Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Byddai un datganiad gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ar fater erydiad tir y tu ôl i derasau'r Cymoedd lle y ceir hen lonydd heb eu mabwysiadu ochr yn ochr â chyrsiau dŵr, sy'n bygwth erydu nid yn unig y lonydd ond gerddi cefn eiddo preifat. Felly, yng Nghaerau yn fy etholaeth i, mae gennym ni res o dai teras â'u cefnau tuag at gwrs dŵr o'r fath a lôn...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor, a'n haelod newydd yn ogystal, am eu cyfraniadau heddiw, ond hefyd i John a'i gadeiryddiaeth am fynd â ni'n ôl i edrych ar y mater hwn y mae rhagflaenwyr ar y pwyllgor hwn, o dan ei stiwardiaeth, wedi edrych arno—y materion hyn a materion ehangach yn ymwneud ag ef yn ogystal? Rwy'n credu ei fod yn werth ei wneud, oherwydd...
Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o honiadau llawfeddyg cyffredinol yr Unol Daleithiau nad yw e-sigaréts yn ddiogel i bobl ifanc?
Huw Irranca-Davies: Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol nad oes gennyf i, na llawer o fy nghyd-aelodau yn y fan yma sydd o gymoedd y De—y dewisiadau ar gyfer trenau mewn llawer o'r cymoedd hyn; y bws yw'r un allweddol bwysig os ydym ni eisiau annog pobl i wneud y newid moddol hwnnw i gludiant cyhoeddus, gyda'r cynnydd mewn newid yn yr hinsawdd, ond ffordd wahanol o deithio hefyd. Ond y realiti, rwy'n credu, yw...
Huw Irranca-Davies: 7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau bysiau yng nghymoedd de Cymru? OAQ55092
Huw Irranca-Davies: A gawn ni ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ddiogelu dyfodol twrnamaint rygbi'r chwe gwlad ar sianeli gwylio am ddim? Mae'r gystadleuaeth anhygoel hon, perl rygbi rhyngwladol, yn wynebu'r bygythiad gwirioneddol o ddiflannu y tu ôl i wal dalu. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi dosbarthu'r chwe gwlad fel digwyddiad o bwys cenedlaethol ar yr ail haen. Bydd modd ei ddarparu y tu ôl i wal dalu...
Huw Irranca-Davies: Pwynt difrifol go iawn, y tu hwnt i'r dadwrdd gwleidyddol ac ati, pwynt dilys, a chyn y ddadl y prynhawn yma: a fyddai’n cytuno bod angen i unrhyw bolisi yn y dyfodol ar bysgodfeydd, y tu hwnt i’r sloganau ynghylch adfer ein rheolaeth ar ein pysgodfeydd, gydymffurfio â’r dystiolaeth wyddonol ar gynnyrch cynaliadwy mwyaf? Hoffwn awgrymu mai’r rheswm am hynny yw y byddwn yn dihysbyddu...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gwasanaethu fy etholwyr o ardaloedd Llanharan a Gilfach Goch ac Evanstown, er bod Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd hefyd o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach, yn hanfodol bwysig i'r rheini ac i etholwyr eraill. Felly, er na all yr un ohonom, fel Aelodau cyfrifol o’r Senedd, anwybyddu goblygiadau...
Huw Irranca-Davies: Mae hynny'n newyddion da iawn i'w glywed. Mae'n rhaid fod y Gweinidog yn teimlo mor rhwystredig â minnau pan awn i'r archfarchnadoedd sy'n brolio am yr holl waith da a wnânt ar leihau'r defnydd o blastig ac rydym yn dal i weld eiliau ffrwythau a llysiau yn llawn ffrwythau a llysiau wedi'u pecynnu mewn plastig. Mae'n ddiddorol nodi heddiw fy mod newydd weld sefydliad o'r enw Plastic Expiry,...
