Mark Drakeford: Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol da i ddynion drwy amrywiaeth o strategaethau a rhaglenni iechyd cyhoeddus sy'n bodoli eisoes. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, ein strategaeth atal hunanladdiad a chamau gweithredu i hyrwyddo ymwybyddiaeth gynnar o ganser y brostad a chlefyd y galon.
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Darren Millar, fod gennym ni lawer o gymunedau ffydd yma yng Nghymru sydd â chysylltiadau pwysig â chymunedau mewn mannau eraill yn y byd, ac sy'n cyflwyno cyfleoedd gyda'r cysylltiadau hynny i gyfoethogi dealltwriaeth pobl ac i ddatblygu'r cysylltiadau hynny rhwng pobl er budd pob un ohonom. Fodd bynnag, rwy'n credu bod gan y strategaeth...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr i Heledd Fychan. Y pwynt mae hi'n ei godi yn un pwysig, ac wrth gwrs dwi'n cytuno â beth ddywedodd hi pan oedd hi'n darllen beth oedd yn y Western Mail. Rŷn ni wedi bod yn gwneud pethau yn barod, wrth gwrs, gyda'r FAW, i baratoi am Gymru yn mynd i Qatar. Ces i gyfle i gwrdd â'r ambassador o Qatar, a oedd wedi dod i Gymru wythnos diwethaf, ac dwi'n cwrdd ag ambassador y...
Mark Drakeford: Diolch i Heledd Fychan am y cwestiwn. Llywydd, cafodd y cynnydd ei nodi yn yr adroddiad blynyddol ar ein rhwydwaith tramor, a gafodd ei gyhoeddi fis diwethaf. Roedd yr adroddiad yn cofnodi canlyniadau yn erbyn y strategaeth o ran codi proffil rhyngwladol Cymru, cefnogi masnach ryngwladol, a sefydlu Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae Ken Skates yn gwneud pwynt pwysig iawn yn y cyfraniad yna ac, fel cyn-Weinidog â chyfrifoldeb am yr economi yma, gallaf weld pam y mae wedi dymuno tynnu sylw at y ffaith, er bod y Llywodraeth hon yn ei chael hi'n anodd ac yn methu â darparu'r mathau o gymorth i bobl sy'n wynebu argyfwng costau byw, ar yr un pryd maen nhw'n colli arian fel y mwg mewn rhai cynlluniau eraill...
Mark Drakeford: Llywydd, mae dros 12,000 o aelwydydd wedi elwa ar y £200 o daliadau cymorth tanwydd y gaeaf yn yr awdurdodau lleol a gwmpesir gan etholaeth yr Aelod. Ym mis Ebrill yn unig, gwnaed dros 2,200 o daliadau o'r gronfa cymorth dewisol yn yr un awdurdodau lleol hynny ac, o'r taliadau hynny, roedd mwy na 90 y cant yn gymorth arian parod ar gyfer bwyd a thanwydd brys.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n dal i gredu, pe bai Cymru a'r Deyrnas Unedig y tu mewn i'r farchnad sengl, y byddai'r holl rwystrau hynny rhag masnachu yr ydym yn eu gweld yn gwneud cymaint o niwed i ddiwydiant gweithgynhyrchu Cymru ac i amaethyddiaeth Cymru, y byddan nhw yn cael eu dileu. Mae'n ffaith anochel bod ein partneriaid masnachu agosaf a mwyaf yn dal i fod yn yr Undeb Ewropeaidd. Nawr,...
Mark Drakeford: Llywydd, nid wyf i'n credu bod unrhyw amheuaeth o gwbl—sut y gellid bod amheuaeth—bod aros yn y farchnad sengl yn cael yr effaith gadarnhaol ychwanegol honno ar yr economi yng Ngogledd Iwerddon. Yma yn y Siambr hon, roedd llawer ohonom o blaid math o Brexit, gan gydnabod a pharchu canlyniad y refferendwm ond yn dymuno math gwahanol o Brexit, Brexit na fyddai wedi bod mor niweidiol i bobl...
Mark Drakeford: Llywydd, mae Adam Price yn iawn, wrth gwrs. Roedd y ffigurau a gyhoeddwyd ddoe yn rhai i beri pryder mawr, ac am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig rydym ni wedi cael dau fis yn olynol pryd y mae cynnyrch domestig gros wedi gostwng, ac, am y tro cyntaf, rydym yn gweld y gostyngiadau hynny ar draws tri phrif sector yr economi: crebachodd y sector gwasanaeth, crebachodd cynhyrchu diwydiannol,...
