Caroline Jones: Prif Weinidog, mae plant personél lluoedd arfog sydd wedi eu hanfon dramor mewn perygl o dderbyn addysg anghyson. Mewn lleoliadau lle nad oes unrhyw ddarpariaeth ysgol swyddogol, mae'r plant hyn yn cael eu hanfon i ysgolion rhyngwladol, efallai na fydd yn dilyn cwricwlwm penodol. O ganlyniad, efallai y bydd y plant ar y blaen mewn rhai meysydd ac ar ei hôl hi mewn eraill. Beth mae eich...
Caroline Jones: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi manwerthwyr annibynnol bach?
Caroline Jones: Gallaf, rwyf wedi gwneud hynny.
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf wedi dewis defnyddio fy nadl fer heddiw i dynnu sylw at y gwaith rhyfeddol a wneir gan elusen nad oes llawer yn gwybod amdani yn fy rhanbarth, Bulldogs Boxing & Community Activities. Mae’r Bulldogs yn defnyddio grym bocsio i gynnwys, addysgu ac ysbrydoli pobl ifanc a’u teuluoedd ar draws Cymru, ac yng Nghastell-nedd Port Talbot yn arbennig, drwy raglen...
Caroline Jones: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac rwy’n falch o gymryd rhan. Mae UKIP yn credu’n gryf y dylai’r GIG barhau mewn dwylo cyhoeddus a bod yn wasanaeth am ddim yn y man darparu am byth. Rydym hefyd yn gwrthwynebu’r bartneriaeth masnach a buddsoddiad trawsiwerydd yn llwyr, ac wedi ymgyrchu’n drwm yn ei herbyn. Cyhyd â bod y claf yn cael ei weld ac yn cael...
Caroline Jones: Rwy'n cefnogi'r bwriad y tu ôl i grŵp Simon o welliannau, ac yn cefnogi y rhan fwyaf ohonynt. Ni allwn, fodd bynnag, gefnogi gwelliant 45. Rydym yn cytuno â'r angen i rybuddio'r cyhoedd am lygredd aer uchel, ond yn credu y byddai’n well i awdurdodau lleol wneud hyn, neu hyd yn oed Llywodraeth Cymru, ond nid byrddau iechyd lleol. Felly, byddwn yn ymatal ar yr un gwelliant hwn, ond yn...
Caroline Jones: Symud yn ffurfiol.
Caroline Jones: Symud yn ffurfiol.
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Rwy’n siomedig, yn amlwg, fod y gwelliannau a gyflwynais wedi eu gwrthod. Rwy'n credu fy mod yn siarad er budd ein henoed ac er budd ein pobl anabl sy'n gwbl ddibynnol ar ddarpariaeth toiledau ar gyfer mynd o gwmpas eu pethau o ddydd i ddydd. Diolch yn fawr.
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Rwy’n dymuno cynnig y gwelliant yn ffurfiol yn fy enw i. Mae gwelliant 39, a gyflwynwyd yn fy enw i, yn ceisio, drwy gyfrwng canllawiau Llywodraeth Cymru, gryfhau strategaethau toiledau lleol drwy wneud y camau y mae'n rhaid i awdurdod lleol eu cymryd yn eglur er mwyn mynd i'r afael â'r angen am doiledau cyhoeddus yn eu hardal leol mewn modd effeithiol ac...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Mae’n amlwg fy mod wedi fy siomi na chafodd y gwelliannau hyn eu cefnogi. Un o'r rhesymau pam fy mod yn siomedig iawn yw fy mod yn credu y dylid defnyddio’r weithdrefn hon am resymau meddygol yn unig. Mae’n ofid gen i y gall rhywun fynd allan a chael tatŵ ar belenni ei lygaid a dioddef cymhlethdodau fel y rhai yr wyf wedi eu rhestru. Rwy’n pryderu hefyd y...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Hoffwn gynnig y gwelliant yn ffurfiol yn fy enw i. Pan wnaethom ni gymryd tystiolaeth i ddechrau ynghylch gweithdrefnau arbennig, mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi fy syfrdanu gan yr amrywiaeth o bethau yr oedd pobl yn ei wneud i'w cyrff. Fodd bynnag, yr un peth a wnaeth fy mhoeni fwyaf oedd tatŵio pelenni’r llygaid. Nid y ffaith bod rhywun yn dymuno chwistrellu inc...
