Andrew RT Davies: Prif Weinidog, roedd eich cynllun yn cynnwys 100 o bwyntiau gweithredu ac yn amlwg roedd yn dod â'r holl bwyntiau gweithredu at ei gilydd am y tro cyntaf, rwy'n credu, mewn un ddogfen. Un o'r targedau yw cynyddu plannu coed ac mae pwyllgor yr amgylchedd yn y fan yma wedi ystyried hynny. Rydych chi wedi methu hwnnw o bell ffordd, a phan edrychwch chi ar Cyfoeth Naturiol Cymru, mae ganddyn nhw...
Andrew RT Davies: Nid wyf erioed wedi ennill pleidlais o'r blaen. [Chwerthin.] [Cymeradwyaeth.]
Andrew RT Davies: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Ac rwy'n gwneud y cynnig y prynhawn yma yn ffurfiol. Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran llawer o fy nghyd-gyfranwyr yn y ddadl heddiw pan ddywedaf mai teimlad cymysg sydd gennym wrth gyflwyno'r cynnig hwn, yn enwedig yn dilyn buddugoliaeth eithriadol Cymru yn ennill y Gamp Lawn tua 10 diwrnod yn ôl. Credaf fod y dathliadau bron iawn wedi dod i ben ledled y...
Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb cryno, Weinidog, ac rwy'n deall yn iawn pam mai chi sy'n ymateb i'r cwestiwn hwn yn hytrach na'r Prif Weinidog. Hoffwn hefyd ymddiheuro i deulu Carl Sargeant a Jack Sargeant, oherwydd yn amlwg, ni chafodd y Siambr hon yr atebion roeddent eu hangen ac roedd y teulu'n teimlo bod yn rhaid iddynt fynd i'r llys i gael y dyfarniad hwn heddiw. Mae hwn yn ddyfarniad damniol, a...
Andrew RT Davies: Yn anffodus, Weinidog, bydd hynny'n rhoi arwydd clir i mi—a'r rheini sy'n gwylio'r o'r Barri—na fyddaf yn cael llawer o wybodaeth am sefyllfa'r Llywodraeth ar hyn o bryd, heblaw ei bod yn dal i ceisio cyngor cyfreithiol, oddeutu 13 mis ar ôl i chi roi ymrwymiad yn y Siambr hon eich bod yn bwriadu gofyn am asesiad o'r effaith amgylcheddol. O ystyried nad ewch chi lawer pellach a chynnig...
Andrew RT Davies: Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Un o'r pwyntiau a roddais i chi yn y datganiad a wnaethoch yn ddiweddar oedd y gallu hwn i beidio â chael cyfnodau yn y rownd geisiadau ar gyfer Glastir a chael cyfnod agored yn unig lle gallai pobl wneud cais am gymorth i blannu coedwigoedd newydd drwy gydol y flwyddyn. A ydych wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i hyn? Oherwydd roedd yn faes na chyffyrddwyd arno...
Andrew RT Davies: Yn anffodus, mae'n ymddangos mai rheoleiddio drwy e-bost yw hyn, i fod yn onest, gyda stori i'r wasg, yn hytrach nag asesiad priodol, oherwydd yn amlwg, roedd y Llywodraeth, er clod iddi, wedi bod yn gweithio gyda'r diwydiant ac wedi nodi eu bod wedi cyrraedd trefniant boddhaol gyda'r diwydiant ynglŷn â sut y byddai dull gwirfoddol yn gweddu orau er mwyn mynd i'r afael â'r digwyddiadau...
Andrew RT Davies: Ond mae'n peri pryder na wnaed unrhyw asesiad effaith rheoleiddiol cyn i chi gyflwyno'r cynigion hyn, oherwydd does bosib na ddylid gwneud hynny i asesu, fel y dywedais wrthych yn gynharach, yr effeithiau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol a allai fod i'r cynigion hyn. Ac mae'n frawychus iawn na chynhaliwyd unrhyw asesiad effaith, gan y gallai hyn gau llawer o fusnesau...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Weinidog, rydych wedi cyflwyno'r cynigion ar gyfer rheoliadau newydd i leihau llygredd dŵr. Yn amlwg, mae pawb ohonom am weld amgylchedd gwell ac amgylchedd glanach. Mewn gwirionedd mae'r rheoliadau newydd hyn yn gopi union o'r rheoliadau parthau perygl nitradau, a chânt eu cymhwyso ar draws Cymru gyfan os cânt eu gweithredu. Pa asesiad a wnaethoch o'r...
Andrew RT Davies: Diolch ichi am eich ateb, Weinidog, a nodaf y gair allweddol a ddefnyddioch—'craidd' i'ch polisïau. Ond efallai fod llawer o'r Aelodau—yr holl Aelodau rwy'n credu—wedi derbyn y llythyr gan gyn-gyflogeion sydd wedi ymddeol o Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a chyrff eraill sydd â diddordeb yn y maes penodol hwn, sy'n tynnu sylw at yr hyn y credant sy'n ddiffyg hyder yn y...
Andrew RT Davies: 2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol gwarchodfeydd natur cenedlaethol yng Nghymru? OAQ53653
Andrew RT Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu creu sector coedwigaeth sy'n economaidd lewyrchus yng Nghymru? OAQ53652
Andrew RT Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr asesiad effaith amgylcheddol mewn cysylltiad â llosgydd y Barri? OAQ53655
Andrew RT Davies: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn ymateb i benderfyniad yr Uchel Lys heddiw ynghylch yr ymchwiliad o dan arweiniad Cwnsler y Frenhines i ddiswyddo Carl Sargeant? 293
Andrew RT Davies: Trefnydd, a gawn ni ddatganiad—rwy'n amau mai atoch chi yr wyf yn cyfeirio hyn, ond byddaf yn derbyn eich cyfarwyddyd chi yn ôl ataf innau—ynghylch yr hysbysebu masnachol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda gorsafoedd radio lleol? Yn fy ardal fy hun, mae gennyf dair gorsaf radio lleol, ac mae pobl yn tanysgrifio iddyn nhw’n dda, ydyn maen nhw. Mewn gwirionedd, mae Bro Radio, sydd...
Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o'r prosiectau, yn amlwg, a nodir yn y fargen ddinesig yw'r cysylltiad rhwng cyffordd 34 a'r A48 yn Sycamore Cross. Mae hon yn fargen sydd wedi bod ar y bwrdd ers cryn amser, y gwelliant hwn, ac, fel y gallwch ddeall, mae llawer o drigolion yn pryderu am y cynigion—yn enwedig y malltod tai a achoswyd gan rywfaint o'r diffyg penderfyniadau ynghylch...
Andrew RT Davies: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ53654
Andrew RT Davies: Nac ydych.
Andrew RT Davies: Felly, rydych yn dweud bod Prif Weinidog Cymru yn anghywir.
Andrew RT Davies: Ni allwn gytuno mwy â'r teimladau a fynegwyd gan yr Aelod dros Ogwr. Nid oes yr un ohonom eisiau gweld sefyllfa o aflonyddwch sifil yn digwydd. Mewn ymateb i'r cwestiynau gan lefarydd y Ceidwadwyr, y credwn eu bod yn ddilys iawn, er tegwch, gallwn ddadlau ynghylch beth sy'n digwydd ar ben arall yr M4, ond cwestiynau'r Cynulliad yw'r rhain, a'r bore yma mae dau safbwynt wedi datblygu o fewn...