Mark Drakeford: Tri phwynt wrth ateb y cwestiynau yna, Llywydd. Nid yw'r ffigur gen i o fy mlaen ac nid wyf i eisiau ei ddyfalu o fy nghof. Mae arian yn cael ei wario o'r £375 miliwn, a byddaf yn sicrhau bod gan yr Aelod y ffigur cywir o ran yr hyn sydd wedi ei wario hyd yn hyn ar y gwaith arolygu ac a fydd yn cael ei wario ar y gwaith adfer ac atgyweirio yn ystod gweddill y flwyddyn galendr hon. O ran y...
Mark Drakeford: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt olaf yna: rydym eisiau i'r arian adael Llywodraeth Cymru a gwneud lles yn unol â'i fwriad cyn gynted â phosibl; mae i'w wario dros dair blynedd. A gaf i wneud un pwynt penodol i arweinydd yr wrthblaid? Nid ar gyfer cladin yn unig y mae'r arian hwn, ac mae hyn yn wahaniaeth mawr rhwng y dull yr ydym yn ei fabwysiadu yng Nghymru a'r dull sy'n cael ei...
Mark Drakeford: Diolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna, ac wrth gwrs rwy'n rhannu'r hyn a ddywedodd wrth agor ei gwestiynau y prynhawn yma. Mae'n ddeugain mlynedd ers rhyfel Ynysoedd Falkland. Mae'n iawn ein bod yn defnyddio'r cyfle hwn i feddwl am y bobl hynny a wasanaethodd yn uniongyrchol yn y gwrthdaro hwnnw, ond hefyd am deuluoedd y bobl hynny na wnaethon nhw ddychwelyd o Ynysoedd Falkland....
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n falch o unrhyw gymorth sy'n mynd i'r bobl hynny sydd yn y sefyllfaoedd anoddaf. Ond gadewch i ni fod yn glir gyda'r Aelod fod yr arian sy'n mynd i bobl sy'n dibynnu ar gredyd cynhwysol yn gwneud iawn am y toriad o dros £1,000 a wynebodd yr aelwydydd hynny ym mis Medi y llynedd. Nid ydyn nhw ddim gwell eu byd yn awr nag oedden nhw bryd hynny. Yn syml, adferodd y Canghellor...
Mark Drakeford: Rydym yn eu gweld nhw'n cilwenu.
Mark Drakeford: Rydym yn eu gweld nhw'n cilwenu.
Mark Drakeford: Wel, diolch i Alun Davies am y cwestiwn yna, Llywydd. Roedd yn bleser ymweld gydag ef, yn ôl ym mis Ebrill, â Chanolfan Star yn hen ysgol fabanod Sirhywi yn Nhredegar a gweld y gwaith gwych a oedd yn cael ei wneud fel canolfan ddosbarthu bwyd yn ystod y pandemig yn gyffredinol ac yn awr i ganolbwyntio ar y rhai sydd â'r anghenion mwyaf. Ond mae'r Aelod yn iawn, Llywydd, mai ymweliad gan fy...
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n diolch i Alun Davies am y cwestiwn yna. Mae buddsoddiad parhaus mewn prosiectau bwyd cymunedol, gan gynnwys banciau bwyd, ynghyd â chynlluniau i leihau llwgu yn ystod y gwyliau, ymysg y camau sy'n cael eu cymryd ym Mlaenau Gwent. Fel ardal sydd â lefelau uchel o dlodi mewn gwaith, bydd yn flaenllaw yn ein hymrwymiad i gael prydau ysgol am ddim i bob disgybl oedran cynradd.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n deall yn union y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynghylch natur adeiladu tai mewn rhannau o Gymru; nid yw wedi'i gyfyngu i'r rhan o Gymru y mae'r Aelod yn ei chynrychioli. Ac mae gennym ni awdurdodau lleol sydd wedi cyflwyno cynlluniau i ni sy'n caniatáu i ni eu helpu i fuddsoddi mewn technolegau newydd ac arloesol, fel bod pethau y gellir eu gwneud hyd yn oed lle nad yw...
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt olaf a wnaeth yr Aelod. Yn anffodus, mae'r diwydiant adeiladu yn parhau i ddenu pobl o ran o gymdeithas yn unig yng Nghymru. Ac i fenywod sy'n dymuno gweithio ynddo, yn rhy aml nid yw'n edrych fel y math o le y byddech yn teimlo'n gyfforddus yn gweithio ynddo. Nawr, rwyf i yn gwybod, drwy ein colegau, fod ymdrechion gwirioneddol yn cael eu gwneud i...
Mark Drakeford: Llywydd, mae cyfres o fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo aelwydydd gyda phris cynyddol ynni. Ond mae cyfres o rwystrau, mae arnaf ofn, rhag sefydlu rhaglen frys o insiwleiddio cartrefi. I ddechrau, nid oes gennym y cyfalaf i fod ar gael i Lywodraeth Cymru i gynnal rhaglen o'r fath. Yn rhyfeddol, Llywydd, bydd y cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau dros...