Caroline Jones: Mae UKIP yn cefnogi ymestyn deddfwriaeth ddi-fwg i bob lleoliad lle gallai plant gael eu hamlygu i fwg ail-law, ac felly bydd yn cefnogi gwelliannau'r Gweinidog yn y grŵp hwn. Diolch.
Caroline Jones: Bydd UKIP yn cefnogi'r gwelliannau yn y grŵp hwn. Roeddem yn ei chael hi’n anodd cysoni’r ffaith bod Bil iechyd y cyhoedd yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r her iechyd cyhoeddus fwyaf sy'n wynebu ein cenedl—gordewdra. Fel yr amlygais yn ystod trafodion yr wythnos diwethaf ar ddiabetes, mae'n fater o gywilydd cenedlaethol bod bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru a thraean o...
Caroline Jones: Mae diabetes yn un o'r prif heriau iechyd sy'n wynebu ein cenedl. Mae cymaint ag un rhan o chwech o boblogaeth Cymru yn wynebu risg uchel o ddatblygu’r clefyd, sy'n effeithio ar nifer gynyddol o bobl o gwmpas y byd. Fel y mae datganiad blynyddol o gynnydd Llywodraeth Cymru ei hun yn ei nodi, mae llawer i'w wneud i ymdrin â'r risgiau ffordd o fyw ehangach ar gyfer diabetes ac ymdrin ag...
Caroline Jones: Prif Weinidog, rydym ni’n prysur agosáu at bwynt lle mae gofal cymdeithasol yn anfforddiadwy, ac, oni bai ein bod ni’n cymryd camau brys, rydym ni’n wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol y galla’r system chwalu. Mae Llywodraethau olynol wedi methu â chymryd y boblogaeth sy'n heneiddio i ystyriaeth a chynllunio'n briodol ar gyfer galw yn y dyfodol. Pa drafodaethau ydych chi wedi eu...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Weinidog. Y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant oedd y gwaith ad-drefnu mwyaf ym maes gofal cymdeithasol ers degawdau, â’r bwriad o sicrhau bod y bobl sy'n derbyn gofal a'u gofalwyr wrth wraidd y system. Roedd y newidiadau hyn yn gwbl angenrheidiol. Bu prinder sylweddol o adnoddau ym maes gofal cymdeithasol ac mae’n debygol y caiff ei roi dan...
Caroline Jones: Prif Weinidog, amlygodd adroddiad 2017 y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ‘State of Childe Health’, yr angen am fannau diogel i blant chwarae, er mwyn rhoi sylw i chwarter y boblogaeth plant yng Nghymru sy'n dechrau’r ysgol gynradd yn ordew. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at fannau agored a mannau chwarae, a pha gamau ydych chi’n...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r Pwyllgor Deisebau am eu hadroddiad ar y gwaith a wnaethant i ystyried y ddeiseb hon. Mae canser yr ofari’n taro tua 20 o fenywod bob dydd yn y DU ac yn anffodus, mae’n gyfrifol am oddeutu 248 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn. Mae pawb ohonom yn gwybod bod diagnosis cynnar, yn achos canser, yn golygu mwy o obaith goroesi. Os gwneir diagnosis yn y camau cynnar o...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Dylai lefelau staffio diogel fod yn berthnasol i bob lleoliad. Wrth i ni symud at wasanaeth iechyd sy’n anelu at ddarparu mwy a mwy o wasanaethau yn y gymuned, mae’n rhaid i ni sicrhau nad oes gan dimau nyrsio cymunedol lwyth gwaith gormodol o ran cleifion. Mae nifer y nyrsys ardal sy’n gweithio yng Nghymru wedi gostwng dros 40 y cant yn y...