Mark Isherwood: A wnewch chi ildio? Gan gyfeirio at y sylwadau blaenorol ynghylch ymddiriedolaethau cymunedol, yn y gorffennol, roedd gan Lywodraeth Cymru raglen ar gyfer hyn a gyflwynwyd gyda Keith Edwards yn Sefydliad Tai Siartredig Cymru, pan oedd yn gyfarwyddwr, a gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru. Euthum i lansiad y rhaglen yng Ngorllewin Rhyl, er enghraifft, a châi ei gweithredu ar y cychwyn gan...
Mark Isherwood: Fel y dywed ein hadroddiad, mae tua 27,000 o gartrefi sector preifat yng Nghymru wedi bod yn wag am fwy na chwe mis. Nodwyd gennym fod llawer o berchnogion, 'nad ydynt yn dymuno gweld eu heiddo yn gorwedd yn segur a dylid eu cynorthwyo i’w hailddefnyddio. Pan fydd ymdrechion i fynd i’r afael â’r broblem yn methu’n anffurfiol, mae gan awdurdodau lleol bwerau i ymdrin ag eiddo gwag;...
Mark Isherwood: Wel, roeddwn yn cyfeirio at faniffesto eich plaid ar gyfer y DU, nad yw’n rhoi unrhyw syniad sut y byddent yn dyrannu’r cyllid. Felly, ymddengys naill ai nad ydynt wedi darllen eich dogfen neu nad ydynt yn cytuno â hi. Ond fe ddywedoch chi'n gwbl gywir na ddylai Cymru golli unrhyw gyllid cyfatebol o ganlyniad i adael yr UE a bod yn rhaid parhau i wneud pob penderfyniad ynghylch y cyllid...
Mark Isherwood: Wel, fe ddywedaf wrthych beth y mae'r Blaid Geidwadol wedi rhoi manylion yn ei gylch: byddwn yn gwarantu na fydd Cymru yn colli ceiniog o gyllid; byddwn yn darparu cyllid cyfatebol ar gyfer amaethyddiaeth drwy gydol Senedd nesaf y DU; ac yn bwysicaf oll, byddwn yn cyflawni'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ac y maent yn parhau i'w gefnogi. Mae eich maniffesto ar gyfer y DU yn dweud...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Efallai y bydd y Gweinidog yn cofio, yn gywir, rwy'n credu, iddo ef a minnau drafod y mater diwethaf hwnnw gyda Llywodraeth Fflandrys ym Mrwsel. Wythnos cyn etholiad cyffredinol y DU, mae'n ddealladwy y byddech yn cyfeirio'n ddilornus, fel y gwnaethoch ychydig eiliadau yn ôl, at faniffesto Ceidwadwyr y DU. Ond serch hynny, a wnewch chi o leiaf groesawu’n ofalus y datganiad...
Mark Isherwood: Ni allwch ymwrthod â'r demtasiwn, oni allwch? Fel y gwyddoch, mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 y DU, a gafodd gydsyniad deddfwriaethol gan y Siambr hon, yn datblygu fframweithiau i sicrhau, ni waeth beth sy’n digwydd ar ôl Brexit, fod marchnad sengl i'w chael yn y DU fel nad oes gennym rwystrau mewnol rhwng gwledydd y DU. Yn amlwg, mae trafodaethau fframwaith wedi eu gohirio...
Mark Isherwood: 2. Pa ddarpariaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud ar gyfer cydweithredu trawsffiniol ym Mhrydain ar ôl Brexit? OAQ54780
Mark Isherwood: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhagor o fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?
Mark Isherwood: —rwy'n ymwybodol bod hynny hyd yn oed wedi cefnogi fy merch fy hun mewn gwaith. Ac yn olaf, os caf i—un cwestiwn terfynol.
Mark Isherwood: Sut ydych chi'n gweithio gyda chyrff allweddol yn y trydydd sector sydd hefyd yn gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau, megis y Cyfeirlyfr Awtistiaeth yn Nhrefforest, sy'n gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar raglen cyflogaeth awtistiaeth, ac Oxfam Cymru, sy'n gweithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i wreiddio eu dull o fywoliaethau cynaliadwy i sicrhau bod gan staff yr Adran...
