Llyr Gruffydd: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed mewn trafodaethau ar Brexit rhwng llywodraethau’r DU?
Llyr Gruffydd: Roeddwn i'n awyddus, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, i wneud cyfraniad i'r ddadl yma ac i amlygu, a dweud y gwir, y gwaith y mae'r pwyllgor wedi'i wneud, wrth gwrs, ar y mater yma, oherwydd llynedd fe gynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i asesu'r paratoadau ar gyfer yr hyn a fydd yn disodli ffrydiau cyllido yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru, gan ein bod ni, fel nifer o Aelodau yn y Siambr...
Llyr Gruffydd: Mi ddes i y prynhawn yma o gyfarfod y grŵp trawsbleidiol dwi'n ei gadeirio ar ynni cynaliadwy, lle clywon ni am ffynonellau buddsoddi posib mewn isadeiledd ynni carbon isel. Hefyd, mi glywon ni eto am waith y Sefydliad Materion Cymreig, yr IWA, ar ailegnïo Cymru—re-energising Wales. Nawr, mae hwnnw'n cynnig llwybr i ddatgarboneiddio ynni yng Nghymru erbyn 2035, a dwi yn teimlo bod yna...
Llyr Gruffydd: Gaf i ddiolch i Joyce Watson am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl yma? Ro'n i'n gwrando'n astud ar y sylwadau ynglŷn ag ailwylltio—os mai dyna yw'r term Cymraeg am rewilding. Yn amlwg, mae ailgyflwyno rhywogaethau yn bwnc sydd yn amserol yng Nghymru, ond dwi yn meddwl bod yna ragor o waith angen ei wneud i berswadio pobl bod ailwylltio ehangach, efallai, yn sicr yn rhywbeth y byddai pobl am ei...
Llyr Gruffydd: Gwrandewch, ac rwyf am eich cyfeirio at refferendwm yr Alban ar annibyniaeth. Roedd Papur Gwyn 700 tudalen y tu ôl i'r papur pleidleisio hwnnw a oedd yn dweud wrth bobl beth yn union y gallent ei ddisgwyl pe baent yn pleidleisio dros annibyniaeth yn yr Alban. Y cwbl a gawsom gyda Brexit oedd slogan ar ochr bws, ac wrth gwrs, mae'r rhai a oedd yn gyfrifol am y slogan hwnnw'n cael eu galw i...
Llyr Gruffydd: Na, ni wnaf, oherwydd mae gennyf lawer i'w ddweud. Rhowch gynnig arall arni'n nes ymlaen, iawn? [Chwerthin.]
Llyr Gruffydd: Brexit meddal, Brexit caled, Brexit â chytundeb, Brexit heb gytundeb, Brexit masnach rydd—mae yna protectionist Brexit—
Llyr Gruffydd: —Brexit agored, Brexit senoffobig, opsiwn Canada, Norwy a mwy, opsiwn Ukrain, opsiwn y Swistir, opsiwn Twrci. Rwy'n deall bod yna Brexit Torïaidd yn rhywle. Mae yna Brexit y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd yn sicr. Mae yna Brexit Jeremy Corbyn, mae yna Brexit UKIP, mae yna Brexit Plaid Brexit, mae yna Brexit 'coch, gwyn a glas', mae'n debyg, ac mae yna Brexit 'Mae Brexit yn golygu Brexit'....
Llyr Gruffydd: Y broblem sydd gyda fi, wrth gwrs, yw dyw hi ddim yn glir o gwbl beth oedd Brexit yn ei feddwl, pa fath o Brexit oedd pobl yn gallu ei ddisgwyl ar ôl y refferendwm, ac felly roedd yna vacuum, onid oedd? Ac yn ystod yr ymgyrch—ac yn sicr ers hynny—mae pob Brexiteer wedi rhyw fath o brojecto eu fersiwn nhw o Brexit ar y papur pleidleisio oedd pobl yn ei farcio yn y blychau...
Llyr Gruffydd: Fel rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, mesur dros dro oedd y mesur o roi bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i mewn i fesurau arbennig i fod. Bedair blynedd yn ddiweddarach, wrth gwrs, maen nhw dal yno. Gallaf ddweud wrthych chi, Gweinidog, dyw trigolion gogledd Cymru bellach ddim yn ystyried y mesur yna fel rhywbeth dros dro, a dyw pobl gogledd Cymru bellach ddim yn ystyried mesurau arbennig yn...
