Jeremy Miles: Mae'r Aelod a minnau wedi trafod y materion hyn droeon, yn cynnwys cyn yr etholiad diwethaf, wrth gwrs. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn gwybod bod cyfyngiad ar yr hyn y gallaf ei ddweud am y penderfyniad penodol hwnnw, oherwydd fy mod i'n Aelod lleol ynghyd â bod yn Weinidog. Ond, wrth gwrs, pan yw'r Llywodraeth yn dodi gofynion o ran sicrhau ffyniant y Gymraeg mewn cymunedau, mae disgwyl i...
Jeremy Miles: Diolch i Janet Finch-Saunders am ei chwestiwn. Gallaf roi sicrwydd iddi, efallai, fy mod eisoes yn cael trafodaethau gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r mater hwn. Mae wedi cael ei godi a’i drafod yn y Siambr hon sawl gwaith, gan gynnwys gan Cefin Campbell yn gynharach heddiw. Rwyf am adleisio'r pwynt a wnaeth y Dirprwy Weinidog mewn perthynas â'r pwynt...
Jeremy Miles: Mae Brexit a COVID-19 wedi dwysáu'r heriau i seilwaith economaidd-gymdeithasol cymunedau Cymraeg eu hiaith. Mae mynd i'r afael â'r heriau hyn yn ganolog i gyflawniad Cymraeg 2050. Mae ein rhaglen waith yn canolbwyntio ar gyfyngu ar effaith a sicrhau cynaliadwyedd a ffyniant ein cymunedau Cymraeg, a byddaf yn cyhoeddi ein cynlluniau'n fuan.
Jeremy Miles: Wel, nid yw pob un athro yn gorfod bod yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf newydd gael sgwrs gyda Cefin Campbell am y galw o ran recriwtio mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg. Ond mae hefyd angen darparu cefnogaeth, fel rŷn ni drwy waith y ganolfan ddysgu ac ati, i oedolion allu dysgu Cymraeg ar gyfer ymestyn defnydd y Gymraeg yn ein cymunedau ni'n gyffredinol. Felly, mae amryw o...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel gwnes i ddweud wrth ateb Gareth Davies yn fwy diweddar, rŷn ni'n ddibynnol ar gynigion sy'n dod o awdurdodau lleol yn y maes penodol hwn, fel rwy'n gwybod bod yr Aelod yn deall. Ond rŷn ni hefyd yn disgwyl gweld cynlluniau strategol uchelgeisiol gan bob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae pob un o'r awdurdodau lleol yn ei rhanbarth hi wrthi ar hyn o...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel y gŵyr, mae'n debyg, caiff cynigion ar gyfer ariannu'r rhaglen hon eu cyflwyno gan awdurdodau lleol, ac felly mater i awdurdodau lleol yw gwneud cynigion mewn perthynas ag ysgolion penodol. Nid ein lle ni fel Llywodraeth yw dynodi'r ysgolion unigol. Cânt eu cyflwyno gan ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol ar gyfer buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru,...
Jeremy Miles: Mae'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn Nwyrain De Cymru yn parhau i fod yn uchel. Mae dros £26 miliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei fuddsoddi yn y rhanbarth, gyda phump o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd, yn ogystal â darpariaeth gofal plant. Mae pecyn arall o £30 miliwn o gyfalaf a £2.2 miliwn o gyllid grant i gefnogi cynlluniau trochi yn y Gymraeg ar gael ar draws Cymru.
Jeremy Miles: Mae rhanbarth Dyffryn Clwyd wedi elwa ar gyfanswm o £80 miliwn o fuddsoddiad yn ystod y don gyntaf o gyllid rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Bwriedir buddsoddi £46 miliwn arall yn yr ail don o gyllid, a ddechreuodd yn 2019.
Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu bod pobl o gefndiroedd sy'n fwy difreintiedig wedi cario baich COVID mewn amryw o ffyrdd, gan gynnwys ym mywyd ysgol, ond yn llawer ehangach na hynny yn ein cymdeithas ni ac yn ein heconomi ni. Roeddem ni'n rhagdybio y byddai hynny'n risg, o beth roeddem ni'n gweld yn datblygu yn ystod COVID, ac felly dyna pam y gwnaethom ni ddarparu ymyraethau a ffynonellau ariannu a oedd yn...
Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw hefyd. Rydym ni wedi bod yn trafod hyn gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac wedi darparu mwy o gyllideb iddyn nhw eleni er mwyn gwneud mwy o waith gyda ni yn y maes hwn. Ond mae'n iawn i sôn mai un o'r sialensau yn y maes hwn hefyd yw'r gweithlu sydd yn gallu darparu addysg yn y Gymraeg, a hefyd argaeledd cymwysterau yn Gymraeg. Rydym ni wedi bod...
Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn, ac os ydy'r cyfrifoldebau yma yn gyfrifoldebau parhaol newydd, rwy'n ei groesawu fe iddyn nhw hefyd. Mae'r cwestiwn hwn yn un dilys iawn. Er mwyn inni allu ymestyn mynediad pobl i addysg Gymraeg ym mhob rhan o Gymru, mae'n rhaid sicrhau ein bod ni'n cyrraedd ac yn mynd yn bellach na'r targedau sydd gyda ni ar hyn o bryd o ran recriwtio, a dŷn ni ddim eto...
Jeremy Miles: Rwy'n deall diddordeb yr Aelod mewn cau'r bwlch cyrhaeddiad ac fe fydd yn gwybod yn iawn, o'r trafodaethau blaenorol a gawsom yn y Siambr hon, ei bod yn flaenoriaeth bwysig iawn i mi ac i'r Llywodraeth hon yn gyffredinol. Rwy'n rhannu ei phryder mewn perthynas â'r canlyniadau a welsom yr haf hwn, a oedd mewn gwirionedd yn dangos bod y bwlch cyrhaeddiad wedi tyfu. Roedd hynny'n rhywbeth...
Jeremy Miles: Bydd yr Aelod yn gwybod mai darlun rhannol iawn y mae'n ei roi o sefyllfa cyllid i ysgolion yng Nghymru. Fe fydd yn gwybod, ar nifer fawr o fesurau, fod swm y cyllid a fuddsoddir yn system addysg Cymru yn sylweddol uwch na'r hyn a fuddsoddir mewn ysgolion yn Lloegr, y mae hi ei hun yn ei ddewis fel cymharydd ar gyfer y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol o'r adroddiad a gwn am ei gynnwys, ac rwyf wedi...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu ei bod yn bwysig edrych ar y pwnc hwn gyda rhywfaint o gymedroldeb yn rhai o'r disgrifiadau a roddwn, oherwydd mae'n faes pwysig iawn i'n dysgwyr. Os yw'r Aelod wedi cael cyfle i edrych ar adroddiad Cymwysterau Cymru, 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol', bydd wedi gweld dadl Cymwysterau Cymru dros y diwygiadau y maent yn eu hargymell yn y ddau faes, a oedd, fel y mae'n cydnabod, yn...
Jeremy Miles: Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn am y cyfraniad y mae cludiant i'r ysgol yn ei wneud i'n huchelgeisiau ehangach i ddod yn Gymru sero-net. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud eiliad yn ôl y bydd angen cynlluniau teithio llesol uchelgeisiol ar gyfer ail-lansio, os mynnwch, y rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy ac rydym yn gweithio gyda'r bwrdd teithio llesol i sefydlu gofyniad sylfaenol ar gyfer y...
Jeremy Miles: Wel, diolch i Joyce Watson am y cwestiwn hwnnw. Fel y gŵyr, o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf, bydd angen i bob prosiect adeiladu, adnewyddu ac ehangu mawr newydd sy'n gofyn am gyllid drwy'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy, fel y bydd bryd hynny, ddangos gofynion carbon sero-net, ond bydd angen iddo hefyd gynnwys cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer bioamrywiaeth, ar gyfer teithio llesol ac ar...
Jeremy Miles: Mae ein plant a'n pobl ifanc ymhlith y rhai sy'n dadlau'n fwyaf angerddol dros ddull uchelgeisiol o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac felly, mae gan y sector addysg rôl sylfaenol i'w chwarae yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng hinsawdd. Dyna pam fy mod wedi mandadu gofynion carbon sero-net o dan faner newydd cymunedau dysgu cynaliadwy yn ein rhaglen ysgolion a cholegau'r...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rŷn ni yn buddsoddi'n sylweddol iawn er mwyn sicrhau cefnogaeth i awduron a phobl sy'n darparu adnoddau er mwyn sicrhau bod gan ein hathrawon ni'r deunyddiau sydd eu hangen er mwyn delifro'r cwricwlwm yn y ffordd gynhwysol mae'r Aelod yn sôn amdano fe. Os ydw i'n rhydd ar y diwrnod hwnnw, byddaf i'n hapus iawn i ddod i'r achlysur. Os wyf i ddim...
Jeremy Miles: Wel, credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig. Ymwelais ag Ysgol Gynradd Mount Stuart i lawr y ffordd o'r fan hon i lansio gwobr Betty Campbell i athrawon a oedd wedi dangos ymrwymiad penodol i amrywiaeth yn y cwricwlwm ac yn yr ystafell ddosbarth, a bûm yn siarad â'r bobl ifanc yno am eu modelau rôl yn eu cymunedau. Roeddent wedi gwneud prosiect lle roeddent yn dathlu cyfraniadau...
Jeremy Miles: Wel, rydym yn arwain y ffordd yng Nghymru fel y rhan gyntaf o'r DU i'w gwneud yn orfodol i addysgu hanesion a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifol ethnig yn y cwricwlwm, a bydd hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd addysgu profiadau'r gorffennol a'r presennol a chyfraniadau ein cymunedau lleiafrifol ethnig fel rhan o stori Cymru ar draws y cwricwlwm. Ac yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf,...