Alun Davies: Rydych chi newydd ddweud ei fod yn sylw ofnadwy o ran sôn am Gasnewydd. Roeddwn yn canolbwyntio yn fy sylwadau ar bobl Blaenau Gwent, yr wyf yn eu cynrychioli.
Alun Davies: Siaradodd Rhun ap Iorwerth am lwyddiant llinell Cwm Ebwy, ac mae'n llygad ei le yn gwneud hynny, ac, wrth gwrs, byddai fy nghyfaill yn siarad am linell Maesteg, a byddai cyfaill arall yn sôn am linell Bro Morgannwg. Mae gennym ni'r llwyddiannau gwirioneddol yma i'w dathlu, ond mae angen inni hefyd—.Os yw'r llinellau yma a ail-agorwyd i barhau i fod yn llwyddiant yn y dyfodol, mae angen...
Alun Davies: Rwyf eisiau dechrau fy sylwadau'r prynhawn yma drwy groesawu'n fawr iawn y sylwadau a wnaed gan y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol yn y ddadl hon. Credaf ei bod hi'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i roi ein cefnogaeth lwyr i Lywodraeth Cymru wrth iddi gyfrannu at adolygiad Williams a gwneud yn siŵr fod gennym ni setliad sy'n addas i'w bwrpas. A phan rwy'n dweud, 'setliad sy'n addas i'w...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am eich datganiad, Gweinidog, ac rwy'n croesawu'r pwyslais ar alluogi'r gallu i gyflenwi mwy o dai cymdeithasol. Credaf fod hynny'n gwbl hanfodol i ddatrys llawer o'r materion yr ydych wedi eu trafod y prynhawn yma. Ond hoffwn i hefyd ofyn eich barn am gyfeirio at bobl ddigartref fel bodau dynol, ac nid yn unig fel niferoedd ac ystadegau. A oes gan y Llywodraeth...
Alun Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am drafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent?
Alun Davies: A dyna'r cytundeb y mae eu Llywodraeth eu hunain yn gofyn inni ei gefnogi. Fe ildiaf.
Alun Davies: Edrychwch, nid wyf yn mynd i amddiffyn safbwynt y Blaid Lafur yn San Steffan am un eiliad. Roedd y bleidlais ddydd Llun ar y Bil mewnfudo yn anrhefn llwyr; roedd yn warthus. Dylai'r Blaid Lafur wynebu hyn ar sail ein gwerthoedd a'n hegwyddorion ac nid ar sail hwylustod, a chafwyd llawer gormod o hynny gan ein mainc flaen yn Llundain, ac rwy'n gresynu at hynny hefyd, ac rwyf wedi bod yn glir...
Alun Davies: Eisteddwch. Eisteddwch. Gadewch imi ddweud wrthych—gadewch imi ddweud wrthych—fod y pleidleisiau hynny wedi'u prynu ag oel nadredd, ac fe'u prynwyd â ffantasi. A gadewch imi ddweud hyn wrthych—gadewch imi ddweud hyn wrthych—wrth wrando ar gynghreiriaid agosaf a ffrindiau'r wlad hon yn siarad gydag arswyd ynghylch yr hyn a welant, rwy'n cymryd sylw a dylech chithau hefyd. Dylai...
Alun Davies: Lywydd, rydym wedi clywed o wahanol rannau o'r Siambr y prynhawn yma nifer fawr o resymau pam rydym yn y llanastr rydym ynddo heddiw. Ond ni chlywsom gan unrhyw un o'r rhai—ni chlywsom gan unrhyw un—a ddadleuodd dros adael yr Undeb Ewropeaidd unrhyw gydnabyddiaeth mai'r celwyddau a ddywedwyd yn y refferendwm hwnnw a arweiniodd yn uniongyrchol at danseilio ein gwleidyddiaeth heddiw a'r...
Alun Davies: Diolch i chi. Roedd y dystiolaeth a gynigiodd Llywodraeth Cymru i gomisiwn Thomas yn glir iawn. Roedd yn ystyried bod yr awdurdodaeth yn grair o'r adegau a fu ac yn rhwystr rhag cyflawni cyfiawnder cymdeithasol yn y wlad hon heddiw. A wnewch chi ddatgan yn ddigamsyniol yn awr eich bod yn glynu wrth y dystiolaeth honno—tystiolaeth y Cwnsler Cyffredinol, y dystiolaeth a roddais fel...
