Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniad cadarnhaol y mae’r Aelod yn ei wneud ac yn ei godi o ran y gwaith pwysig ysgolion bro wrth newid eu cymunedau lleol. Mae’n galonogol clywed y byddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn falch o gyfarfod â'r Aelod, mewn gwirionedd, i drafod yr union faterion y mae'r Aelod yn eu codi. Ynglŷn â’r mater yn ymwneud â gofal plant, fel y rhestrir yn y...
Carl Sargeant: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am godi'r materion ynglŷn â’r pethau y mae Cymunedau yn Gyntaf yn eu gwneud yn dda iawn, ac rwyf hefyd yn clodfori’r gwaith sy'n cael ei wneud mewn llawer o gymunedau, a wnaed gan staff a gwirfoddolwyr ar draws y 52 o ardaloedd yng Nghymru. Ond, fel yr wyf wedi’i ddweud, mae'n rhaid i ni ystyried y sefyllfa bresennol sydd ohoni, ac rwy’n credu bod...
Carl Sargeant: Diolch i chi, Lywydd, ac rwy'n ddiolchgar am gyfraniad Mark Isherwood. Rwy’n credu, yn sail i hynny i gyd, roedd Mark mewn gwirionedd yn dweud yn gynnil, 'Da iawn' wrth y Gweinidog, gan fy mod o’r farn ei fod mewn gwirionedd yn cytuno â ni, ar y sail ei fod yn ceisio cymryd clod am rywfaint o hynny. Ond, o ddifrif, cododd yr Aelod ambell fater y gallaf ymhelaethu arnynt. Pam na...
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Bethan Jenkins am ei chwestiynau ystyriol yn y fan yna. Rwy’n credu, er bod yr Aelod wedi crybwyll y mater ynglŷn â Chymunedau yn Gyntaf, mewn gwirionedd ceir llawer yn y datganiad, rwy’n credu, sy’n eithaf cyffrous ac yn gyfle i yrru Cymru yn ei blaen. Rhof rai enghreifftiau i’r Aelod o'r dewisiadau yr ydym wedi eu gwneud a'r rhesymeg y tu ôl...
Carl Sargeant: Diolch i chi, Lywydd. Mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o ddarparu mwy o swyddi a swyddi gwell drwy economi gryfach a thecach. Rydym ni’n ymrwymedig i wella a diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus ac rydym yn benderfynol o adeiladu Cymru unedig, gysylltiedig a chynaliadwy. O fewn fy mhortffolio, fy mlaenoriaethau yw lles a ffyniant economaidd. Rwy'n hollol benderfynol o’u bodloni. I...
Carl Sargeant: Nid yw newid byth yn hawdd, ac ni allwn osgoi’r heriau newydd a difrifol sy'n ein hwynebu. Yn hytrach, mae'n rhaid i ni ddod o hyd i ffordd newydd i ymateb. Gan ddechrau yn awr, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol ar ein hymagwedd yn y dyfodol, gan gynnwys y cynnig i gael gwared ar y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, a sut y byddwn yn parhau i ddarparu Cymunedau am Waith ac...
Carl Sargeant: [Yn parhau.]—gyda chefnogaeth Plaid Cymru, a ni fydd y rhai sy’n hyrwyddo adeiladu tai yma yng Nghymru.
Carl Sargeant: Mae gennym lu o gynlluniau. Y model 20,000, y byddaf yn dod ato mewn eiliad—. Gwn fod David yn ceisio esgus nad yw’n deall y ffigurau, ond rwy’n gwybod bod yr Aelod yn dda am wneud hyn. Fe’u hesboniaf yn fanylach. Gadewch i mi ddweud un ffaith sylfaenol wrthych am yr hawl i brynu a beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd yn y sector hwn: y ffaith amdani yw bod gwir effaith yr hawl i...
Carl Sargeant: Fe gymeraf ymyriad gan yr Aelod.
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y ddadl heddiw—y drydedd ar dai, rwy’n meddwl, yn yr un faint o wythnosau. Mae cartref diogel, sicr a fforddiadwy yn angen sylfaenol. Mae’n hanfodol i iechyd a lles pobl a’r gallu i wireddu eu potensial llawn. Mae tai yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Rwyf wedi ymrwymo’n bendant i sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i helpu pobl i...
