David Melding: Ar estyn yr etholfraint, credaf fod hwn yn fater sy'n galw am ei archwilio'n ofalus, er bod enghreifftiau amlwg o gwmpas y byd o'r manteision a ddaw yn sgil gostwng yr oedran pleidleisio i 16, neu'r oedran cymwys i 16. Mae hynny'n cwmpasu'r rhan o'r boblogaeth a fydd, yn amlwg, yn byw gyda'r penderfyniadau pwysicach a wneir ar eu rhan, ond hefyd o ran addysg, hyfforddiant—mae'r materion...
David Melding: Rydym yn croesawu cyflwyno'r Bil hwn. Mae'n gydnabyddiaeth bwysig o statws y Senedd fel deddfwrfa, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol hefyd wedi'i nodi. Felly, mae'n garreg filltir bwysig. Ac rwy'n credu bod y rhai ohonom sydd wedi gwasanaethu—fel rydych chi wedi'i wneud, yn y Gadair ar hyn o bryd, Ddirprwy Lywydd—ers 1999, mae bron fel pe baem wedi bod mewn confensiwn cyfansoddiadol enfawr,...
David Melding: Rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio gyda'i gilydd ar hyn, ac mae dedfrydau byr, rwy'n credu, yn arbennig o anodd, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael dedfrydau byr, yn aml iawn am droseddau nad ydynt yn cynnwys trais yn erbyn unigolion, er enghraifft. Yn amlwg, os ydym yn defnyddio cosbau cymunedol, rydym yn llawer mwy tebygol o sicrhau nad yw...
David Melding: Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Tybed a ddarllenoch chi'r dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Brifysgol Caeredin, yr Institute for Government a Phrifysgol Sussex, lle mynegodd y tystion hynny amheuon sylweddol ynglŷn ag unrhyw bŵer i'r sefydliadau datganoledig gael feto dros gytundebau masnach, a rhybuddiodd un o'r tystion yn bendant fod honno'n broses a allai fod yn beryglus, ac a oedd yn...
David Melding: Mewn perthynas â hynny, credaf fod y gwaith sylweddol o adfywio canol y dref yn y Porth, sy'n cael ei ystyried gan gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, yn cynnwys canolfan drafnidiaeth ac ardal yr orsaf newydd, a fyddai'n cysylltu â metro de Cymru. Gwyddom fod gennym sawl achos yng Nghymru lle mae gorsafoedd bysiau a threnau mewn lleoliadau ar wahân, nid yw'r amserlenni wedi'u cydamseru...
David Melding: 5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r dystiolaeth a gafwyd hyd yma gan Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin yn ystod ei ymchwiliad i 'Brexit, masnach a thollau: goblygiadau i Gymru'? OAQ53394
David Melding: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith a gaiff tueddiadau cyfredol mewn gwerthiannau manwerthu, ar economi ehangach Cymru?
David Melding: Prif Weinidog, cyhoeddodd Llywodraeth y DU un o'r treialon iechyd meddwl mwyaf yn y byd yr wythnos diwethaf i ddarganfod yr hyn y gellir ei wneud yn wahanol i wella iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Bydd 370 o ysgolion Lloegr yn cymryd rhan yn y treialon hyn, gan brofi gwahanol ddulliau, a bydd naw o ardaloedd yn treialu ffyrdd newydd o sicrhau bod plant sy'n dechrau derbyn gofal yn cael y...
David Melding: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r ddarpariaeth cymorth o ran iechyd meddwl i bobl ifanc? OAQ53395
David Melding: A gaf fi ddiolch i Hefin am gyflwyno'r pwnc hwn i'r Cynulliad heddiw ac rwy'n dymuno'n dda iawn i'r ymgyrch yng Nghaerffili? Yr wythnos diwethaf, bûm yn hyrwyddo peiriant y cynllun dychwelyd blaendal, a oedd yn cael ei arddangos. Rwy'n credu bod llawer o'r Aelodau wedi rhoi cynnig arno. Ac mae'n hawdd iawn i'w ddefnyddio—gallaf weld pawb ohonom yn dod i arfer ei ddefnyddio, a bydd llawer o...
