Bethan Sayed: Felly, pam y mae’n well yn nwylo Llywodraeth Prydain os ydynt hwy hefyd wedi pleidleisio yn y ffordd honno?
Bethan Sayed: Ydw, wrth gwrs, rwy’n bendant yn cytuno â hynny. Mae llawer o fythau wedi cael eu gwyntyllu ynghylch cost polisi ynni. Yr hyn y gwyddom yw ei fod yn rhan fach iawn o bris biliau cyfleustodau, ac rydym hefyd yn gwybod nad oes affliw o obaith o weld diwygio’r farchnad honno. Felly, gorsaf bŵer ynni adnewyddadwy yw’r opsiwn gorau o hyd—yr unig opsiwn. Yn yr un modd, mae gan yr UE bot...
Bethan Sayed: Rwy’n sefyll i gynnig gwelliannau Plaid Cymru. Mae yna gynamserol, wedyn mae yna’r ddadl hon. Edrychwch ar yr anhrefn sydd yng ngwleidyddiaeth Prydain drwyddi draw. Mae’r Prif Weinidog wedi mynd. Mae’r person a oedd yn olynydd mwyaf tebygol iddo wedi mynd. Brwydr arweinyddiaeth yn y Blaid Lafur. Ac eto, hyd yn oed wrth i arweinydd eu plaid eu hunain ymddiswyddo, am nawr, a gadael ei...
Bethan Sayed: Diolch. Yn ddiweddar, fe wnes i godi mater gydag arweinydd y tŷ ynghylch mater lleol gan etholwr i mi sydd yn ceisio cadw ei wŷr awtistig mewn ysgol arbennig, Maes y Coed, yn ardal Castell-nedd am flwyddyn arall, yn ychwanegol i’r flwyddyn ysgol, hyd nes y ceir cytundeb gyda bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg a’r adran addysg dros ei ddyfodol hirdymor. Mae yna ddarpariaeth i ganiatáu...
Bethan Sayed: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth addysg ar gyfer disgyblion ag awtistiaeth? OAQ(5)0006(EDU)
Bethan Sayed: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg ariannol?
Bethan Sayed: Ydy, mae’n ‘fine’.
Bethan Sayed: Rwy'n defnyddio 'Senedd' drwy'r amser yn fy mywyd cymdeithasol.
Bethan Sayed: A wnewch chi ildio?
Bethan Sayed: Ydych chi'n credu er hynny pe byddech yn ei roi yn y Gymraeg yn unig, na fyddai gennych hyd yn oed y broblem bosibl o bobl yn camddeall pa un ai Senedd Cymru ynteu Senedd y DU yr oeddech yn sôn amdani? Yn y Gymraeg, felly, byddai'n unigryw ac yn sefyll drosti ei hun, neu a fyddech chi'n anghytuno â hynny?
Bethan Sayed: Diolch, Lywydd, a hoffwn i siarad ar y gwelliannau yma. Rwy’n credu fy mod i’n mynd i ddechrau’r ddadl yma heddiw, ond heb ei gwthio at bleidlais, er mwyn inni allu cael y drafodaeth ynglŷn â’r newid yma yn y Cynulliad ac i ganiatáu wedyn i’r Llywydd ymgynghori ar y sefyllfa. Ond, yn gyntaf, hoffwn groesawu’r cyfle i siarad ar y mater yma a geiriad agored y cynnig—cynnig...
Bethan Sayed: Diolch. Y cefndir i'r datganiad hwn yma heddiw, rwy’n credu, yw ymrwymiad maniffesto a wnaeth y Prif Weinidog ym mis Ebrill. Ond, pan gyhoeddodd y tasglu hwn, dywedodd ei fod yn cael ei wneud, ac rwy’n dyfynnu: 'i herio'r pesimistiaeth di-baid a glywn gan Blaid Cymru... yn y Cymoedd. I wrando arnynt, ni fyddech yn meddwl bod dim byd byth yn digwydd yma. Wel, ein gwaith ni yw eu cywiro...
Bethan Sayed: Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn busnes yn seiliedig ar y ffaith fy mod am gael datganiad am gyfraniad y Llywodraeth i’r gwaith o sefydlu ardaloedd cefnogwyr ledled Cymru, yn enwedig o ystyried y rownd gynderfynol. Wrth i ni drafod yma heddiw, rwy’n cael cryn dipyn o negeseuon gan bobl nad ydynt wedi llwyddo i gael tocynnau i fynd i Stadiwm y Principality—cefnogwyr sydd wedi dilyn y...
Bethan Sayed: Brif Weinidog, bydd cap ar fudd-dal tai ar gyfraddau lwfans tai lleol yn berthnasol o fis Ebrill 2018 ond dim ond i denantiaethau a lofnodwyd ar ôl Ebrill 2016. Bwriedir y diwygiad hwn yn well i gyfochri'r rheolau yn y sectorau rhent preifat a chymdeithasol, ond bydd yn arwain at ddarpar denantiaid yn cael rhagor o broblemau o ran fforddiadwyedd os ydynt yn derbyn budd-daliadau neu eu bod...
Bethan Sayed: Rwyf yn enwebu Dr Dai Lloyd.
Bethan Sayed: Mae pob llygad arnaf i.
Bethan Sayed: Tybed a fyddai modd inni gael datganiad ynglŷn â lefelau diogelwch yn Tata Steel? Dywedaf hyn am fy mod wedi clywed rhai pryderon, yn y lle cyntaf gan etholwyr, o ran agweddau ar ddiogelwch gyda'r swyddi sy’n cael eu torri yno, ond mae wedi troi mewn gwirionedd yn ffrydlif gan etholwyr sy'n gweithio yn Tata Steel. Tybed a gawn ni ddatganiad i ddeall a yw'r Llywodraeth wedi bod yn siarad...
Bethan Sayed: Brif Weinidog, hoffwn adleisio’r pryderon a godwyd gan Julie Morgan o ran y sylwadau hiliol sydd wedi digwydd ers y bleidlais Ewropeaidd yr wythnos diwethaf, a byddwn yn condemnio'r dull hwnnw o ymateb i'r refferendwm Ewropeaidd. Ond tybed a ydych chi wedi ystyried sut, yn y dyfodol—gyda’r Gweinidog cymunedau, o bosibl—y gallwn ni geisio dod â chymunedau at ei gilydd. Oherwydd,...
Bethan Sayed: Diolch am yr ateb hwnnw. Mae’r trydydd cwestiwn, ac rwy’n siŵr eich bod chi’n gwybod yn iawn am hyn—. Roedd Bil gen i am gynhwysiant ac addysg ariannol y tymor diwethaf. Roeddwn wedi gweithio eto gyda’r cyn-Weinidog a’r grŵp a oedd yn gweithio ar syniadaeth a strategaeth newydd ar gyfer cynhwysiant ariannol. A allaf ofyn beth sydd yn digwydd yn awr gyda’r gwaith tyngedfennol...
Bethan Sayed: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Yn amlwg, nid wyf yn erbyn i Weinidogion eraill gael tlodi yn eu portffolios, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr, yn y pen draw, fod yna un Gweinidog a fydd yn gyfrifol. Rydym wedi cael profiadau mewn pwyllgorau lle rydym wedi gofyn cwestiynau am dlodi i amryw o Weinidogion, ac maent bob amser o bosibl heb ateb y cwestiynau hynny am nad yw wedi bod yn rhan...