Elin Jones: Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Elin Jones: Prynhawn da i chi i gyd a blwyddyn newydd dda i bawb.
Elin Jones: Blwyddyn newydd dda i chi gyd.
Elin Jones: Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma, yn 2023, a'r cyfarfod cyntaf, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf yn 2023 gan Peter Fox.
Elin Jones: Nadolig Llawen i chi i gyd. Dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am heddiw.
Elin Jones: Diolch yn fawr i'r Gweinidog.
Elin Jones: A dyna ddiwedd ar ddadl bancio'r Nadolig. Edrychwn ymlaen at fersiwn y flwyddyn nesaf. Ac fe fyddwn i gyd yno ym Mwcle ar gyfer agoriad y banc hwnnw.
Elin Jones: Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ymateb—Jane Hutt.
Elin Jones: Da iawn. Rhun ap Iorwerth.
Elin Jones: O, nid wyf i fod i wneud sylwadau ar areithiau'r Aelodau, ond fe dorrais reol yno. Da iawn, Jack. Rhun ap Iorwerth.
Elin Jones: Bydd gennym ni ddadl fer hefyd yn awr, ac mae'n siŵr y gwnaiff bawb adael yn dawel.
Elin Jones: Gall Aelodau adael yn dawel gan ein bod yn dal i drafod yma, ac fe alwaf ar Jack Sargeant i gyflwyno ei ddadl fer, ac i ddechrau dadl olaf 2022. Draw atoch chi, Jack.
Elin Jones: Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig wedi'i ddiwygio gan welliant 1.
Elin Jones: Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, wyth yn ymatal, 14 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Elin Jones: Mae'r pleidleisio drosodd. Cyn imi alw'r ddadl fer—
Elin Jones: —a gaf fi ddymuno Nadolig hapus i chi i gyd, Nadolig llawen, pan ddaw?
Elin Jones: Dwi'n dymuno Nadolig llawen, llonydd a heddychlon i chi i gyd. Nadolig llawen.
Elin Jones: Mae un Aelod eto i bleidleisio. Rwy'n credu ei fod newydd sylwi.
Elin Jones: Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.
Elin Jones: Gwelliant 1 fydd y bleidlais nesaf, ac os bydd gwelliant 1 yn cael ei dderbyn, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn, ac mae gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.