Llyr Gruffydd: Pa waith ychwanegol mae'r Gweinidog yn ei wneud o fewn y sector addysg mewn ymateb i ddatganiad argyfwng hinsawdd Llywodraeth Cymru?
Llyr Gruffydd: Ychydig funudau yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog wrthym ni o ran penderfyniad yr M4, a dyfynnaf o'i ddatganiad, Llywydd, penderfyniad yw hwn a wneir pan mae'r ansicrwydd mwyaf ynglŷn â'n dyfodol ariannol. Mae cyni na welwyd ei debyg o'r blaen ym maes cyllid cyhoeddus yn cyfuno â diffyg eglurder llwyr o ran ein cyllidebau cyfalaf am y blynyddoedd i ddod, a gwaethygir hynny gan yr...
Llyr Gruffydd: Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, mi fydd angen edrych mewn manylder ar y dogfennau atodol sydd hefyd wedi cael eu cyhoeddi heddiw cyn ein bod ni'n gallu dod i gasgliad llawn ynglŷn â rhai o'r newidiadau y mae'r Gweinidog yn cyfeirio atyn nhw. Yn amlwg, mi fydd llawer o'r manylion yn yr ymgynghoriad fydd yn ymddangos mis nesaf, felly mi edrychwn ni ymlaen...
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, os caf i? Mae llawer ohonom ni'n pryderu fwyfwy am y preifateiddio graddol yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rwy'n poeni'n arbennig am y sefyllfa ym mwrdd Betsi Cadwaladr yn fy rhanbarth i, yng Ngogledd Cymru, sydd, wrth gwrs, o dan reolaeth uniongyrchol y Llywodraeth Lafur hon ar hyn o bryd. Y llynedd, rwy'n siŵr y cofiwch, ymgyrchodd...
Llyr Gruffydd: Gaf i ofyn i'r Trefnydd am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth? Yn y lle cyntaf, wrth gwrs, byddwn ni i gyd yn ymwybodol bod nifer fawr o ddinasyddion o'r Undeb Ewropeaidd wedi methu pleidleisio yn ystod yr etholiad Ewropeaidd diweddar. Mae hynny, wrth gwrs, yn destun gofid i bob un ohonom ni. Rwy'n gwybod bod o leiaf 3,500 wedi gwneud cwyn swyddogol, ar draws y Deyrnas Unedig, eu bod nhw wedi...
Llyr Gruffydd: Mi ddywedoch chi yn eich ateb cychwynnol fod yna drafodaeth barhaus rhyngoch chi a Gweinidogion eich Cabinet chi ar y mater yma. Wrth gwrs, holl fwriad datgan argyfwng hinsawdd yw er mwyn newid gêr ac er mwyn sicrhau bod mwy yn digwydd. Felly, ga'i ofyn pa orchymyn, neu instruction, ŷch chi wedi ei roi i'ch Gweinidogion chi ynglŷn â sut mae datgan argyfwng hinsawdd yn mynd i newid eu...
Llyr Gruffydd: Nid yn unig un parsel yn troi i fyny mewn fan, ond yn aml iawn mae yna un aelod o staff neu un—
Llyr Gruffydd: Nid dim ond un parsel yn troi i fyny mewn cerbyd, ond yn aml iawn mae yna unigolion yn troi i fyny mewn cerbydau, boed yn staff neu Aelodau yma hefyd. A gaf i ofyn, felly, yng ngoleuni'r ffaith bod y Cynulliad yma wedi datgan argyfwng newid hinsawdd, fod y Comisiwn yn edrych ar bolisïau cludiant ehangach yn y lle yma ac yn gwneud mwy i annog mentrau sydd nid yn unig yn annog Aelodau i...
Llyr Gruffydd: Diolch i mi—diolch i chi am eich ateb, yn hytrach na diolch i fi am y cwestiwn. [Chwerthin.] Diolch i chi am eich ateb. Mae'n ddiddorol eich bod chi'n cyfeirio at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, oherwydd mi wnaeth y Gweinidog, yn gynharach yr wythnos yma, gyhoeddi dyraniadau cronfa trafnidiaeth leol Cymru, sy'n gronfa o bron i £33 miliwn. Dim ond £3.6 miliwn sy'n cael ei ddyrannu i...
Llyr Gruffydd: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu arian cyfalaf ar gyfer Gogledd Cymru? OAQ53926