Mark Reckless: Aeth y Prif Weinidog i'r Unol Daleithiau i hyrwyddo cytundeb masnach rydd rhwng y DU a'r Unol Daleithiau. Daeth yn ôl yn dweud wrthym fod yn rhaid i ni ei adael i'r UE. Onid y gwir yw bod ei bolisi o undeb tollau newydd gyda'r UE yn cynnig y gwaethaf o'r ddau fyd, o'r safbwynt na fyddai gennym ni bolisi masnach annibynnol ac eto ni fyddai gennym ni unrhyw ddylanwad a dim pleidlais dros...
Mark Reckless: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo masnach Cymru ag Unol Daleithiau America? OAQ51877
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A yw'n ymwybodol, ar gyfartaledd, bob tro y bydd menyw'n prynu bra, fod yn rhaid iddi dalu treth o £1 i'r Undeb Ewropeaidd, er nad ydym yn cynhyrchu bras yn y wlad hon?
Mark Reckless: A yw'r Aelod yn derbyn bod aelodaeth o undeb tollau'r UE hefyd yn galw am fod yn aelod o'r UE a'i strwythurau cyfreithiol, ac anwybyddu canlyniad y refferendwm a'r modd y pleidleisiodd Cymru?
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: Arweinydd y tŷ, rwyf wedi cael gwybod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn gohirio'r broses o osod band eang cyflym iawn drwy godi ffioedd cynllunio gormodol a rhenti tir am y blychau cyflym iawn. Mae hyn yn peryglu darpariaeth gyflym iawn, nid yn unig yng Nghaerffili, gan gynnwys Islwyn, ond mewn ardaloedd cyfagos yn ogystal. A fyddech yn sicrhau bod Caerffili yn rhoi'r gorau i beryglu...
Mark Reckless: Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, mae diddordeb arbennig gen i yn y rhwydwaith Seren i gefnogi dysgwyr abl a thalentog i fynd i'r brifysgol, fel y byddwch yn ymwybodol o bosibl o nifer fy nghwestiynau ysgrifenedig ar y—[Torri ar draws.] Diolch. Yn gyntaf, hoffwn i ofyn a ydych chi wedi cynnal unrhyw asesiad o'r gwersylloedd haf y mae rhai o'r prifysgolion mwyaf blaenllaw yn eu cynnig, gan...
Mark Reckless: Dywedodd y Prif Weinidog wrthym yn 2015 y byddai'r prosiect yn costio, a dyfynnaf, 'ddim yn agos at £1 biliwn.' Mae'n debyg, mewn un ystyr, bod hynny'n gywir gan y nodwyd bod y gost tua £1.4 biliwn erbyn hyn. Os bydd y Cynulliad yn cefnogi'r llwybr du yn y bleidlais yr ydym ni'n mynd i'w chael nawr, sut gallwn ni ymddiried yn Llywodraeth Cymru i'w ddarparu am gost dderbyniol pan nad ydych...
Mark Reckless: 1. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ar ôl cyrraedd pa gost y bydd Llywodraeth Cymru'n edrych ar ddewisiadau amgen i gynlluniau arfaethedig presennol ar gyfer ffordd liniaru'r M4? OAQ51826
Mark Reckless: Lywydd, a gaf fi ymddiheuro am yr anghwrteisi o fod wedi methu cwestiwn yn y sesiwn flaenorol? Nid wyf yn siŵr a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi bod gyda David Melding a Jane Hutt yn darllen yr adroddiadau hyn, ond efallai y gall ddweud wrthym hefyd a fydd yr adroddiad ar ddatgelu answyddogol neu fel arall ar yr ad-drefnu yn cael ei gyhoeddi, o ystyried ei ymrwymiad newydd i fod yn agored a...
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno â'r Ysgrifennydd dros gyllid bod bendant angen i ni edrych yn fanylach ar y dreth dir gwag hon. Mae'n dweud y byddai'r dreth dir gwag yn gymwys i dir sydd eisoes wedi'i nodi fel tir sy'n addas i'w ddatblygu. Ai goblygiadau hynny felly yw ei fod yn dir sydd wedi ei nodi yn y CDLl, ac os felly, a yw'n briodol mewn gwirionedd, o ran y rhagolwg 15, 20 mlynedd sydd...
Mark Reckless: Prif Weinidog, pan es i â phwyllgor Cynulliad i Ddulyn a chyfarfod y Taoiseach, dysgais sut mae Iwerddon yn elwa ar £2 biliwn oherwydd mynediad breintiedig at ein marchnadoedd cig eidion a chynhyrchion llaeth yn yr undeb tollau, gyda chwarter ein cig eidion yn dod o Iwerddon. Onid yw'n wir mai ein dewis ni y tu allan i undeb tollau fyddai masnachu'n rhydd a phrynu cig eidion yn rhatach o...
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A gaf fi ofyn, o ystyried termau'r cynnig, yn ogystal â'r ddadl, a yw'n ceisio pleidlais ar y mater hwn?
Mark Reckless: A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn croesawu'r newidiadau arfaethedig, yn enwedig y cyfle y gallent ei gynnig ar gyfer ehangu'r ystod economaidd-gymdeithasol o bobl a dderbynnir i'r proffesiwn? Un o anfanteision y system gyfredol yw bod pobl yn dechrau eu cwrs cyfnewid ac yn darganfod bod nifer o'r cwmnïau mwyaf eisoes wedi cau eu prosesau recriwtio ym mis Gorffennaf am ddwy flynedd. Oni fyddai'r...
Mark Reckless: Hoffwn innau ddymuno pob lwc oddi wrth y grŵp Ceidwadol i Glwb Pêl-droed Casnewydd wrth iddynt chwarae yn Wembley heno. Efallai y gall perfformiad Abertawe neithiwr eu hysbrydoli. O gofio bod Rodney Parade ym mherchnogaeth Undeb Rygbi Cymru ers diwedd y llynedd, a wnaiff Llywodraeth Cymru gynorthwyo Clwb Pêl-droed Casnewydd a'r Dreigiau i barhau i rannu'r cae chwarae...
Mark Reckless: Buaswn yn cytuno â chi ar hynny, a chredaf fod amgylchiadau geni a'r ffordd y mae'r system iechyd yn ei gefnogi yn caniatáu hynny. Mae ein baban bellach yn wyth mis oed, ond pan roddodd fy ngwraig enedigaeth ym mis Mai y llynedd, cawsom ein synnu'n fawr gan ansawdd y ddarpariaeth a chymaint a gawsom o ran ymweliadau gan y fydwraig a faint o ryngweithio a gawsom cyn cael ein rhyddhau o'r...
Mark Reckless: Cytunaf â Michelle Brown mai un o'r elfennau sy'n peri penbleth—i mi o leiaf—am yr ymchwiliad oedd ceisio deall pam y caeodd yr uned mamau a babanod a oedd wedi bod yn weithredol yn Ysbyty Mynydd Bychan yng Nghaerdydd tan 2013. Nid wyf yn teimlo ein bod wedi mynd i wraidd y meddylfryd a'r cyfiawnhad dros wneud hynny ar y pryd, yn ddigonol i fy modloni i, o leiaf. Yn sicr roedd yn...
Mark Reckless: Prif Weinidog, cefais y fraint yr wythnos diwethaf o fynd i uwchgynhadledd twf Hafren, a drefnwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan wir geisio sicrhau cymaint o fanteision â phosibl y gallwn eu cael pan fydd tollau pont Hafren yn cael eu diddymu ddiwedd y flwyddyn. Prif Weinidog, beth ydych chi a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ein bod ni yng Nghymru yn cael cymaint o...