânt eu darparu yn unol â blaenoriaethau'r economi yn yr union ffordd y...
Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Y ddeddfwriaeth a gyflwynwyd i'r Senedd yr wythnos diwethaf, yn fy marn i, yw'r ddeddfwriaeth sy'n sicrhau parch cydradd, ac mae'n cynnwys yr ysgogiadau sy'n ofynnol er mwyn gwireddu'r flaenoriaeth y mae Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr hon wedi'i roi i fater parch cydradd ers amser maith. Credaf mai un o'r cyfleoedd diddorol sy'n codi yng nghyd-destun...
Jeremy Miles: Mae Gweinidog yr Economi a minnau wedi ymrwymo i hyrwyddo prentisiaethau yng ngogledd Cymru. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar hyrwyddo sectorau twf, megis y rheini yn yr economi werdd, ac yn annog mwy o gyflogwyr i recriwtio pobl ifanc drwy ein cynllun cymell prentisiaethau.