Carl Sargeant: Fe wnaf.
Carl Sargeant: Rwy’n credu ei fod yn dir cyffredin, a dyna’n union beth a ddywedodd Lee, rwy’n meddwl. Mae eich pwynt yn un da ac wedi’i ailadrodd gan yr Aelod. A gaf fi ddweud nad wyf yn gwrthwynebu cydgyfrifoldeb am geisio ailadeiladu ein cymunedau a chanol trefi? Dylai’r holl bethau hyn gyfrannu at ystyriaeth y Gweinidog sy’n gyfrifol am ardrethi busnes dros ystod yr wythnosau nesaf. Rwy’n...
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i ymateb i’r ddadl hon heddiw. Mae canol ein trefi a’n dinasoedd yn wynebu heriau cymhleth sy’n cael eu cydnabod gennym—yr anawsterau y maent yn eu hwynebu i barhau’n berthnasol a chystadleuol, fel y soniodd nifer o’r Aelodau heddiw. Mae’r amgylchiadau y maent yn gweithredu ynddynt yn newid yn barhaus, ac maent yn wynebu heriau yn sgil...
Carl Sargeant: Yn ffurfiol.
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar iawn. Mae’r Aelod wedi bod yn siarad llawer am Loegr. Dywedodd Angela yn y ddadl flaenorol na ddylem ystyried Lloegr a’r hyn y maent yn ei wneud yn Lloegr. Efallai y byddai’r Aelod yn dymuno dweud wrthym beth y mae’r meddygon iau yn ei wneud yn Lloegr ac nid yng Nghymru.
Carl Sargeant: Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod i mewn pan drafodwyd gwelliant y Ceidwadwyr, ond mae’n drawiadol ei fod yn cofio. Hyderaf na fydd neb yn ceisio camliwio neu amharchu proses gyllidebol briodol y Cynulliad hwn wrth i Lywodraeth Cymru anghytuno â’r safbwyntiau a fynegwyd ar draws y Siambr ar bwysigrwydd y gwaith hwn, Lywydd—na ddylai negeseuon cytûn fynd ar goll ym mlerwch...
Carl Sargeant: Yn wir, mae’r Aelod yn iawn i grybwyll y mater hwnnw. Dyna pam y pleidleisiodd yr Aelod yn erbyn y Ddeddf tai yn y Llywodraeth ddiwethaf, pan oeddem yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon. Dylai feddwl yn ôl am sut y gweithredodd. Mae ein hymchwil yn dangos sut y mae’r rhaglen yn helpu i leihau galwadau diangen ar y GIG—sy’n fantais sylweddol ynddi ei hun. Mae’n darparu achos dros...
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y ddadl heddiw, a diolch i’r Aelodau am eu sylwadau. A gaf fi ddechrau yn gyntaf drwy gydnabod y nifer fawr o sefydliadau sy’n gofalu am lawer o bobl agored i niwed yn ein cymunedau, a dechrau drwy ddiolch i Cymorth Cymru am y man cychwyn? Diolch i Auriol Miller, a phob lwc iddi yn ei swydd newydd, ac i’r cyfarwyddwr dros dro, Katie Dalton, pan ddaw...
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Jenny, am eich cyfraniad heno. Croesawaf y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y dull o foderneiddio’r sector rhentu preifat, sydd wedi chwarae rhan gynyddol bwysig yn y broses o ddiwallu anghenion tai pobl. Fel y dywed Jenny, mae sawl math o landlord diegwyddor. Gall landlord diegwyddor fod yn rhywun sy’n methu â chydymffurfio...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, er mwyn bod yn gymwys i dderbyn taliadau annibyniaeth bersonol, mae’n rhaid i unigolyn fod â chyflwr iechyd hirdymor neu anabledd, sy’n cynnwys cyflyrau iechyd meddwl, ac yn benodol, cyflyrau cynyddol fel dementia. Byddaf yn gofyn i fy swyddogion holi’r Adran Gwaith a Phensiynau am eglurhad pellach ynglŷn â sut y maent yn...