Huw Irranca-Davies: Weinidog, rwy’n croesawu’r sylw hwnnw nad yw pob fferm yn llygru ac rwyf wedi cael sylwadau gan ffermwyr yn fy etholaeth fy hun, sydd, fel y gwyddoch, yn cynnwys ffermydd teuluol llai o faint yn bennaf gyda chymysgedd o ddefaid a da byw a rhywfaint o dir âr, a nodwedd arall arnynt yw'r fioamrywiaeth ehangach sy'n perthyn i ffermydd cymysg llai o faint. Nawr, maent yn rhannu dyhead...
Huw Irranca-Davies: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phlastigau untro? OAQ54986
Huw Irranca-Davies: Nawr yn fwy nag erioed dylem atgoffa ein hunain y bydd pob math o gasineb a dad-ddynoli'r Llall, o'u gadael yn ddiwrthwynebiad, yn tanseilio gwerthoedd democrataidd a hawliau dynol, a byddant yn bwydo eithafiaeth dreisgar. Ni allwn ni fforddio byw mewn cymdeithasau lle mae pobl yn poeni am eu diogelwch ac yn dioddef gwahaniaethu a lle gwedir eu hawliau iddynt bob dydd, am ddim rheswm arall...
Huw Irranca-Davies: Sylwaf, yn y datganiad i'r wasg a oedd yn atodi'r diweddariad hwnnw yr wythnos diwethaf, ei fod yn sôn y bydd yn symud ymlaen, yn y cam nesaf, i ganolbwyntio ar y dull rhanbarthol. Bu llawer o'r pwyslais ar hyn o bryd ar y safle ei hun, yr etifeddiaeth, y gronfa gymunedol a fydd ar ôl, a ddylai, mae'n rhaid i mi ddweud—rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod Carwyn a minnau yn cytuno—fod mor...
Huw Irranca-Davies: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gyfarfod diweddaraf Tasglu Ford Pen-y-bont ar Ogwr? OAQ54985
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Huw Irranca-Davies: Cyn i'r Gweinidog orffen ei sylwadau, roeddwn am grybwyll rhywbeth nad yw wedi cael sylw heddiw. Tybed a yw wedi cael amser i gael unrhyw eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r effaith ar gyflogwyr Cymru? Oherwydd yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, ceir gordal am weithwyr haen 2 o'r tu allan i'r UE sy'n dod i'r DU—o'r tu allan i'r UE, sef yr hyn a fydd i gyd bellach—gordal sgiliau...
Huw Irranca-Davies: Mae wedi bod yn ddadl ddiddorol y prynhawn yma eisoes. Mae'n fy atgoffa o'r dyfyniad gan ddyn a aned yn 1911, Max Frisch, a ddywedodd: Gofynasom am weithwyr. Cawsom bobl yn lle hynny. Daw pobl â'u diwylliannau eu hunain, eu diddordebau a'u safbwyntiau eu hunain, a deuant â thapestri cyfoethog a dwfn o'u cefndir eu hunain a'u hanghenion teuluol gyda hwy. Nid dod yma fel gweithwyr yn unig a...
Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r risgiau i'r trefniadau datganoli yng Nghymru yn sgil Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)?
Huw Irranca-Davies: Diolch am ildio. Fel y gwnaethoch chi ei nodi, yn y gwaith a wnaed ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac atal, ond hefyd ar gam-drin domestig, yn wir mae'r heddlu yn bendant yn gweithio o fewn fframweithiau polisi sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru. Does gen i ddim rheswm i ragweld y bydden nhw'n gweithio mewn unrhyw ffordd wahanol gyda hyn.
Huw Irranca-Davies: A gawn ni ddatganiad neu ddadl ynghylch ddarparu triniaethau priodol ar gyfer anhwylderau personoliaeth ffiniol mewn modd cyson ledled Cymru? Mae etholwr huawdl a hyddysg iawn wedi cysylltu â mi—yn wybodus drwy brofiad personol a drwy ymchwil academaidd—sydd wedi codi'r anhawster o gael therapi ymddygiad dialectig, DBT, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Morgannwg Cwm Taf, ac mae wedi holi...