David Melding: Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol nad ydynt yn achosion brys, mae'r gyfradd o bobl sy'n colli apwyntiadau dros 10 y cant bellach. Sylwais yn Lloegr mai un peth y maent yn ei wneud wrth anfon negeseuon testun—ac efallai ein bod ni yn ei wneud, ond os gallech fy ngoleuo—yw rhoi syniad bras o'r gost i'r GIG pan...
David Melding: Weinidog, roedd yn galonogol clywed am rai o'r mecanweithiau ymgynghori uniongyrchol rydych yn eu defnyddio i wrando ar farn pobl ifanc ar y cwricwlwm a'r broses o'i ddatblygu, a chymeradwyaf yr hyn rydych wedi'i wneud yn hynny o beth. Hoffwn wybod a wnaethpwyd unrhyw beth gyda'r cynghorau ysgol, gan eu bod mewn sefyllfa dda iawn i wneud gwaith ystyried manwl lle maent yn rheoli'r broses ac...
David Melding: Hoffwn i ddechrau gyda'r meysydd yr wyf yn credu bod cytundeb llwyr â nhw, fwy na thebyg, ar draws y Siambr, ar y mater hwn o'r pwys mwyaf, yn fy marn i—baromedr cyflawn ar gyfer y math o warineb sydd gennym mewn cymdeithas, neu fel arall. Credaf mai cysgwyr allan yw'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, o ran bod mor bell o dai diogel ac addas. Roeddwn i'n falch o glywed hynny gan y...
David Melding: Rwy'n credu, a bod yn blaen, Prif Weinidog, mai rhywbeth pitw iawn fyddai datganoli gweinyddol yn y maes hwn. Nawr, ers 1945, y contract cymdeithasol a fu'n sylfaen i'r wladwriaeth les yw bod gan ddinesydd berthynas uniongyrchol â'r wladwriaeth ar gyfer lefel o ddiogelwch economaidd ac, ni waeth ble mae ef neu hi yn byw yn y Deyrnas Unedig, bod ganddo'r un hawliau economaidd sylfaenol i...
David Melding: Diolch iddo am ildio, oherwydd cefais fy ethol yn 1999. Roeddwn yn derbyn y canlyniad yn 1997. Gwnaeth uwch aelodau'r grŵp, ar ôl inni symud o dan arweinyddiaeth Nick Bourne, lawer o waith ar y pryd, ac nid oedd ein haelodau'n diolch i ni bob amser. Credaf eich bod yn cyfeirio at faniffesto'r DU—roedd y geiriad yn llac yn hwnnw—ond ni fu erioed—erioed—yn bolisi gan Blaid Geidwadol...
David Melding: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Melding: A wnewch chi ildio?
David Melding: Diolch i chi am ildio. Roeddwn yn cefnogi'r cytundeb. Roeddwn am aros yn yr Undeb Ewropeaidd ac fe ymladdais yn galed i gyflawni hynny, ac fe fethais. Ond nid wyf yn meddwl ei fod yn fethiant yn wyneb wal o gelwyddau, er bod llawer o siarad slic wedi'i wneud gan bobl. Ond rwyf wedi derbyn y canlyniad. Rwy'n gresynu'n fawr at y ffaith y byddai'r cytundeb hwnnw wedi pasio o un bleidlais pe bai...
David Melding: Weinidog, i ddathlu cynnal Cwpan Rygbi'r Byd, mae Llywodraeth Japan wedi lansio tymor o ddiwylliant rhwng Japan a'r DU. Mae pwyllgor gweithredol yng Nghymru yn hyrwyddo digwyddiadau yma. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan fawr yn hyn o beth gan y dylem ddathlu ein cysylltiadau â Japan. Maent wedi gwneud cymaint yn economaidd, ac mae gennym lawer o gysylltiadau...
David Melding: Weinidog, yn amlwg felly, mae'n rhaid rhoi hyn ar waith o 1 Ebrill ymlaen, a chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl. Nid yw diwedd mis Chwefror yn rhoi llawer o amser iddynt roi mesurau amrywiol ar waith fel y gallant weithredu'r dyfarniadau cyflog hyn yn effeithiol. A oes unrhyw obaith y gallwch gyflymu'r cyhoeddiad, sydd eisoes yn eithaf hwyr yn y cylch,...