Mark Isherwood: Fel y dywedoch chi, heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau. Y thema eleni ar y diwrnod rhyngwladol yw 'mae'r dyfodol yn hygyrch'. Ym mis Mawrth 2013, cadeiriais ddigwyddiad yma—'Tuag at Gymru sy'n Galluogi: gwella rhagolygon cyflogaeth i bobl anabl'—ac yna roeddwn yn gyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd yr wyf yn ei gadeirio heddiw. Yn fy sylwadau cyflwyniadol, felly,...
Mark Isherwood: Wel, sylwaf fod y grŵp trawsbleidiol heddiw, na allwn fynd iddo, wedi cyfeirio at hynny a datblygiad y grŵp sy'n gweithio ym Manc Cambria i fwrw ymlaen â'ch cynigion ar gyfer banc cymunedol. Wrth gwrs, mae'r rhain yn cydredeg â datblygu cytundeb fframwaith bancio Swyddfa'r Post gyda 28 o fanciau yn y DU i alluogi cwsmeriaid ar y stryd fawr i allu manteisio ar wasanaethau bancio ehangach,...
Mark Isherwood: 1. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud i sefydlu banc cymunedol yng Nghymru? OAQ54778
Mark Isherwood: Nid yn unig fy mod yn eich cefnogi, ond rwy'n gobeithio y byddwch yn rhannu fy ymateb dymunol i'r datganiad ym maniffesto'r Ceidwadwyr: Defnyddir Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i glymu'r Deyrnas Unedig gyfan at ei gilydd. Yng Nghymru, ni fydd arian cyfatebol yr UE yn cael ei golli—mae hynny yn y maniffesto.
Mark Isherwood: Pe bai Llywodraeth y DU wedi gwario a benthyca mwy, fel y mae rhai yn ei gefnogi, byddai mwy o doriadau wedi cael eu gorfodi arnynt. Rwy'n ildio.
Mark Isherwood: Wel, ni chafodd fy nghefnogaeth i, fel y dywedais yma yn y Siambr yn 2004—neu dylwn ddweud yn yr hen Siambr yma yn 2004. Ac os gwiriwch y dyddiadau yn yr adroddiadau a'r bobl y maent yn eu henwi, fe welwch enwau Llafur, nid pobl a oedd yn yr wrthblaid ar y pryd—adroddiadau annibynnol. Fel roeddwn yn dweud, pe bai Llywodraeth y DU wedi gwario a benthyca mwy ers 2010, byddai mwy o doriadau...
Mark Isherwood: Wel, dangosodd adroddiadau annibynnol olynol yn dilyn chwalfa'r banciau fod Llywodraeth Lafur ddiwethaf y DU wedi anwybyddu rhybuddion ac wedi rheoleiddio'r banciau yn llai llym. Erbyn 2010 cyllideb y DU oedd y waethaf yn y G20, ar ôl Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE. Felly, gwaddol, nid dewis, oedd y cyni a etifeddwyd gan Lywodraeth y DU a ddaeth i rym yn 2010.
Mark Isherwood: Diolch. Cynghrair o dros 30 o ysgolion, sefydliadau cymunedol a ffydd, a grwpiau ledled gogledd-ddwyrain Cymru yw TCC—sef Trefnu Cymunedol Cymru. Yr wythnos diwethaf, mynychais lansiad swyddogol eu hymgyrch dysgu nid llwgu Cymru gyfan yn Ysgol y Grango yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam. Canfu eu hymchwil nad yw llawer o'r disgyblion mwyaf agored i niwed yn cael digon i'w fwyta yn ystod y...
Mark Isherwood: 2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am effeithiolrwydd y fenter prydau ysgol am ddim i ddisgyblion yng Nghymru? OAQ54750
Mark Isherwood: Diolch. Fel y gwyddoch, mae'n debyg, mae busnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru yn cynrychioli 99.3 y cant o'r holl fusnesau, bron i 65 y cant o gyflogaeth, â throsiant o fwy nau £46 biliwn y flwyddyn, £126 miliwn bob dydd. Ond, yn anffodus, mae cyfran uchel ohonyn nhw nad ydynt yn goroesi mwy na phum mlynedd, ac y tu hwnt i oroesi mae nhw hefyd yn wynebu heriau sylweddol. Mae...