Alun Davies: Maent wedi lansio nifer o gynlluniau dros nifer o flynyddoedd, ond maent yn cydnabod na allant gyflawni eu hamcanion polisi drwy'r cynlluniau hynny yng Nghymru am nad oes gennym setliad sy'n eu galluogi i wneud hynny. Maent yn ymwybodol iawn na ellir cyrraedd eu hamcanion o dan y setliad presennol—maent yn ymwybodol iawn o hynny. Felly, mae angen inni ddylunio system sy'n diwallu anghenion...
Alun Davies: Ydym. Nid wyf yn credu fy mod wedi amodi fy ngeiriau mewn unrhyw ffordd o gwbl. Yn sicr nid yw Llywodraeth Cymru wedi amodi ei geiriau o gwbl. Yr hyn a ddywedodd Llywodraeth Cymru yw bod yn rhaid gwneud hyn fel rhan o broses. Nid yw wedi amodi ei chefnogaeth i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol. Mae angen inni ddatganoli ac uno'r maes polisi wedyn. Mae angen inni sicrhau bod gennym...
Alun Davies: Rwy'n credu bod pawb ohonom yn rhannu diolch i Ganolfan Llywodraethiant Cymru am y gwaith y maent yn ei wneud yn yr adroddiadau a'r dadansoddiadau a gyhoeddwyd ganddynt, ond hefyd am gyhoeddi ystadegau ar gyfer Cymru a dealltwriaeth o'r ystâd ddiogeledd, a sut y mae'r gwasanaeth carchardai a phrawf yn gweithio ac yn gwasanaethu Cymru. Gyda'i gilydd, mae'r holl waith hwn yn disgrifio system...
Alun Davies: [Anghlywadwy.]—mwy na thebyg eich bod ofn dadl.
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gweinidog, hoffwn ofyn am dri datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda. Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar reoli traffig trefol. Bûm mewn cyfarfod cyhoeddus yn fy etholaeth i yn Beaufort nos Wener, ac fe'm syfrdanwyd i glywed pobl yn siarad yno am y peryglon y maen nhw'n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd ar hyd y ffyrdd drwy'r gymuned. Clywais...
Alun Davies: Efallai eich bod yn dweud hynny, ond nid wyf yn siŵr ei bod hi'n ddadl sy'n argyhoeddi'n llwyr, ond fe gawn y ddadl honno. Felly, beth a wnawn fel ymateb? Ni chredaf ei bod hi'n ddigon da, a bod yn onest, i Lywodraeth Lafur fodloni ar wneud wynebau ar y Ceidwadwyr a rhoi'r bai ar gyni am ein holl broblemau. Un o'r problemau sy'n rhaid inni eu hwynebu ac un o'r profion sy'n rhaid inni eu...
Alun Davies: Fe gymeraf ymyriad.
Alun Davies: Rwy'n falch eich bod wedi gallu ymuno â ni yn y ddadl hon, Darren, a chan fy mod yn siarad am sgwrs aeddfed, mae Darren yn dangos yn union yr hyn nad oeddwn yn ei olygu. [Chwerthin.] Felly, rydym wedi gwario arian a llwyddodd y Ceidwadwyr yn y cylch cyllidebol hwn i wneud rhywbeth na lwyddodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru hyd yn oed i'w wneud—rwyf wedi digio Kirsty yn awr—sef gwario pob...
Alun Davies: A gaf fi ddweud cymaint rwy'n edrych ymlaen at ymuno â'r ddadl hon? Mae'r newid a'r twf yn y Cynulliad Cenedlaethol o gorff a oedd, i raddau helaeth, ond yn gweinyddu'r sector cyhoeddus pan y'i sefydlwyd yn 1999 i Senedd sy'n llywodraethu ein gwlad yn un a fydd yn profi pob un ohonom mewn gwahanol ffyrdd. Ac mae'r Ceidwadwyr i'w canmol am gychwyn y prawf hwnnw y prynhawn yma. Nid wyf yn...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Heb ddymuno gwthio llais y Cwnsler Cyffredinol yn hir y prynhawn yma—. Roeddwn yn myfyrio, wrth wrando ar yr Aelod dros Orllewin Clwyd, yn gwneud ei orau i ymddangos fel cynrychiolydd San Steffan yn y fan yma, yn sôn, mewn modd cwbl anghyfrifol, yn fy marn i, am y modd y gallai ein cymunedau ni, cymunedau yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli ar bob ochr o'r...