Mike Hedges: Fel pawb arall yn y Siambr, bydd hiraeth arnaf am Steffan. Roeddwn yn eistedd ar y Pwyllgor Cyllid gydag ef ac fe gawsom ni sbort—nid wyf yn siŵr y byddai neb arall yn credu hynny—pan oeddem ni'n trafod y dreth trafodiadau tir a materion traws-ffiniol. Rwy'n siŵr i Steffan a minnau ymdrin â hynny drwy ddeialog rhyngom ni'n dau, er mawr siom i eraill a oedd yn eistedd yn y Siambr. Ei...
Mike Hedges: Y broblem yw tir a chael mynediad at dir, a dyna pam y mae gennych anhawster gyda'r sector hunanadeiladu.
Mike Hedges: Yn gyntaf, a gaf fi groesawu'r ddadl hon a chroesawu hefyd y Papur Gwyn 'Cartrefu Cenedl' gan y Ceidwadwyr? Nid wyf yn cytuno â'r cyfan ohono, ond credaf ei fod yn lle da i ni ddechrau siarad. Nid wyf yn credu ein bod yn trafod agos digon ar dai yn y Cynulliad, ac mae llawer gormod o siarad cyffredinol am dai yn seiliedig ar fod cynnydd mewn prisiau tai yn dda i berchnogion tai a thalwyr...
Mike Hedges: Hoffwn ofyn eto am ddatganiad Llywodraeth ynghylch cymorth ar gyfer staff Virgin Media sy'n cael eu diswyddo yn Abertawe. Ar 4 Rhagfyr, dywedodd eich rhagflaenydd Cynlluniwyd dau gam ar gyfer y flwyddyn nesaf hefyd. Mae ein tîm cymorth lleoliadau wedi cymryd y cyfrifoldeb o roi i'r staff fynediad ar y safle i bartneriaid allweddol y tasglu, gan gynnwys Gyrfa Cymru, Yr Adran Gwaith a...
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb? Mae'r Prif Weinidog yn gwbl ymwybodol mai'r unig adeg ar ôl yr ail ryfel byd pan adeiladwyd tai digonol oedd pan ymgymerwyd â datblygiad tai cyngor ar raddfa fawr—os meiddiaf ddweud, mewn lleoedd fel Trelái. Sut gwnaiff Llywodraeth Cymru helpu cynghorau i gynyddu nifer y tai cyngor a gaiff eu hadeiladu yn y dyfodol?
Mike Hedges: 3. Faint o dai cyngor y mae'r Prif Weinidog yn disgwyl y caiff eu hadeiladu yn y flwyddyn ariannol 2019/20? OAQ53114
Mike Hedges: Mark Drakeford.
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am hynna, ac a gaf innau hefyd ychwanegu fy nymuniadau gorau iddo ar gyfer y dyfodol? Gan gymryd coedwigaeth fel enghraifft, mae gennym ni dargedau hirdymor wedi eu pennu ond ni chyhoeddwyd targedau blynyddol na thargedau ardal. Oni fyddai'n helpu craffu a pherfformiad pe byddai targedau o'r fath yn cael eu pennu a'i cyhoeddi, fel y gallem ni weld y camau ar...
Mike Hedges: 6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu dull Llywodraeth Cymru o bennu targedau ar gyfer yr economi? OAQ53078
Mike Hedges: A gaf fi ddweud yn gyntaf fy mod yn cytuno â phopeth y mae Paul Davies newydd ei ddweud? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno ei bod yn bwysig i bob gwasanaeth cyhoeddus weithio o fewn yr un ôl troed rhanbarthol, sy'n wir am brifddinas-ranbarth Caerdydd, ond nid yw'n wir am ddinas-ranbarth bae Abertawe, ac a yw'n cytuno ei bod yn bwysig sicrhau bod awdurdodau lleol yn dod i arfer â...
Mike Hedges: A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno fod yr ardoll brentisiaethau y mae Llywodraeth y DU yn ymffrostio yn ei chylch bellach wedi'i datgelu am yr hyn ydyw: dim mwy na threth ar gyflogwyr, nad yw wedi gwneud fawr ddim i wella mynediad at brentisiaethau? A fyddai'n cytuno hefyd fod y colegau addysg bellach yng Nghymru yn gwneud gwaith hynod o dda'n hyfforddi prentisiaid er budd ein gwlad?
Mike Hedges: A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod trethiant yn bwysig er mwyn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru? Os caf atgoffa Ysgrifennydd y Cabinet, yn y tair wythnos ddiwethaf, mae'r Ceidwadwyr wedi gofyn am fwy o arian ar gyfer llywodraeth leol, mwy o arian ar gyfer addysg bellach, mwy o arian ar gyfer iechyd. Sut y maent yn bwriadu ei ariannu os nad ydynt eisiau trethiant?
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y gostyngiad mewn termau real yn grant bloc Cymru?
Mike Hedges: A phresenoldeb. [Chwerthin.]
Mike Hedges: Ond nid yw rheolau'r Trysorlys ar fenthyca wedi'u codi'n llawn fel y gallwch chi fenthyg yn erbyn gwerth cyfan y stoc. Os dyna'r hyn y mae David Melding yn ei ddweud, gallaf ddweud wrthych y byddai tai yn cael eu hadeiladu ar raddfa fawr yng Nghymru nawr. Mae'r cap wedi'i godi ond nid yw wedi'i ddileu. Ond efallai gallwn ni drafod hyn mewn man arall. Y peth arall yr oeddwn i am ei ddweud yw...
Mike Hedges: Rwy'n bwriadu gwneud rhai sylwadau cyffredinol ar y gyllideb, yna rhai mwy manwl fel Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Ar y gyllideb, mae hon wedi'i phennu mewn sefyllfa o gyni parhaus. Dylem ni, fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, fod yn cael o leiaf £800 miliwn yn fwy. Ond i'r Ceidwadwyr yn San Steffan, nid yw cyni yn bolisi economaidd, mae'n...
Mike Hedges: Hoffwn i ddweud: a ydych chi'n gresynu’r pleidleisiau a wnaethoch yr wythnos diwethaf a'r wythnos cynt pan roeddech chi'n gofyn am fwy o arian ar gyfer addysg bellach a mwy o arian ar gyfer llywodraeth leol, er mai dim ond o'r gwasanaeth iechyd y gallai hwnnw fod wedi dod?
Mike Hedges: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Mae'r rhain yn rheoliadau pwysig iawn. Dyma'r rheoliadau cyntaf i godi o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad yn 2016. Fel y cyfryw, roedd y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn teimlo ei bod yn bwysig edrych arnynt yn fanwl i sicrhau bod gofynion ac ysbryd Deddf yr amgylchedd yn cael eu symud ymlaen. Mae'r Pwyllgor...
Mike Hedges: Hoffwn wneud dau gais am ddatganiadau Llywodraeth Cymru. Mae'r cyntaf yn un y mae arweinydd y tŷ wedi hen arfer fy nghlywed i'n gofyn amdano, ond nid wyf yn ymddiheuro am barhau i wneud hynny gan ei fod yn hynod o bwysig i'm hetholwyr i a'i rhai hithau, a hynny yw diweddariad ar golledion swyddi Virgin Media a chefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy'n colli eu swyddi, ac...
Mike Hedges: Os oedd pethau mor dda yn 1973, pam wnaeth y Prif Weinidogion yn 1959 a 1973 i gyd geisio ymuno â'r Undeb Ewropeaidd?